Arddangosfa yn cofio cyfraniad a dylanwad Laura Ashley
- Cyhoeddwyd
Mae hi'n 70 o flynyddoedd ers i gwmni Laura Ashley gael ei sefydlu gan y dylunydd o Ferthyr Tudful yn 1925, a'i gŵr Bernard Ashley.
Fe ddechreuodd y busnes gyda Laura Ashley yn creu sgarffiau blodeuog yn eu fflat yn Llundain yn 1953, ond buan y tyfodd y cwmni gyda'r teulu yn symud i ganolbarth Cymru yn ystod yr 1960au cynnar.
Agorwyd siop gyntaf Laura Ashley ar Stryd Maengwyn ym Machynlleth, yn 1961. Ar ei anterth, roedd y cwmni'n cyflogi dros 13,000 o staff ar draws 500 o siopau ac 13 o ffatrïoedd ar draws y byd.
Mae arddangosfa i nodi'r 70 mlynedd yn agor yn Llyfrgell Y Drenewydd ddydd Iau.
Dyled i'r canolbarth
Mewn llythyr sy'n rhan o'r arddangosfa mae mab Laura Ashley, Nick, yn dweud bod ei fam "yn arfer cyfaddef ei bod yn ddyledus i bobl y canolbarth am ei holl lwyddiant".
"Ar ôl ceisio, ond methu yn Lloegr, symudodd fy mam ei busnes i Gymru," meddai.
"Doedd dim llawer o swyddi cyflogedig i fenywod yn y canolbarth yn y '60au cynnar a [dyma hi'n] cynnig digon o gyfle gan ei bod yn dylunio a gwneud nwyddau wedi'u gwnïo.
"Y merched eu hunain oedd yn penderfynu ar yr oriau gwaith, a cafodd darnau o ffabrig wedi'u torri, a pheiriannau gwnïo eu cludo i gartrefi gweithwyr yn ystod y cyfnod magu plant.
"Yr ymddiriedaeth a'r parch, oedd yn gweithio'r naill ffordd, oedd sylfaen cwmni Laura Ashley. Mae'r traddodiad dwfn a'r ysbryd cymunedol yn parhau i fodoli yn y canolbarth hyd heddiw."
'Dyddiau Da'
Roedd y dylunydd yn adnabyddus am ei phrintiau traddodiadol, blodeuog, gyda'r busnes yn tyfu'n gyflym ar ôl i'r Dywysoges Diana gael ei gweld yn gwisgo'r dillad yn yr 80au.
Yn y cyfnod yma, cynhyrchu dillad oedd y diwydiant mwyaf yng nghanolbarth Cymru ar ôl amaethyddiaeth.
Mae Lynne Jones a Dei Jones yn cofio'r "dyddiau da" o fod yn gweithio ar y safle yng Ngharno.
"Bues i'n printio papur wal yma am 15 mlynedd yn ystod yr 80au," meddai Lynne Jones.
"'Nes i brentisiaeth ar ôl gadael yr ysgol, am bedair blynedd, ac ennill £40 yr wythnos. Ar ôl dod i weithio i Laura Ashley, o fewn mis, o'n i'n ennill £70 yr wythnos.
"Roedd hi'n edrych ar ôl menywod â plant. Roedden nhw'n cael mynd a dod fel oedden nhw'n licio, a gweithio o adre [pan oedd y plant yn fach] hefyd.
"Dwi'n cofio helpu mam i dynnu ryw ddilledyn tu chwith allan pan o'n i'n fach iawn. Roedd hi'n wraig fferm ac yn gwnïo i Laura Ashley o adre ac yn ennill pres da am wneud."
Argraffu defnydd oedd gwaith Dei Jones i Laura Ashley.
"Roedd 'na dros 500 o bobl yn gweithio yng Ngharno yn yr amser yna. Roedd 'na fwrlwm yma a digon o bres gan bawb," meddai.
"Roedd pobl yn dod i weithio yma o bob man a bysiau yn dod â nhw fewn am ddim o lefydd fel Trallwng, Drenewydd, Llanfair Caereinion a mwy. Oedd, roedd o'n amser neis iawn i ni."
Bu farw Laura Ashley yn 1985, ar ôl cwympo i lawr y staer yn fuan ar ôl ei phen-blwydd yn 60 oed.
Dioddef wnaeth y busnes ar ôl ei marwolaeth, gyda llawer iawn o bobl yr ardal yn colli eu gwaith yn ystod y 90au.
Aeth y busnes i ddwylo'r gweinyddwyr ym Mawrth 2020 gyda'r safle olaf yn Y Drenewydd yn cau yn fuan wedyn.
Dynes fusnes
Mae rhai o gyn-weithwyr Laura Ashley bellach yn cael eu cyflogi gan fenter gymdeithasol Fashion-Enter Ltd, sy'n cynhyrchu dillad ar gyfer ASOS.
Yn ddiweddar, bu myfyrwyr Coleg Hafren, Y Drenewydd yn cydweithio gyda rhai o gyn-weithwyr Laura Ashley ar brosiect lle cafodd rhai o'r hen ddillad eu defnyddio fel ysbrydoliaeth i eitemau mwy cyfoes.
Dywedodd Carys Mair Jones sy'n dylunio dillad Barn Dancer, bod gallu Laura Ashley i greu busnes mor llwyddiannus o ganolbarth Cymru yn "ysbrydoliaeth".
Mae Carys, sydd hefyd yn ddarlithydd Celf a Dylunio yng Ngholeg Hafren, yn ychwanegu bod "y ffaith ein bod ni'n dal i siarad am ei dylanwad hi ddegawdau'n ddiweddarach yn dangos yr effaith gafodd hi".
"Hefyd, 'neud hynna i gyd o ganolbarth Cymru, mae'n reit sbesial," meddai.
"Mae'r printiau blodeuog yn dal o gwmpas, felly mae ei dylanwad hi ar ffasiwn yn dal i fodoli heddiw.
"Mae'n sicr yn ysbrydoliaeth i fi, falle dim o ran y print blodeuog a'r puffed sleeves, ond yn sicr fel dynes fusnes oedd yn gwneud dewisiadau dewr."
Mae plac sy'n nodi'r 70 mlynedd wedi cael ei ddadorchuddio yn Y Drenewydd yr wythnos hon, gydag arddangosfa o waith Laura Ashley yn agor yn Llyfrgell Y Drenewydd ddydd Iau.
Fe ddywedodd y trefnydd Ann Evans, bod y digwyddiad yn "ddathliad o etifeddiaeth Laura Ashley yn Y Drenewydd a chanolbarth Cymru".
"Fe wnaeth [y cwmni] ddarparu cyfoeth o swyddi i bobl ifanc, yn syth o'r ysgol, yn union fel fi," meddai.
"Roeddwn i'n gweithio i Laura Ashley am 20 mlynedd, yn syth o'r ysgol, ac roeddwn i wrth fy modd gyda phob munud ohono.
"Byddai hi, neu Bernard, yn cael cinio gyda chi. Yn aml yn yr un ciw - byddent yn ciwio am fwyd yn union fel pawb arall.
"Roedd hi'n dawel iawn, yn swil, ac yn berson hamddenol iawn. Ond fe gafodd hi'r gorau allan o'i gweithwyr mewn gwirionedd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2015
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd7 Mai 2022