Abertawe: 11 yn y llys wedi ffrwgwd mynwent Treforys

  • Cyhoeddwyd
Mynwent TreforysFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd swyddogion arfog a hofrennydd yr heddlu eu galw tua 15:00 ar 5 Awst yn dilyn y digwyddiad

Mae 11 o bobl wedi ymddangos yn Llys Y Goron Abertawe yn dilyn digwyddiad ym Mynwent Treforys.

Cafodd swyddogion arfog a hofrennydd yr heddlu eu galw tua 15:00 ar 5 Awst.

Fe gafodd ddau berson eu hanafu'n ddifrifol a chafodd 13 eu cyhuddo o droseddau'n ymwneud ag anhrefn dreisgar a bod ag arfau yn eu meddiant.

Yn y llys ddydd Mawrth, fe blediodd pump yn euog i gyhuddiadau o anrhefn dreisgar.

Pleidiodd pump yn euog i gyhuddiad o fod ag arfau yn eu meddiant, yn cynnwys bat pren a chyllell machete.

Roedd un person arall eisoes wedi pledio'n euog i'r ddau drosedd ar 18 Hydref.

Fe wnaeth un o Lanelli sy'n 16 oed bledio'n ddieuog i'r ddau drosedd.

Plediodd dyn 40 oed yn ddieuog i gyhuddiadau o anhrefn dreisgar a gyrru'n beryglus.

Cafodd yr achos ei ohirio tan 24 Tachwedd.

Pynciau cysylltiedig