Gwynedd yn trafod safleoedd parcio dros nos i gerbydau
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Gwynedd yn ystyried sefydlu safleoedd ble bydd carafanau a cherbydau gwersylla yn cael parcio ac aros dros nos.
Daw hynny yn dilyn prysurdeb mawr dros yr haf eleni a llynedd, pan welwyd cynnydd sylweddol yn nifer y bobl oedd yn dod ar wyliau i Gymru yn hytrach na mynd dramor oherwydd Covid.
Fe arweiniodd hynny at achosion o bobl yn aros dros nos yn eu cerbydau gwersylla mewn meysydd parcio ble nad oedd hawl ganddyn nhw i wneud, a phroblemau sbwriel yn codi o hynny.
Mae'r cyngor nawr eisiau gwario £100,000 ar sefydlu chwe safle mewn meysydd parcio presennol, tebyg i 'aires' sy'n cael eu canfod mewn gwledydd fel Ffrainc.
Mae 'aires' yn safleoedd gwersylla sydd ond yn cynnig cyfleusterau sylfaenol, fel dŵr a lle i gael gwared ar garthion, ac felly yn rhatach fel arfer na safleoedd gwersylla arferol.
Yn ôl adroddiad y cyngor, roedd gwersylloedd carafanau presennol y sir yn hynod o brysur yn ystod 2020 a 2021, ac felly byddai'r safleoedd newydd yn lleihau'r pwysau arnynt yn ogystal â lleihau faint o wastraff a sbwriel sy'n cael ei adael.
Ychwanegodd y Cynghorydd Gareth Thomas, sy'n gyfrifol am ddatblygiad economaidd, y byddai'r safleoedd newydd hefyd yn golygu bod ymwelwyr yn aros yn agos i drefi neu bentrefi, ac felly'n fwy tebygol o gyfrannu'n ariannol i fusnesau lleol.
"Mae nifer uchel y bobl sydd wedi bod yn ymweld wedi bod yn destun pryder mewn rhai ardaloedd, gyda rhai yn aros mewn cerbydau gwersylla mewn llefydd lle does dim caniatâd i gysgu yno dros nos," meddai.
"Dyna pam rydyn ni'n awyddus i ystyried camau allai wella rheolaeth yn y maes yma."
Daw'r cynnig yn dilyn pryderon fod rhai ymwelwyr wedi bod yn "parcio ble bynnag maen nhw eisiau" mewn rhannau o Wynedd, gan gynnwys mewn llefydd anaddas a pheryglus.
"Rydyn ni wedi gweld hyd at 15 o'r cerbydau yma rai nosweithiau yn parcio mewn llefydd anghysbell sydd heb gyfleusterau priodol o gwbl," meddai'r Cynghorydd Simon Glyn wrth drafod y mater mewn cyfarfod y llynedd.
Ond fe wnaeth arolwg o berchnogion cerbydau gwersylla ganfod y byddai dros 92% ohonynt yn defnyddio safleoedd tebyg i 'aires' petaen nhw ar gael.
Petai'r cynllun un cael ei gymeradwyo byddai disgwyl i'r cyfnod cynllunio ddechrau ym mis Chwefror 2022, gyda'r safleoedd cyntaf yn agor erbyn gwanwyn 2023.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Awst 2020
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd7 Medi 2021