Technoleg iaith yn gallu 'trawsnewid dyfodol y Gymraeg'

  • Cyhoeddwyd
Yr Athro Edmund Burke yn siarad efo Jac Peall a Megan GregoryFfynhonnell y llun, Prifysgol Bangor
Disgrifiad o’r llun,

Yr is-ganghellor, yr Athro Edmund Burke yn siarad efo Jac Peall a Megan Gregory o Animated Technologies, un o'r cwmnïau i arddangos yn y Gynhadledd

Mae siaradwyr a busnesau Cymraeg wedi'u hannog i "wneud y mwyaf" adnoddau technolegau iaith.

Mae meddalwedd i drawsgrifio ac isdeitlo siaradwyr Cymraeg yn ogystal â chynorthwy-ydd personol tebyg i Alexa yn cael ei baratoi ar hyn o bryd.

Wedi'i threfnu gan Brifysgol Bangor ddydd Gwener, nod cynhadledd Technoleg a'r Gymraeg oedd arddangos meddalwedd ac offer technoleg iaith gan gwmnïau o Gymru a chyfle i bobl brofi'r adnoddau diweddaraf.

Y bwriad, medd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, yw lledaenu technolegau iaith mewn ieithoedd lleiafrifol fel y Gymraeg.

Yn ôl Mr Miles fe all gwaith ymchwil o'r fath "drawsnewid dyfodol yr iaith."

Adnoddau technolegau iaith yn 'drysorau'

Mae technoleg iaith yn cwmpasu amrywiaeth o adnoddau gwahanol sy'n ymwneud â chyfrifiaduron yn cyfathrebu gyda phobl, gan gynnwys cyfieithu peirianyddol, technoleg lleferydd, lleisiau synthetig sy'n siarad Cymraeg a thechnoleg sgwrsio.

Yn siarad ar Dros Frecwast am allu technoleg Cymraeg i gadw fyny gyda datblygiadau newydd dywedodd yr Athro Delyth Prys, pennaeth yr Uned Technolegau Iaith: "Da ni mewn ras, a ras na allwn ni fyth ei hennill efallai, ond mae'n eithaf calonogol a deud y gwir, oherwydd bo' ni di dechre rhyw 20 mlynedd yn ôl bellach.

"Fe nathon ni gloddio sylfeini eitha' sicr bryd hynny a pan ma' pethau newydd yn dod ni'n ddigon hyblyg i fedru addasu, a wrth gwrs fyddwn ni byth yn dala lan gyda ieithoedd mawr fel Saesneg, ond mi fyddwn ni yn gallu 'neud darpariaeth golew ar gyfer y Gymraeg dwi'n gobeithio.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr Athro Delyth Prys y gallai'r dechnoleg fod o ddefnydd mawr i bobl anabl

"Ni di bod yn 'neud lleisiau synthetig gwell ar gyfer y Gymraeg a rhai dwyieithog lle ma'r llais yn gallu siarad Cymraeg, neu'r un llais yn gallu siarad Cymraeg a Saesneg a ma' hwnna'n rhywbeth mawr i bobl anabl er enghraifft."

Trawsgrifiwr a lleisiau synthetig

Un o'r adnoddau dan sylw yw'r Trawsgrifiwr, rhaglen feddalwedd sy'n trawsgrifio lleferydd Cymraeg yn destun, a chafodd ei greu dan nawdd Llywodraeth Cymru.

Mae Mr Miles yn gobeithio bydd y meddalwedd hwn o ddefnydd i ddarlledwyr gan ddweud: "Mae'n gallu creu isdeitlau awtomatig i fideos. Bydd hyn yn creu ffordd o wybod beth sydd mewn rhaglenni archif a fideos eraill."

Mae'r Uned Technolegau Iaith hefyd wedi cyhoeddi bwriad i ryddhau lleisiau synthetig dwyieithog, a fydd yn cael ei rhoi mewn adnoddau fel Macsen - sef meddalwedd cynorthwy-ydd personol Cymraeg tebyg i Alexa neu Google Assistant.

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Bangor
Disgrifiad o’r llun,

Yn ogystal â'r Gweinidog Jeremy Miles, a ymunodd yn rhithiol, y siaradwyr a oedd yn bresennol yn y gynhadledd oedd- chwith i dde: Yr Athro Delyth Prys, Fernando Pabst Silva, Dr Rodolfo Piskorski, Yr Athro Edmund Burke, Dr Shân Pritchard, Einion Gruffydd, Yr Athro William Lamb a Stephen Russell

Dywedodd Mr Miles: "Rwy'n hoff o dechnoleg ond nid technoleg er ei mwyn ei hun..." meddai, "technoleg sy'n mynd i helpu siaradwyr Cymraeg mewn Cymru sydd yn ddwyieithog.

"Bydd hyn yn golygu er enghraifft bod person dall sy'n gwrando ar destun Cymraeg yn dal i glywed llais yr un 'person' fel petai, pan maen nhw'n darllen erthygl Saesneg."

Gallai'r dechnoleg fod 'er budd economi Cymru'

Fe wnaeth y gynhadledd hefyd groesawu'r Athro William Lamb o Brifysgol Caeredin a fu'n rhoi gwybodaeth ar dechnolegau iaith Gaeleg yr Alban a'u partneriaeth ddiweddar gyda Phrifysgol Bangor.

Hefyd yn siarad roedd Dr Rodolfo Piskorski o Brifysgol De Cymru a Fernando Pabst Silva o Brifysgol Fetropolitan Caerdydd sef datblygwyr Gairglo, y fersiwn Gymraeg o'r gêm eiriol boblogaidd Wordle.

Ychwanegodd yr Athro Prys: "Rydym yn falch iawn o gefnogaeth y gweinidog i'n gwaith.

"Erbyn hyn mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru i dechnoleg Gymraeg yn dwyn ffrwyth amlwg, ac mae cwmnïau masnachol yn gallu cynnwys ein hadnoddau yn eu cynnyrch, er budd i economi Cymru ac i ddefnyddwyr y Gymraeg."

Pynciau cysylltiedig