Bwrdd iechyd yn cyflogi 'swyddog codi hyder' yn y Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae un o fyrddau iechyd Cymru wedi penodi Swyddog Codi Hyder er mwyn ceisio annog staff i ddefnyddio mwy o'u Cymraeg.
Cafodd y swyddog ei ddarparu i Fwrdd Iechyd Hywel Dda fel rhan o gynllun Cymraeg Gwaith gan Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Mae'r bwrdd iechyd yn gwasanaethu cymunedau yn siroedd y gorllewin, a welodd rai o'r gostyngiadau mwyaf yng nghanran eu siaradwyr Cymraeg yn ôl y Cyfrifiad diwethaf.
Nod y cynllun yw helpu cyflogwyr a gweithwyr i ddefnyddio mwy o Gymraeg yn y gweithle.
'Diffyg hyder' yn dal rhai yn ôl
Er mwyn gwneud hyn fe fydd swyddog newydd yn darparu cyrsiau, ac yn gweithio gydag unigolion o'r bwrdd iechyd i godi eu hyder wrth siarad Cymraeg gyda chleifion.
Bydd y swyddog, Richard Jones, yn cael ei gyflogi am 12 mis gan Brifysgol Aberystwyth, un o ddarparwyr Dysgu Cymraeg.
"Pwrpas y sesiynau codi hyder yw newid arferion ieithyddol a gwella hyder, fel bod ein staff yn fwy tebygol o ddefnyddio'u Cymraeg i gyfathrebu ag eraill a chwblhau tasgau yn y gwaith trwy gyfrwng y Gymraeg," meddai Enfys Williams, Rheolwr Gwasanaethau'r Gymraeg i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
"Fel Bwrdd Iechyd rydym yn cydnabod pwysigrwydd y Gymraeg yn y gweithle i'n staff a'n defnyddwyr gwasanaeth.
"Mae data sgiliau iaith y gweithlu'n dangos bod canran sylweddol o siaradwyr Cymraeg yn gweithio i'r bwrdd iechyd, ond o adborth diweddar mae'n amlwg bod nifer yn teimlo mai diffyg hyder sy'n eu dal yn ôl."
Dywedodd Siwan Iorwerth, Rheolwr Cynllun Cymraeg Gwaith gyda'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol: "Rydym yn falch iawn o gydweithio gyda Bwrdd Iechyd Hywel Dda i gynyddu sgiliau Cymraeg y gweithlu, fydd yn y pen draw yn cynyddu gwasanaethau Cymraeg y bwrdd iechyd.
"Bydd y cyrsiau hyn yn rhoi hyder i'r unigolion i ddefnyddio mwy o'u Cymraeg yn y gwaith yn ogystal â'u bywydau bob dydd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2022