Merched nodedig y placiau porffor

  • Cyhoeddwyd
Placiau Porffor

Ers 2017, mae placiau lliw porffor wedi cael eu gosod ledled Cymru i gofio am rai o ferched nodedig Cymru.

Er fod placiau glas ar adeiladau ar draws y wlad yn cofio am gyfraniad arbennig unigolion, nid oes llawer ohonyn nhw sy'n cydnabod cyfraniad merched.

Mae 13 o blaciau wedi eu gosod hyd yma, ond pwy yw'r merched arbennig sy'n cael eu cofio gan y placiau porffor?

Plac 1 - Val Feld, Senedd Cymru, Bae Caerdydd

Ffynhonnell y llun, Placiau Porffor

Mae'r plac, a gafodd ei osod ym mis Mawrth 2018 ar wal y Senedd ym Mae Caerdydd, yn cofio am Val Feld AC a oedd yn ymgyrchydd cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol.

Hi oedd cyfarwyddwr cyntaf Shelter Cymru yn 1981. Bu wedyn yn gyfarwyddwr Comisiwn Cyfle Cyfartal yng Nghymru cyn cael ei hethol i'r Cynulliad Cenedlaethol cyntaf yn 1999, fel Aelod Cynulliad (fel oedd yr enw bryd hynny) i'r Blaid Lafur dros Ddwyrain Abertawe.

Roedd yn gweithio'n ddiflino dros gydraddoldeb a chyfiawnder - gweithiodd i sicrhau fod Deddf Llywodraeth Cymru 1998 yn cynnwys cymalau am hawliau cyfartal - a bu'n ymgyrchydd â nifer o sefydliadau sy'n brwydro ar ran hawliau merched a lleiafrifoedd ethnig Cymru.

Plac 2 - Ursula Masson, Llyfrgell Ganolog Merthyr Tudful

Ffynhonnell y llun, Placiau Porffor
Disgrifiad o’r llun,

Dadorchuddio plac Ursula Masson yn 2019

Mae'r plac porffor ar wal Llyfrgell Ganolog Merthyr Tudful yn cofio Ursula Masson, a oedd yn newyddiadurwraig, llyfrgellydd a hanesydd ffeministaidd.

Yn aelod o gymuned Wyddelig Merthyr Tudful, ysgrifennodd ei thraethawd hir ar gyfer cwrs MA ar fewnfudo Gwyddelig i'r dref. Tra'n gweithio â Choleg Politechnig Trefforest - Prifysgol De Cymru heddiw - helpodd i sefydlu'r Adran Astudiaethau Rhywedd yno.

Hi oedd un o brif sefydlwyr Etifeddiaeth Jazz Cymru a Grŵp Hanes Menywod Abertawe, sydd bellach yn dwyn yr enw Archif Menywod Cymru.

Plac 3 - Megan Lloyd George, Cartref Gofal Bryn Awelon, Cricieth

Ffynhonnell y llun, Mirrorpix
Disgrifiad o’r llun,

Megan Lloyd George yn ei chartref, Bryn Awelon, ble mae bellach plac i gofio amdani

Cafodd y trydydd plac ei osod i gofio am yr Aelod Seneddol benywaidd cyntaf yng Nghymru, Megan Lloyd George.

Yn ferch i'r cyn brif weinidog, David Lloyd George, llwyddodd i dorri ei chwys ei hun fel Aelod Seneddol dros Ynys Môn o 1929-1951 a Chaerfyrddin yn 1957-1966, drwy godi llais ar ran merched.

Bu'n ymgyrchydd angerddol dros gyflog cyfartal, ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd, bu'n gwthio ar y Llywodraeth i roi mwy o gyfrifoldebau i ferched. Roedd Cymru yn amlwg yn bwysig iawn iddi yn ogystal, a hi oedd llywydd yr ymgyrch Senedd i Gymru yn yr 1950au.

Plac 4 - Angela Kwok, Bamboo Garden, Pontcanna, Caerdydd

Ffynhonnell y llun, BBC/Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dadorchuddio'r plac ar siop Bamboo Garden ar Heol y Gadeirlan, Caerdydd yn 2020 - y siop têc-awê roedd Angela a'i gŵr yn berchen arno

Er i Angela Kwok gyrraedd y DU o Hong Kong yn 16 oed heb fawr o Saesneg, treuliodd ei bywyd yn gweithio'n ddiflino ar ran y gymuned Chineaidd - yn arbennig y merched - yng Nghymru.

Byddai'n mynd gyda merched i apwyntiadau meddygol er mwyn cyfieithu iddyn nhw. Arweiniodd hyn at sefydlu Cymdeithas Chineaidd De Cymru yng Nglanyrafon, Caerdydd, a oedd yn ganolfan i ferched cael cymdeithasu a chael gwersi Saesneg, coginio, sgiliau cyfrifiadur, a mwy.

Dros y blynyddoedd, roedd Angela hefyd yn cynnig cymorth cyfieithu i Heddlu De Cymru, yn aelod o'r Cyngor Cydraddoldeb Hiliol, yn cartrefu myfyrwyr Chineaidd benywaidd yn ystod eu gwyliau prifysgol, ac yn ganolog yn y frwydr dros sefydlu Mynwent Chineaidd yn y brifddinas.

Plac 5 - Eunice Stallard, Neuadd Les y Glowyr, Ystradgynlais

Ffynhonnell y llun, Llun Teulu/Placiau Porffor
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y plac i Eunice Stallard ar Neuadd Les Ystradgynlais ei ddadorchuddio yn 2020

Yn 1981, Eunice Stallard oedd un o sefydlwyr gwersyll heddwch menywod Comin Greenham, a oedd yn brwydro dros ddiarfogi arfau niwclear. Bu'n rhan o grŵp o ferched a orymdeithiodd o Gaerdydd i Newbury, gan glymu eu hunain at ffens canolfan RAF yno. Bu'r gwersyll yno am 19 o flynyddoedd.

Parhaodd ei hymgyrchu drwy gydol ei bywyd, gan ddod yn aelod o Grannies for Peace, gan fynd i RAF Fairford yn 2003 i brotestio yn erbyn Rhyfel Irac.

Ceisio dod â mwy o ferched i wleidyddiaeth oedd bwriad Eunice, a fyddai, yn ei thyb hi, yn arwain at fyd mwy heddychlon.

Plac 6 - Martha Gellhorn, Yew Tree House, Cilgwrwg, Sir Fynwy

Ffynhonnell y llun, Bettmann
Disgrifiad o’r llun,

Mae Martha Gellhorn yn cael ei choffáu gyda phlac ar ei chartref yn Sir Fynwy

Ganwyd Martha Gellhorn ym Missouri, yr Unol Daleithiau, ond bu'n byw yn ei chartref yng Nghilgwrwg am 14 blynedd.

Roedd yn ohebydd rhyfel ac yn newyddiadurwraig arloesol, a adroddodd ar Ryfel Cartref Sbaen, rhyfela yn Fietnam a'r Dwyrain Canol, a hi oedd y gohebydd cyntaf i adrodd ar laniadau D-Day, gan guddio ar long er mwyn cyrraedd yno.

Cafodd ei disgrifio fel gohebydd a fyddai'n adrodd ar effaith rhyfel ar ferched a phlant, nid yn unig yr ymladd. Roedd hefyd yn nofelwraig.

Pan fu'n byw yn Sir Fynwy, adroddodd ar Streic y Glowyr yn 1984. Yn 88 oed yn 1997, dychwelodd i Drecelyn yn y cymoedd i greu adroddiad am bwnc o'i dewis hi, a hynny ar gyfer ei hadroddiad mawr diwethaf.

Plac 7 - Charlotte Price White, 50 Ffordd Garth Uchaf, Bangor

Ffynhonnell y llun, Placiau Porffor
Disgrifiad o’r llun,

Ŵyr Charlotte, Christopher Price White, a ddadorchuddiodd y plac iddi ar wal ei chartref yn 2021

Roedd Charlotte Price White yn un o arweinwyr mwyaf blaenllaw y gogledd dros y bleidlais i ferched, ac yn un o'r ddwy ferch a gerddodd yr holl ffordd o ogledd Cymru i Lundain ar Bererindod y Bleidlais i Ferched yn 1913. Hi hefyd oedd un o sefydlwyr cangen gyntaf Sefydliad y Merched, a hynny yn Sir Fôn yn 1915.

Roedd hefyd yn ymgyrchydd dros heddwch, a bu'n ffigwr amlwg yng nghangen y gogledd o Urdd Heddwch a Rhyddid Rhyngwladol y Menywod ac yn un o arweinwyr Pererindod Heddwch 1926.

Hi oedd un o'r merched cyntaf i gael ei hethol ar Gyngor Sir Caernarfon, lle canolbwyntiodd ar wella addysg a iechyd. Cafodd ei marwolaeth sydyn yn 1932 effaith ar yr holl gymuned, a alwodd am gynnal angladd gyhoeddus a gostwng baneri i hanner mast er cof amdani.

Plac 8 - Dinah Williams, Brynllys, ger Borth, Ceredigion

Ffynhonnell y llun, History Points
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r plac i Dinah Williams, a gafodd ei ddadorchuddio yn 2021, ar wal ei fferm arloesol, Brynllys

Ers yn blentyn, uchelgais Dinah Williams oedd i ffermio, a daeth yn arloeswraig ym meysydd ffermio llaeth a ffermio organig.

Mewn diwydiant llawn dynion yn y 40au, 50au a 60au, roedd yn ffigwr arloesol ac amlwg. Roedd yn rhan allweddol o sefydlu Cymdeithas Bridd Gorllewin Cymru, a helpodd ei gwaith i ddatblygu ffermio organig ym Mhrydain ac i'w wneud yn fwy blaenllaw.

Yn 1952, Brynllys oedd y fferm gyntaf ym Mhrydain i dderbyn tystysgrif fferm laeth organig. Dyma oedd y sylfaen i sefydlu cwmni Rachel's Dairy gan ei merch yn 1984.

Plac 9 - Thora Silverthorne, Amgueddfa Abertyleri, Blaenau Gwent

Ffynhonnell y llun, Placiau Porffor/Wikimedia
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Thora yn aelod o'r Frigâd Ryngwladol - carfannau milwrol o dramorwyr a oedd yn ymladd yn erbyn ffasgiaeth yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen

Fel merch i löwr, a oedd yn un o swyddogion Undeb y Glowyr, ac oherwydd ei magwraeth mewn cymuned lofaol yn ne Cymru, roedd gan Thora Silverthorne ddaliadau sosialaidd cryf. Bu'n aelod o'r Blaid Gomiwynddol ers iddi fod yn 16 oed, yn ystod y streic fawr yn 1926.

Yn 1936, ar ôl hyfforddi fel nyrs, gwirfoddolodd Thora i fynd i Sbaen yn ystod y Rhyfel Cartref, fel rhan o'r uned meddygol tramor cyntaf i deithio yno i gynorthwyo Llywodraeth Sbaen.

Sefydlodd Gymdeithas y Nyrsys yn 1937, ac roedd hi hefyd yn un o sylfaenwyr y Gymdeithas Feddygol Sosialaidd. Bu hefyd yn weithgar yn ystod cyfnod ffurfio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Plac 10 - Eirene White, Neuadd y Dref, Y Fflint

Ffynhonnell y llun, Evening Standard
Disgrifiad o’r llun,

Eirene White

Er iddi gael ei geni ym Melffast i deulu Cymreig, treuliodd Eirene White ei phlentyndod yn y Barri. Teithiodd i'r Unol Daleithiau ar ôl gadael Prifysgol Rhydychen, ac yno dysgodd am hiliaeth drwy ei chyfeillgarwch â'r canwr Paul Robeson, a phwysigrwydd llyfrgelloedd cyhoeddus pan weithiodd yn llyfrgell gyhoeddus Efrog Newydd.

Yn 1945, hi oedd gohebydd gwleidyddol benywaidd cyntaf y papur newydd Manchester Guardian. Wedi hynny, hi oedd un o'r merched cyntaf i gael eu hethol i Dŷ'r Cyffredin, pan gafodd ei hethol yn Aelod Seneddol Llafur dros Ddwyrain Sir y Fflint yn 1950 - sedd y byddai'n ei chynrychioli am 20 mlynedd. Yn 1970, aeth i Dŷ'r Arglwyddi fel y Farwnes White o Rymni, sef man geni ei thad, ac yno bu'n ddirprwy lefarydd am ddegawd.

Yn ystod ei gyrfa wleidyddol, galwodd am gyflog cyfartal, gwell darpariaeth feithrin a hyrwyddo addysg bellach.

Plac 11 - Dr Frances Hoggan, 19 Y Stryd Fawr, Aberhonddu

Ffynhonnell y llun, Placiau Porffor
Disgrifiad o’r llun,

Mae plac i gofio Dr Frances Hoggan ar wal ei man geni ar stryd fawr Aberhonddu

Dr Frances Hoggan oedd y ddynes Brydeinig gyntaf i raddio mewn meddygaeth, a hynny yn Zurich yn 1870, gan nad oedd gan ferched hawl i astudio'r pwnc ym Mhrydain. Astudiodd hefyd yn Mharis, Düsseldorf a Fienna.

Hi oedd y meddyg benywaidd gofrestredig gyntaf yng Nghymru, a hi a'i gŵr, Dr George Hoggan, oedd y cwpl priod cyntaf ym Mhrydain i sefydlu practis meddygol ar y cyd.

Gweithiodd yn ddiwyd ym maes iechyd menywod, a brwydrodd yn ddiflino dros hawliau merched, yn arbennig mewn meddygaeth ac addysg.

Plac 12 - Patti Flynn, Canolfan y Mileniwm, Bae Caerdydd

Ffynhonnell y llun, Trwy garedigrwydd teulu Patti Flynn
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Patti Flynn yn canu yr un cyfnod â Shirley Bassey, a oedd hefyd wedi ei geni yn ardal Tiger Bay, Caerdydd

Roedd Patti Flynn yn gantores ac ymgyrchydd hawliau pobl du, a gafodd ei geni yn ardal Trebiwt yng Nghaerdydd. Byddai'n teithio ledled Prydain yn canu jazz, a hi oedd un o sylfaenwyr Gŵyl Jazz Butetown.

Hi oedd un o'r ymgyrchwyr a weithiodd yn ddiflino am 26 o flynyddoedd i godi cofeb i filwyr du a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru; achos oedd yn agos at ei chalon, wedi i'w thad a'i brodyr gael eu lladd yn yr Ail Ryfel Byd. Cafodd Patti ddadorchuddio'r gofeb o'r diwedd ger Cofeb Ryfel Cenedlaethol Cymru yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd 2019, lai na blwyddyn cyn iddi farw.

Roedd yn un o sefydlwyr mudiad Mis Hanes Pobl Ddu yng Nghymru ac fe dderbyniodd wobr Llwyddiant Oes Merched Cymru o Leiafrifoedd Ethnig yn 2019. Hi yw'r ddynes ddu gyntaf i gael ei choffáu gan blac porffor.

Plac 13 - Rose Davies, Amgueddfa Cwm Cynon, Aberdâr

Ffynhonnell y llun, Teulu Rose Davies ac Archifau Morgannwg
Disgrifiad o’r llun,

Rose Davies (canol) tua 1940. Llun drwy garedigrwydd teulu Rose Davies ac Archifau Morgannwg

Yn Aberdâr y ganwyd Rose Davies, a hynny yn 1882. Yn athrawes yn wreiddiol, bu'n rhaid iddi roi'r gorau i'w swydd ar ôl iddi briodi, a throdd ei bryd at wleidyddiaeth.

Ymunodd â'r Blaid Lafur Annibynnol - rhagflaenydd y Blaid Lafur - ac roedd yn teimlo'n angerddol dros annog merched i fod yn rhan o wleidyddiaeth. Cyd-sefydlodd gangen merched y Blaid Lafur annibynnol yn 1908. Hi oedd y fenyw gyntaf i gael ei hethol i Gyngor Sir Forgannwg, a bu'n gadeirydd ar bob pwyllgor yn ei dro, ac yn gadeirydd ar y cyngor cyfan.

Gweithiodd yn ddiflino dros gydraddoldeb i ferched, ar faterion iechyd merched - gan gynnwys gwasanaethau atal cenhedlu - a sicrhau addysg i blant ag anableddau ac anghenion arbennig.

Roedd hefyd yn ymgyrchydd heddwch, gan gynnig menter Deiseb Heddwch Menywod Cymru mewn cynhadledd yn 1923. Llofnododd bron i 400,00 o ferched y ddeiseb a oedd yn galw ar fenywod yr Unol Daleithiau i roi pwysau ar eu llywodraeth i ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd.

Hefyd o ddiddordeb: