Galw am gefnogi mwy o bobl hŷn yn ôl i fyd gwaith
- Cyhoeddwyd
"'Dan ni ddim yn cyflogi neb a 'dan ni 'mond yn gweithio rhan o'r flwyddyn, ond mae'r busnes yn llewyrchu."
Ar ôl ymddeol yn gynnar fel athro, a hynny ar ôl gyrfa gyntaf fel gwyddonydd, doedd Dafydd Rhys Jones ddim am roi'r gorau i weithio.
Ond yn 55 oed, doedd ganddo ddim profiad busnes.
Daeth PRIME Cymru i'r adwy. Gyda chymorth mentor fe sefydlodd gwmni mêl Anglesey Bees ar y cyd â'i wraig.
Yn ôl PRIME Cymru byddai economi'r wlad yn tyfu petai mwy o bobl hŷn yn cael eu hannog i ddychwelyd i'r gweithle.
Troi hobi yn fusnes
"Beth oedd PRIME Cymru yn ei wneud mewn difri' oedd rhoi hyder i ni i symud ymlaen a gwireddu'r freuddwyd i greu busnes," eglura Mr Jones.
Roedd am droi ei hobi fel gwenynwr yn fusnes llwyddiannus.
"Mewn termau ymarferol mi gafon ni gyngor ar sut i farchnata, sut i flaenoriaethu, sut i hysbysebu, sut i ddefnyddio'r we, cyfryngau torfol ac yn y blaen," meddai.
"Mi gafon ni gyngor ar bob agwedd o sut i reoli busnes."
Yng Nghymru, mae cyfradd uchel iawn o bobl sy'n cael eu hystyried yn economaidd anweithredol.
Mae'r rhain yn cynnwys myfyrwyr, gofalwyr a phobl sy'n barhaol ddi-waith oherwydd eu hiechyd.
Ond mae'r ystadegau hefyd yn cynnwys pobl hŷn sydd wedi gadael byd gwaith, ond fyddai'n ystyried dychwelyd pe bai'r amodau'n addas.
Yn ôl y ffigyrau diweddaraf roedd dros chwarter poblogaeth Cymru yn cael eu hystyried fel economaidd anweithgar - sef achosion lle nad yw pobl yn gweithio ac nid oes modd iddynt weithio.
Yn y tri mis hyd at ddiwedd Rhagfyr 2022, cyfradd anweithgarwch economaidd Cymru oedd 25.5%, sef cynnydd o 2.5% o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2021.
Dyma'r cynnydd mwyaf mewn anweithgarwch economaidd o holl wledydd a rhanbarthau'r DU, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).
Arhosodd y gyfradd ddiweithdra yn weddol sefydlog ar 3.5%, sef cynnydd o 0.4% ar y flwyddyn flaenorol.
Ond bu cwymp yn y gyfradd gyflogaeth, a ddisgynnodd 2.6% i 71.8% yn y tri mis hyd at ddiwedd Rhagfyr.
Pobl hŷn â 'lot i'w gynnig'
Pobl dros 50 oed yn benodol mae PRIME Cymru yn eu helpu. Wedi'i sefydlu yn 2001, maen nhw wedi helpu dros 13,000 o bobl 'nôl i fyd gwaith.
"Ers 2018 da' ni wedi gweld cynnydd yn y bobl dros 55 sy'n dod aton ni am help," eglura Sarah Finnegan-Dehn, un o ymddiriedolwyr yr elusen.
Mae ganddyn nhw rwydwaith mentora ar draws Cymru, gyda gwirfoddolwyr ym mhob rhan o'r wlad i gynnig hyfforddiant a chyngor i bobl hŷn sy'n gobeithio dychwelyd i'r gwaith.
Mae hyn yn cynnwys hyfforddiant mewn technoleg ddigidol ac awgrymu cyfleoedd eraill am fwy o hyfforddiant neu gyfleoedd am nawdd.
"Mae rhai pobl wedi colli swydd yn ystod y pandemig. Mae rhai wedi penderfynu bod nhw eisiau newid bywyd i gael cydbwysedd gwahanol rhwng bywyd a gwaith," meddai Ms Finnegan-Dehn.
"Beth sy'n bwysig i gofio ydy, mae'n stori newyddion da mewn ffordd am y bobl yma, oherwydd mae ganddyn nhw lot o sgiliau, mae ganddyn nhw lot o brofiad ac mae ganddyn nhw lot i gynnig i'r economi yng Nghymru."
Hyder yw'r unig rwystr i bobl dros 50 i fynd 'nôl i'r gwaith yn ôl y cyfarwyddwr adnoddau dynol byd-eang, Catrin Asbrey.
"Os chi wedi dod mas o'r lle gwaith rhyw bum mlynedd yn ôl, mae popeth wedi newid," meddai.
"Doedd dim Zoom na Teams yn y lle gwaith, roedd rhaid i bawb ddod mewn i'r swyddle bob dydd ac mae'r rheiny'n bethe sy'n newid mawr.
"Os yw'r bobl sydd wedi dod allan o'r gwaith yn colli hyder yn y pethau yna, dyw cyflogwyr ddim gyda'r hyder i'w cyflogi nhw.
"Ni'n ddigon hapus i gyflogi pobl beth bynnag yw eu hoed nhw tra bod ganddyn nhw'r sgiliau i wneud y swydd ac i fihafio'n dda yn y lle gwaith."
I Dafydd Rhys Jones, bod yn hunangyflogedig mewn oedran diwedd gyrfa arferol ydy'r peth gorau posib y gallai fod wedi ei wneud.
"Mae bod dros 55 yn golygu hyblygrwydd weithiau 'di pobl ddim yn sylweddoli," meddai.
"Achos ella bod y plant wedi gadael coleg, 'dyn ni wedi talu'r morgais ac yn y blaen. Mae'n rhoi cyfle i ni 'neud pethau fysan ni ddim wedi gallu risgio gwneud ynghynt.
"'Sdim rhaid i'r busnes fod yn rhywbeth hollol enfawr ac yn fwystfil o beth sy'n codi braw ar bobl. Mi fedrith o fod yn rhywbeth yn hollol o dan reolaeth ni'n hunain."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2023