Carcharu saith yn dilyn ffrwgwd mynwent Treforys

  • Cyhoeddwyd
Andrew Thomas a Patrick MurphyFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Andrew Thomas (chwith) a Patrick Murphy eu disgrifio fel "anogwyr" y ffrwgwd

Mae saith o ddynion o Lanelli a Chaerdydd wedi cael eu carcharu am gyfanswm o bron i 14 mlynedd, yn dilyn ffrwgwd mewn mynwent yn Abertawe y llynedd.

Cafodd heddlu arfog eu galw i Fynwent Treforys ar 5 Awst 2022, oherwydd ymladd rhwng aelodau o bedwar teulu.

Roedd bat pêl-fas, machete, dau gar yn gyrru at ei gilydd ar gyflymder, a dau ddyn yn poeri ar lawr yr ystafell goffa, oll yn rhan o'r helynt y prynhawn hwnnw.

Roedd dau angladd yn digwydd yn y fynwent ar y pryd.

Gelyniaeth dwy garfan

Clywodd Llys y Goron Abertawe bod yr ymladd yn deillio o elyniaeth rhwng dwy garfan deuluol - carfan O'Brian/Coffey a charfan Murphy/Thomas.

Roedd aelodau o deuluoedd Coffey ac O'Brian yn y fynwent ar gyfer bendithio cerrig beddau Michael a Margaret O'Brian.

Roedd y dynion yn y grŵp ar eu gwyliadwraeth oherwydd y ffrae, yn ôl y Barnwr Paul Thomas KC.

"Roedd o tu hwnt i gyd-ddigwyddiad fod o leiaf un machete, morthwyl, bat pêl-fas, a ffyn golff oll ar gael i'w defnyddio rhwng y ddwy ochr," meddai.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y diffynyddion eu cyhuddo mewn cyfres o wrandawiadau o flaen Llys Ynadon Abertawe

Cafodd gwasanaeth angladd ei tharfu, meddai, gyda cheir yn cael eu gyrru o amgylch Amlosgfa Treforys "fel pe bai'n drac rasio, ac wrth i frwydrau arfog ddigwydd rhwng dwy garfan ryfelgar".

"Cafodd yr ystafell goffa ei halogi gan ddyn gyda bat pêl-fas yn poeri ar y llawr ac yn yfed dŵr o fasys [dal blodau]."

'Anogwyr y ffrwgwd'

Dywedodd y barnwr fod ganddo ddyletswydd cyhoeddus i roi diwedd ar yr elyniaeth rhwng y carfanau.

Wrth ddedfrydu Patrick Joseph Murphy, 40, o Lanelli ac Andrew John Thomas, 40, hefyd o Lanelli, dywedodd mai nhw oedd anogwyr y ffrwgwd.

Roedd y cyfan wedi dechrau ar ôl i Murphy ddod i'r fendith ar lan y bedd, wrth iddo ddefnyddio morthwyl i dorri ffenest flaen fan o eiddo'r teulu Coffey, a defnyddio bat pêl-fas i falu fasys blodau yn yr ystafell goffa.

Roedd Thomas wedi defnyddio cerbyd fel arf, ac wedi annog y cythrwfl, meddai'r barnwr.

Roedd Murphy eisoes wedi pledio'n euog i anhrefn treisgar a bod ag arf yn ei feddiant, tra bod Thomas wedi pledio'n euog i anhrefn treisgar a gyrru'n beryglus. Cafodd Murphy ei garcharu am ddwy flynedd ac wyth mis, a Thomas am dair blynedd.

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd James Coffey, John Coffey, Jeffrey Tawse (chwith i dde) hefyd eu carcharu am eu rhan yn y ffrwgwd

Roedd Martin O'Brian, 58, a John O'Brian, 53, y ddau o Lanelli, wedi pledio'n euog i anhrefn treisgar, a chawsant eu carcharu am 16 mis yr un.

Roedd James Coffey, 45, o Rhymni, Caerdydd, wedi cyfaddef achosi anhrefn treisgar, bod ag arf ymosodol yn ei feddiant ac o yrru'r beryglus.

Cafodd ei ddedfrydu i ddwy flynedd a thri mis o garchar, a'i wahardd rhag gyrru am 18 mis.

Clywodd y llys fod Jeffrey Tawse, 24, o Rhymni, Caerdydd, wedi mynd i chwilio am arf, sef rhaw, a'i fod wedi rhedeg ar ôl pobl yn ystod y gwffas. Cafodd ddwy flynedd o garchar.

Roedd John Coffey Junior, 24, o Rhymni, wedi gyrru i ffwrdd yn ei fan pan gyrhaeddodd y teulu Murphy, ond dychwelodd ar ôl arfogi'i hun gyda ffon hoci. Plediodd yn euog i anhrefn treisgar a bod ag arf ymosodol yn ei feddiant, a chafodd 18 mis o garchar.

Plediodd y brodyr John Murphy, 18 a Patrick Murphy,19, o Lanelli, yn euog i anhrefn treisgar a bod ag arf ymosodol yn eu meddiant.

Cawsant eu dedfrydu i 12 mis mewn uned troseddwyr ifanc, wedi'i ohirio am 18 mis, a'u gorchymyn i wneud 150 awr yr un o waith cymunedol.

Pynciau cysylltiedig