Minffordd: Cadw mab mewn ysbyty ar ôl lladd ei dad
- Cyhoeddwyd
Bydd mab a gafwyd yn euog o ddynladdiad ei dad ger ei gartref ym Minffordd, Gwynedd, yn cael ei gadw mewn ysbyty am gyfnod amhenodol.
Bu farw Dafydd Thomas, 65, o "anafiadau catastroffig i'w wyneb" ar ôl i'w fab, Tony Thomas, gicio a sathru arno ym mis Mawrth 2021.
Fe glywodd y rheithgor fod gan Tony Thomas, 45, hanes hir o broblemau iechyd meddwl.
Dywedodd y Barnwr yn Llys y Goron Caernarfon fod "natur ofnadwy" yr ymosodiad wedi golygu fod "dyn hynod" wedi ei golli.
Yn ystod yr achos llys fe ofynnodd y barnwr i'r rheithgor beidio ystyried cyhuddiad o lofruddiaeth yn dilyn tystiolaeth seiciatryddion.
Roedden nhw'n cytuno bod yr achos yn cyrraedd y trothwy o ddynladdiad ar y sail nad oedd yn ei iawn bwyll.
Yn ystod yr achos, clywodd y rheithgor fod gan Tony Thomas hanes o broblemau iechyd meddwl ers 1997, a'i fod wedi cael diagnosis o anhwylder deubegynol (bipolar).
Ym mis Ionawr daeth rheithgor yn Llys y Goron Yr Wyddgrug i'r casgliad unfrydol ei fod yn euog o ddynladdiad ar y sail nad oedd yn ei iawn bwyll.
Fe ddarllenodd merch Mr Thomas, Elin, ddatganiad yn Llys y Goron Caernarfon gan ddweud fod y "dicter 'dan ni'n deimlo fel teulu yn anfesuradwy".
Roedd Mr Thomas yn ddyn adnabyddus yn y gymuned a newydd ymddeol ar ôl sefydlu busnes gwastraff Gwynedd Environmental Waste Company.
"'Dan ni'n deulu agos," dywedodd ei ferch, "alla i ddim disgrifio'r golled 'dan ni'n ei deimlo o beidio gallu ei weld bob dydd.
"Mae'n fwlch na chaiff fyth ei lenwi."
'Dal yn droseddwr peryglus'
Wrth ddedfrydu Thomas fore Gwener, dywedodd y Barnwr Rhys Rowlands ei fod wedi derbyn argymhellion pedwar seiciatrydd.
Dywedodd fod Thomas yn dal yn "droseddwr peryglus" ond bod ei weithredoedd wedi eu gyrru gan salwch meddwl, a allai gael ei drin.
Fe gyflwynodd orchymyn ysbyty, heb ei gyfyngu gan amser, a gorchymyn cyfyngu amhenodol pellach.
Mae'n golygu y bydd Thomas ond yn cael ei ryddhau wedi i'w achos gael ei ystyried gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder, a bydd yn rhaid cael sicrwydd nad yw Thomas bellach yn fygythiad i'r cyhoedd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2023