'Anwybyddu anghenion wrth beidio cael trydedd bont'

  • Cyhoeddwyd
Y FenaiFfynhonnell y llun, David Goddard
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymgyrchwyr wedi bod yn galw ers tro am gael pont arall rhwng Gwynedd a Môn er mwyn lleddfu tagfeydd

Dywed Plaid Cymru fod Llywodraeth Cymru yn "cuddio tu ôl i bob math o resymau" i osgoi codi trydedd bont ar Ynys Môn.

Daeth y sylwadau ar ôl i weinidogion gyhoeddi adolygiad o gynlluniau adeiladu ffyrdd mawr yng Nghymru, oedd yn awgrymu na fyddai'r groesfan o'r tir mawr yn cael ei hadeiladu.

Wrth siarad ar raglen Sunday Supplement ar Radio Wales fore Sul, dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, nad oedd gan y llywodraeth yr arian i adeiladu'r bont.

"Nid oes gennym ni £400m… Ni fydd y cynllun yn digwydd yn y dyfodol agos oherwydd dyw'r arian ddim gyda ni.

"Mae ein cyllideb gyfalaf wedi'i thorri 8% y flwyddyn nesaf, ac mae'n costau'n yn mynd drwy'r to.

"Mae'n ffantasi awgrymu y gellir fforddio'r cynlluniau hyn, a bod yr arian yn cael ei ddanfon i wahanol ardaloedd penodol.

"Dyw'r arian ddim yno felly mae'n rhaid i ni flaenoriaethu."

'Diffyg tystiolaeth'

Wrth ymateb, dywedodd Dirprwy Arweinydd Plaid Cymru ac Aelod Senedd Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth: "Mae'n ymddangos bod y gweinidog yn cuddio y tu ôl i bob mathau o resymau.  

"I fi be dwi'n weld ydy diffyg tystiolaeth i egluro pam na ddylid bwrw ymlaen efo'r cynllun yma.

"Mae o i'w weld yn cyflawni gymaint o'r hyn mae'r llywodraeth yn ceisio ei wneud - yn cael pobl allan o'u ceir ac ar eu beics neu yn eu hannog nhw i gerdded.

"Mi fyddai'n helpu yn hynny o beth, yn creu llwybrau teithio llesol ar draws y Fenai.

"Mi fyddai'n helpu gyda diogelwch, hefo gwytnwch.

"Felly beth bynnag yw'r rhesymau go iawn be da ni'n gweld fan hyn yw'r llywodraeth yn cymryd cam sydd yn anwybyddu anghenion yr ardal yma."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig dros Drafnidiaeth, Natasha Asghar AS: "Nid yw'r prosiectau hyn yn bethau sy' wedi dod i'r amlwg yn ddiweddar.

'£100m ar gyfer mwy o wleidyddion'

"Maen nhw'n faterion ry'n ni wedi bod yn tynnu sylw atynt ers blynyddoedd ...

"Mae'n warthus bod gweinidogion Llafur yn gallu dod o hyd i dros £100m ar gyfer mwy o wleidyddion ond nid ar gyfer y prosiectau seilwaith sydd eu hangen ar Gymru.

"Mae'n amlwg pan fydd Llafur yn rhoi eu meddyliau ar brosiect y gallan nhw ddod o hyd i'r arian ond pan ddaw e i seilwaith Cymru, does ganddyn nhw ddim mo'r ewyllys na'r egni gwleidyddol i gyflawni'r pethau hyn ar gyfer y cyhoedd.

"Mae angen i weinidogion Llafur roi'r gorau i chwilio am esgusodion a dechrau cyflawni'r gwelliannau gwirioneddol y mae pobl Cymru'n gweiddi mas amdanynt."

Pynciau cysylltiedig