Cerbydau gwersylla: 'Gwario'n lleol heb y problemau'

  • Cyhoeddwyd
Faniau
Disgrifiad o’r llun,

Mae adroddiadau o wersylla anghyfreithlon wedi bod yn fwy amlwg yng Nghymru ers y pandemig

Mae cynlluniau wedi'u cyflwyno i alluogi perchnogion carafanau a cherbydau gwersylla i aros dros nos yn rhai o feysydd parcio Gwynedd.

Fe ddaw yn sgil pryderon am rai perchnogion carafanau a cherbydau eraill yn gadael sbwriel ar eu hôl.

Ond gyda safleoedd 'aires' eisoes yn boblogaidd mewn gwledydd fel Ffrainc, bwriad yr awdurdod yw peilota cyfleusterau tebyg yng Ngwynedd.

Fel ymateb i bryderon fod cerbydau gwersylla yn aros dros mewn mannau lle nad oedd hawl iddyn nhw i wneud, byddai'r safleoedd yn darparu cyfleusterau sylfaenol mewn meysydd parcio penodol.

'Lleiafrif yn gadael sbwriel'

Mae ceisiadau cynllunio bellach wedi eu cyflwyno ar gyfer pedwar safle fel rhan o'r cynllun 'Arosfan', gyda grant o £240,000 eisoes wedi'i ddarparu gan Lywodraeth Cymru.

Ond wrth siarad gyda BBC Cymru Fyw, pwysleisiodd deilydd portffolio economi'r cyngor mai nad eu bwriad oedd i gystadlu gyda safleoedd gwersylla sydd eisoes yn bodoli.

Yr wythnos hon mae ceisiadau cynllunio wedi'u cyflwyno ar gyfer pum maes parcio oddi fewn y sir, yn benodol:

  • Cei'r Gogledd, Pwllheli (5 man aros)

  • Y Maes, Cricieth (9 man aros)

  • Y Promenâd, Bermo (9 man aros)

  • Maes parcio'r Glyn, Llanberis (9 man aros)

  • Maes parcio Shell, Caernarfon

Disgrifiad o’r llun,

Mae bwriad i ddarparu naw safle i gerbydau gwersylla ym maes parcio'r Glyn, Llanberis

Byddai defnyddwyr y pum safle yn talu ffi i barcio am uchafswm o 48 awr, ond ni fydd hawl cynnal gweithgareddau megis tanau gwersyll a barbeciws.

Yn ôl y dogfennau cynllunio, sydd wedi'u cyflwyno gan adran economi'r cyngor, oherwydd y cynnydd yn nifer y bobl yn dewis ymweld â Gwynedd mewn cerbydau gwersylla, mae "lleiafrif yn gadael sbwriel ac yn baeddu cilfannau, gwrychoedd a thraethau gerllaw lle maent wedi bod yn aros".

Ond yn ôl casgliadau arolwg gan y cyngor, byddai 92.2% o berchnogion cerbydau gwersylla yn barod i ddefnyddio safleoedd tebyg i 'aires' petaent ar gael yn y sir.

Y cyfleusterau fyddai'n debyg o fod ar gael yn y meysydd parcio penodol fyddai dŵr yfed ffres, man i waredu gwastraff a biniau sbwriel.

Ond does dim awgrym y byddai cyflenwad trydan, sef cyfleuster oedd ddim yn uchel ar restr y rheiny oedd wedi ymateb i arolwg y cyngor.

'Gwario'n lleol heb greu problemau'

Yn ôl deilydd portffolio economi Cyngor Gwynedd, y bwriad yw i geisio manteisio ar y buddion economaidd ond drwy gynnig man pwrpasol a diogel i barcio dros nos.

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys wrth BBC Cymru Fyw: "'Dan ni gyd yn cofio'r cyfnod clo, yr ailagor a'r ofnau a phryderon yn lleol fod cymaint yn dod i Wynedd hefo campervans ac yn gadael llanast ar eu holau, yn parcio yn rwla rwla heb gyfleusterau addas i waredu gwastraff.

"Mae aires yn reit gyffredin yn Ffrainc... gwario yn y trefi lleol ac aros dros nos heb greu problemau i'r gymuned leol.

Disgrifiad o’r llun,

Y Cynghorydd Nia Jeffreys: "Os yw'n llwyddiant mae'n ddigon posib fydd 'na fwy"

"Mae'n gynllun hollol newydd i ni, ac i ddweud y gwir yn arloesol, yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i edrych ar hyn."

Gyda'r cynllun yn un peilot, ychwanegodd y byddai'n gyfle i ddysgu gwersi ac i weld beth sy'n gweithio.

"Y nod ydi dod â fwy o fuddion a gwariant i'n trefi, a llai o wastraff wrth ochr y ffordd," meddai.

"Os yw'n llwyddiant mae'n ddigon posib fydd 'na fwy, ond mae'n gorfod bod yn rhan o'r datrysiad i'r problemau 'dan ni wedi weld yn y sir.

"'Dan ni isio cynyddu capasiti, 'dan ni'n clywed yn aml am y Foryd yng Nghaernarfon a'r traeth ym Morfa Bychan, hyd yn oed meysydd parcio archfarchnadoedd.

"Felly 'dan ni'n trio defnyddio ein pwerau gorfodaeth, ond hefyd cynnig rhywbeth gwahanol fel bod nhw'n agos i ganol trefi a'u bod nhw'n gwario.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Gwynedd (Dogfennau cynllunio)
Disgrifiad o’r llun,

Mae hefyd bwriad i ddarparu naw man parcio dros nos ar y Maes, Cricieth

"Mae'r gefnogaeth wedi bod yn gryf iawn, ond 'dan ni ddim yma i gystadlu efo cwmnïau preifat, ac os 'dan ni'n ffeindio dydi'r peilot ddim yn cynnig gwerth, peilot ydi o a fydd o'n dod i ben."

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Amgylchedd: "Rwyf wrth fy modd bod cynlluniau i dreialu safleoedd Arosfan yn cymryd cam arwyddocaol arall ymlaen.

"Rydym yn gweithio'n galed i gael y cydbwysedd cywir rhwng hyrwyddo diwydiant twristiaeth cynaliadwy, mynd i'r afael â'r materion a achosir gan wersylla dros nos anghyfreithlon ac anghyfrifol, ac hefyd bod yn barchus at fusnesau a mentrau preifat."

Mae disgwyl i'r cynlluniau fynd gerbron Pwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd dros yr wythnosau nesaf, gyda gobaith y byddan nhw mewn lle erbyn y gwanwyn.

Pynciau cysylltiedig