Costau ynni yn peryglu dyfodol clwb gweithwyr Y Tymbl
- Cyhoeddwyd
Mae clwb gweithwyr o Sir Gâr yn poeni'n arw am eu dyfodol wedi i'w biliau ynni godi dros bedair gwaith y gost arferol.
Yn ôl cadeirydd Clwb Gweithwyr Y Tymbl ger Cross Hands, mae'r bil trydan misol wedi codi o £500 i £2,500 mewn llai na blwyddyn.
Gyda'u cyflenwr ynni'n rhoi stop ar eu trydan oherwydd dyled oedd heb ei dalu, mae'r clwb bellach yn cael ei bweru gan eneradur disel, sy'n golygu nad oes digon o bŵer i drydanu pob ystafell.
Mae Clwb Gweithwyr Y Tymbl yn dyddio'n ôl i'r 19eg ganrif, ac mae wedi'i leoli gyferbyn â glofa Mynydd Mawr - pwll glo mwyaf cynhyrchiol Cwm Gwendraeth.
Agorwyd y clwb fel lle i addysgu a chynnig adloniant i'r dynion dosbarth gweithiol a'u teuluoedd.
Yn ôl trigolion lleol, roedd y clwb yn cynnwys cawodydd hefyd lle byddai'r dynion yn medru ymolchi cyn ei throi hi am adref.
Maen nhw'n dweud mai Clwb Gweithwyr Y Tymbl oedd "calon y gymuned", a'i fod yn parhau fel hynny hyd heddiw, gyda 600 o aelodau presennol.
Clwb Gweithwyr Y Tymbl yw pencadlys clybiau phêl-droed a rygbi'r ardal hefyd.
Yn ôl Angharad Williams, aelod o dîm rygbi merched Y Piod Pinc, maen nhw'n cael defnydd da o'r adeilad.
"Ni'n uso y building 'ma yn aml, ni'n use'o fe i ddal lan gyda ffrindiau, ni'n use'o fe i gael training sessions a ni'n use'o fe i socials ni," meddai.
"Mae'n bwysig iawn i ni gyd fel chwaraewyr," ategodd ei chyd-chwaraewr Brittany Lewis.
"Ni'n dod 'ma ar ôl gemau ac ymarfer, lle ni'n gallu cael sgwrs a siarad â'n gilydd, mae'n bwysig iawn i mental health ni gyd."
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gyda chostau ynni'n codi'n aruthrol, mae'r clwb wedi wynebu trafferthion ariannol.
Yn ôl Helen Lloyd, cadeirydd Clwb Gweithwyr Y Tymbl, mae tua £13,000 o ddyled gyda'r clwb am drydan oherwydd y cynnydd diweddar mewn costau.
O ganlyniad, mae'r cyflenwr ynni wedi rhoi stop ar bweru'r clwb.
"Dethon ni mas o Covid, fe gaeon ni, ond da'th pawb nôl i supporto ni ar ôl Covid," meddai.
"Ond mae'r trydan 'di mynd lan gymaint. Mae e 'di mynd lan o £500 y mis i £2,500 y mis.
"Ma' wastad dyled gyda ni yn y clwb, ond mae wastad rhywun yn fodlon helpu dros dro.
"Mae'r rygbi wedi bod yn dda i ni, mae'r football wedi bod yn dda i ni, mae'r committee wedi bod yn dda i ni hefyd yn talu bil bach fan hyn a fan 'na a chael yr arian 'nôl pan mae e 'da ni, ond dim byd fel y sefyllfa ni ynddo nawr."
Gyda'r clwb bellach yn cael ei bweru gan eneradur disel, mae'r cadeirydd yn esbonio nad oes rhai ystafelloedd yn medru cael eu defnyddio oherwydd diffyg trydan.
"Ni ffaelu ca'l gole'r snwcer arno nawr achos s'dim digon o power i droi'r gole arno," meddai Ms Lloyd.
"Ma' popeth nawr yn dibynnu ar y generator sy' gyda ni achos ma'r bobl wedi troi ni off achos o'n ni'n ffaelu fforddio talu'r bil."
Mae'r brif ystafell o fewn y clwb hefyd heb drydan, a chyngerdd oedd wedi'i threfnu yno ymhen pythefnos wedi gorfod cael ei gohirio.
'Bydd dim unman ar ôl'
Yn ddagreuol, roedd y cadeirydd yn cwestiynu egwyddorion y cwmnïau ynni, sy'n eu barn hi yn cael effaith andwyol ar gymunedau.
"Sai'n deall fel ma' nhw ddim yn gallu helpu pobl," meddai Ms Lloyd.
"Bydd dim unman ar ôl… bydd neb yn gallu fforddio byw cyn bo hir."
I Letitia Davies, sy'n byw'n lleol ac yn aelod o bwyllgor y clwb, byddai'n od meddwl am Y Tymbl heb Glwb y Gweithwyr.
Ar ei chyfnod mamolaeth ar hyn o bryd, mae'n dweud ei bod yn dod i'r clwb yn aml.
"Fi'n dod fan hyn lot i weld ffrindiau," meddai. "Achos fi off gwaith ar y funud, fi'n dod fan hyn i socialise'o.
"Ma'r plant yn dod mewn hefyd - ma' nhw'n cael partis pen-blwydd 'ma yn yr ystafell fawr mewn fan 'na, ond s'dim electricity mewn 'na ar y foment so ma hwnna ar stop ar y funud."
Ers y flwyddyn 2000, yr aelodau sy'n berchen ar Glwb Gweithwyr Y Tymbl.
Yr wythnos ddiwethaf fe ddaethon nhw ac aelodau'r pwyllgor ynghyd i geisio meddwl am ffyrdd o godi arian ac achub y clwb.
Penderfynodd yr aelodau i ddod â'r dyddiad adnewyddu aelodaeth ymlaen o fis Mehefin i fis Chwefror, gan ddyblu'r pris hefyd i £20.
Adolygwyd oriau agor y clwb a phenderfynwyd codi prisiau diodydd y bar, gyda chostau uwch i'r rheiny sydd ddim yn aelodau.
Yn ôl Gruffydd Weston sy'n gweithio'n rhan-amser yn y clwb, mae'r newidiadau wedi bod yn her.
"Mae e'n beth anodd i wneud - codi'r costau - achos ni'n gw'bod mae pawb yn strugglan 'da costau byw ar y funud," meddai.
"Ni 'di codi diodydd 20c yr un i aelodau, a 50c i'r rai sydd ddim yn aelodau.
"Mae aelodaeth 'di mynd lan i £20 nawr. O'dd e'n £10 y flwyddyn. Eto, 'na'r unig ffordd ni'n mynd i allu codi digon o arian i gadw'r clwb ar agor."
'Barod i weithredu'
Er gwaetha'r heriau sy'n wynebu'r adeilad hanesyddol, mae Angharad Williams o'r Piod Pinc yn dweud ei fod wedi dod â'r gymuned at ei gilydd.
Mae'n dweud fod y cyfarfod yr wythnos ddiwethaf yn llawn o bobl oedd yn "barod i weithredu" a "rhoi nôl i'r clwb".
Erbyn hyn, mae tudalen codi arian hefyd wedi cael ei greu, gyda tharged ariannol o £5,000 wedi'i osod.
Gobaith yr aelodau yw y gall rhoddion hael achub y clwb hanesyddol hwn rhag cau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd28 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2023