Breuddwyd NFL myfyriwr rygbi o Gymru
- Cyhoeddwyd
Gyda'r Super Bowl newydd gloi tymor yr NFL yn yr Unol Daleithiau a phencampwriaeth rygbi'r Chwe Gwlad ar ei chanol yng Nghymru, mae Evan Williams mewn sefyllfa unigryw i drafod y ddwy gamp.
Mae'r myfyriwr 22 oed yn credu y gallai fod y Cymro cyntaf i chwarae pêl-droed Americanaidd i dîm coleg yn yr UDA wedi iddo gyfnewid ei grys rygbi am helmet a phads y gêm yn America.
Wedi ei fagu ym Mhen-y-bont a mynychu Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd a'r chweched dosbarth yn y Bontfaen, breuddwyd Evan ers pan oedd yn blentyn oedd chwarae rygbi yn broffesiynol a chynrychioli ei wlad rhyw ddydd.
Ond chwalwyd ei freuddwyd ar ôl methu â chael ei ddewis i academi Caerdydd dan 18 am ei fod yn "rhy fach" meddai Evan.
Er hynny mae nawr yn llygadu'r posibilrwydd o uchelfannau gêm mwyaf poblogaidd America ar ôl i'r Unol Daleithiau roi cyfle iddo gydag ysgoloriaeth rygbi i brifysgol Lindenwood yn Missouri yn 2018.
Tra'n cwblhau gradd mewn bioleg fe weithiodd ar ei sgiliau gan ennill clod a gwobrau; roedd cyfle i fynd ymhellach gyda'i rygbi ond oherwydd ei allu cicio awgrymodd ei gyd-fyfyrwyr ei fod yn rhoi cynnig ar y gêm Americanaidd.
A dyna a wnaeth, gan ddogfennu ei daith i berffeithio ei gicio ar ei gyfrifon Tik Tok ac Instagram dan yr enw rugbynudge. Erbyn hyn mae ganddo ymhell dros 20,000 o ddilynwyr ond, yn fwy na hynny, fe ddaeth ei fideos i sylw timau coleg UDA a'i helpu i gael lle.
"Roedd gen i flwyddyn a hanner ar ôl i astudio yma mewn prifysgol felly meddyliais pam ddim ei ddefnyddio ar chwaraeon dwi erioed wedi ei chwarae o'r blaen? A mwynhau profiad yn America does na ddim un Cymro arall erioed wedi ei gael?" meddai Evan wrth siarad gyda Cymru Fyw o ochr arall yr Iwerydd.
Cystadleuaeth am le
Nid ar chwarae bach mae cael i mewn i dîm fel hyn, hyd yn oed i chwaraewyr sydd wedi bod yn hyfforddi ers blynyddoedd, ac mae cystadleuaeth ffyrnig am ysgoloriaeth i chwarae i dîm coleg.
Ar ôl cael ei wrthod dro ar ôl tro fe lwyddodd Evan i gael ei droed yn y drws gyda chynnig i ymuno gyda thîm coleg Missouri Western lle mae'n gwneud gradd uwch mewn busnes.
"Er mor ddibwrpas roedd yn ymddangos, mae'r ffaith mod i wedi gwneud mwy o gicio na neb arall ar y cae rygbi wedi talu mewn ffordd fyddwn ni byth wedi gallu ei ddychmygu," meddai Evan sy'n giciwr, neu punter, i'r tîm.
"Felly dwi mewn sefyllfa mae cystadleuaeth fawr amdani yn America ond rwy' hefyd wedi gweithio'n galed i gael lle ydw i. Wnes i wneud lot o waith o ran marchnata fy hun a rhoi fy hun ar y cyfryngau cymdeithasol a hefyd gweithio i fod yn giciwr da.
"Dwi wedi bod yn gwneud hyn ers pan oeddwn i'n fach iawn. Rwy' wedi treulio'r holl amser 'na yn gweithio tuag at bod yn chwaraewr rygbi proffesiynol ac yn sydyn mae cyfle fel hyn yn cynnig ei hun a dwi'n neidio arno!"
Yr holl ffordd i'r NFL?
Mae cyrraedd y brig yn nhimau prifysgolion yr Unol Daleithiau yn gam cyntaf tuag at bod yn ddigon da i gael eich ystyried ar gyfer yr NFL - y National Football League.
"Wrth gwrs mod i wedi meddwl amdano," meddai Evan.
"Mae'n bendant yn bosib ond dwi ddim yn mynd i roi pwysau ar fy hun i wneud iddo ddigwydd, oherwydd mae na siawns nad ydw i'n ddigon da, ond pwy a ŵyr!"
Mae rygbi yn dechrau dod yn fwy poblogaidd yn yr UDA meddai Evan ac ysgoloriaeth rygbi yn gyfle da i fynd yno i astudio a gwella'ch gêm.
"Mae'n llwybr gwych i rywun fel fi oedd yn cael ei adael allan o'r system academi," meddai.
Yn ôl Evan 'dyw system Cymru "ddim y mwyaf siarp" yn y byd ac mae'n feirniadol o'r ffordd mae talent yn cael ei feithrin yma gan ddweud fod y pwyslais ar ddewis chwaraewyr mawr yn hytrach na buddsoddi mewn datblygu chwaraewyr sy'n dangos talent.
"Dwi yn deall pam, ond yn anffodus i fechgyn fel fi, rydyn ni'n colli allan ac yn mynd a'n talentau i rywle arall.
"Dyna stori Lindenwood i mi - fe wnaethon nhw weld mod i'n chwaraewr rygbi da a gadael i mi dyfu yn naturiol y ffordd ro'n i i fod i wneud - ac fe drodd allan i fod y peth gorau dwi erioed wedi ei wneud.
"Mae na fechgyn sy'n dangos arwyddion o fod yn athletwyr gwych ond dydyn nhw ddim cweit yn barod - dyna lle mae Lloegr neu wledydd eraill, doethach, yn dweud 'wel mae ganddo dalent, wnawn ni ddim anwybyddu hynny - beth am weld beth ddaw mewn ychydig flynyddoedd'.
"I mi dyna yn union oedd y cyfle yma i ddod i America - cyfle i ddal i fynd a chael cefnogaeth - gyms da, hyfforddwyr da, y gefnogaeth dwi ei angen i fynd â fy hun i'r lefel nesaf.
"A dyna'n union beth wnes i - gweithio'n galed ar bob agwedd o'r gêm nes mae'r canlyniadau yn dechrau dangos."
'Ennill yw popeth'
Er bod y bêl yr un siâp mae pêl-droed Americanaidd yn fyd hollol wahanol i rygbi nôl adre meddai Evan.
"Mae gymaint mwy o bobl yn gwylio, mae angerdd pobl yn hurt i'r pwynt ei fod yn toxic a bod yn onest!
"Mae'n cut-throat; mae cymaint o arian yn y fantol, gymaint o bwysau i ennill, mae popeth ar raddfa mor fawr mae'n newid popeth am ddeinameg y gêm."
"Ennill yw popeth" yn America meddai ac mae'n colli'r teimlad o gyfeillgarwch mewn rygbi, gêm mae'n dal i'w charu.
"Bob dydd rydyn ni'n gorffen ein cyfarfod drwy weiddi 'play to win!'
"Fedrwch chi ddim gwneud camgymeriadau yn y dwylliant yma, rhaid i chi fod yn berffaith bob tro - peidiwch â cholli, peidiwch edrych y wan, fake it till you make it."
Ond dyma hefyd sy'n denu'r tyrfaoedd meddai Evan.
"Gan fod pobl yn gwybod pa mor cut-throat ydy e, mae'n eitha' cynhyrfus i'w wylio. A dyna pam mae'n nhw'n gwerthu'r stadiymau 120,000 sedd yma bob wythnos.
"Y freuddwyd fyddai'r NFL - fyddwn i'n dweud celwydd tawn i'n dweud bod e ddim; os dwi'n rhoi'r gwaith i mewn does dim rheswm pam na fyddai hynny'n bosib.
"Os 'dyw e ddim yn digwydd - dyna ni. Ond pam ddim anelu am y sêr? Y peth gwaethaf all ddigwydd ydy glanio ar y cymylau!
"Bydd hi'n stori gwerth ei dweud wrth fy mhlant pan ydw i'n hŷn - ond y peth pwysig ydi mod i'n cael profiad sy'n gwneud i mi dyfu a'r peth arall gwych ydi ei fod yn helpu fy rygbi hefyd os ydw i'n mynd nôl."