Bil cyfreithiau Ewrop 'yn canoli grym ac osgoi’r Senedd'
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau Llywodraeth y DU i gael gwared ar filoedd o gyfreithiau'r Undeb Ewropeaidd ar ddiwedd 2023 yn "canoli gormod o rym" ar weinidogion yn Llundain, yn ôl grŵp trawsbleidiol o aelodau Senedd Cymru.
Mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad hefyd yn dweud bod Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir yn "osgoi rôl seneddau, gan gynnwys Senedd Cymru".
Mae rhai ASau hefyd wedi mynegi pryderon am y cynigion, ond mae Llywodraeth y DU yn dweud y byddai'r mesur yn atal deddfau a etifeddwyd gan yr UE rhag dod yn "hen greiriau sy'n llusgo'r DU i lawr".
Cafodd cyfreithiau'r UE eu copïo i gyfraith ddomestig pan adawodd y DU yr Undeb Ewropeaidd ar 31 Ionawr 2020, a'u cadw yn ystod cyfnod pontio a ddaeth i ben ym mis Ionawr 2021.
Bu symudiadau i ffwrdd o rai o'r cyfreithiau hynny mewn meysydd gan gynnwys mewnfudo ers hynny, ond mae miloedd o reoliadau yn dal mewn grym.
Mae Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir, sy'n cael ei ystyried ar hyn o bryd gan ASau yn San Steffan, yn cynnwys "cymal machlud" sy'n golygu, erbyn diwedd eleni, y gallai rhai cyfreithiau ddod i ben yn awtomatig.
Byddai'r bil yn caniatáu i weinidogion ddiwygio neu ddisodli cyfreithiau'r UE gan ddefnyddio is-ddeddfwriaeth, proses gyflymach ar gyfer gwneud deddfau newydd, gan ysgogi pryderon am ddiffyg craffu.
Mae Llywodraeth Cymru wedi argymell na ddylai Aelodau o Senedd Cymru roi caniatâd i'r ddeddfwriaeth, a fydd yn effeithio ar filoedd o gyfreithiau gan gynnwys llawer mewn meysydd sydd dan reolaeth gweinidogion Cymru.
Ond nid oes yn rhaid i Lywodraeth y DU gael caniatâd Senedd Cymru.
Ym mis Medi ysgrifennodd Mick Antoniw, Cwnsler Cyffredinol Cymru, at Lywodraeth y DU gyda phryderon y byddai'r mesur yn rhoi "awdurdod dilyffethair i ddeddfu mewn meysydd datganoledig" i weinidogion y DU.
Rhybuddiodd y gallai hefyd arwain at "leihad mewn safonau mewn meysydd pwysig gan gynnwys cyflogaeth, iechyd. a'r amgylchedd".
'Cyfleoedd Brexit'
Ond mae Llywodraeth y DU yn dweud bod cyfraith yr UE wedi'i chopïo drosodd i lyfnhau'r cyfnod pontio Brexit ac "na fwriadwyd erioed i eistedd ar y llyfr statud am gyfnod amhenodol".
Dywedodd Jacob Rees-Mogg, a oedd yn Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, wrth ASau pan gyflwynodd y mesur i San Steffan bod angen "gwireddu cyfleoedd Brexit yn llawn, a chefnogi'r diwylliant unigryw o arloesi yn y DU".
Dywedodd Huw Irranca-Davies, cadeirydd Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad Senedd Cymru, bod y Bil yn effeithio ar dros 4,000 o ddarnau o ddeddfwriaeth.
"Mae'r Bil hwn, os daw yn gyfraith, yn canoli gormod o rym yn nwylo gweinidogion Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, heb graffu digonol gan y Senedd," meddai.
"Nid ydym wedi gweld dim tystiolaeth bod ar weinidogion y llywodraeth angen pwerau tu hwnt o eang i ymdrin â chyfraith y DU a ddargedwir, heb oruchwyliaeth briodol gan ddemocratiaeth seneddol.
"Er mwyn i ni gael cyfreithiau da yng Nghymru mewn meysydd hanfodol fel yr amgylchedd ac amaethyddiaeth, rhaid i ni gael goruchwyliaeth gywir ac amser i ystyried deddfwriaeth - nid cael ein brysio i fodloni terfyn amser, sy'n ymddangos yn ddiangen i'r rhan fwyaf ohonom."
Mae'r mesur yn mynd drwy Dŷ'r Arglwyddi ar hyn o bryd, lle mae disgwyl iddo wynebu gwrthwynebiad sylweddol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2022