'Argyfwng canser' Cymru wrth i gleifion 'aros yn rhy hir'
- Cyhoeddwyd
Martin Williams: "Mae'n teimlo fel bod fy mywyd i ar ben"
"'Rydyn ni mewn lle gwael ac mae 'na argyfwng canser yng Nghymru."
Dyna neges ddi-flewyn-ar-dafod elusen Macmillan, sy'n rhoi cymorth i bobl sy'n byw gyda chanser.
Gydag amseroedd aros y gwaetha' ar gofnod y llynedd, mae'r elusen yn gweld effaith hynny ar gleifion a'u teuluoedd ac yn galw am wneud mwy i gwrdd â'r targedau aros.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod yn buddsoddi mewn cyfleusterau diagnostig a thriniaeth newydd, ac yn cynyddu'r llefydd hyfforddi ar gyfer arbenigwyr canser.
Yn gyffredinol dim ond 52.9% o gleifion canser ddechreuodd eu triniaeth ar amser - o fewn y targed 62 diwrnod - ym mis Rhagfyr 2022, ac mae pryderon am rai mathau o ganser yn benodol.
Yn ôl y ffigyrau, dim ond tua chwarter (25%) o gleifion canser gynecolegol, neu ganser y pen a'r gwddf, gafodd eu gweld o fewn y targed ddiwedd y llynedd. O ran canser y coluddyn, roedd y nifer gafodd eu gweld ar amser yn 34.9%.

Y targed yn gyffredinol yw bod 75% o gleifion yn cael dechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod o'r adeg pan mae 'na amheuaeth o ganser. Dyw'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru erioed wedi gallu cwrdd â'r targed hwnnw.
Yn ôl ymchwil gan Macmillan, mae 65% o gleifion yng Nghymru'n dweud bod sefyllfa'r gwasanaeth iechyd yn un o'u prif bryderon heblaw am eu diagnosis, ac mae dros hanner (55%) yn poeni y gallai'r pwysau ar wasanaethau effeithio ar eu siawns o oroesi.
'Teimlo fel bod fy mywyd i ar ben'
Un claf sy'n credu y gallai pethau fod wedi bod yn wahanol petai wedi cael ei weld yn gynt ydy Martin Williams, 58, o Ynys Môn.
Ar ôl darganfod lwmp ar ei wddf fis Mawrth y llynedd, cafodd lythyr yn dweud bod rhestr aros o 40 wythnos.
Hyd yn oed wedi i'w feddyg teulu gymryd biopsi, roedd hi'n wyth wythnos cyn i'r canlyniad ddod yn ôl ac roedd yn dal i ddisgwyl i gael ei weld ym mis Medi.

Mae Martin Williams yn teimlo bod cyfle wedi ei golli i ddarganfod yn gynt bod canser ganddo
Mi benderfynodd gael tynnu'r lwmp yn breifat a darganfod wedyn bod ganddo melanoma - a'r canser wedi lledaenu, heb bosibilrwydd o wella.
"Heb ddim math o driniaeth, yn cael prognosis o i fyny at flwyddyn - toedd o ddim be' o'n i'n ddisgwyl glywed," meddai. "Waeth chi dd'eud, mae'n teimlo fel bod fy mywyd i ar ben.
"'Swn i 'di cael fy ngweld - dwi'm yn d'eud faswn i ddim fel ydw i heddiw 'ma, ond tydw i ddim 'di cael y cyfle.
"Mae'r targets 'ma yn cael eu gwneud oherwydd be' sy'n medru digwydd a 'dw i 'di cael fy methu.
"Hynny sy'n gwneud rhywun yn lloerig, na tydi rhywun ddim wedi cael be' sy' fod, cael fy ngweld yn yr amseroedd 'na."

Erbyn i Martin Williams gael gwybod mai melanoma oedd y lwmp yn ei wddf roedd y canser wedi lledaenu
Er bod Mr Williams yn canmol y driniaeth mae'n ei chael dan ofal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr erbyn hyn, mae'n flin am y ffordd cafodd ei drin ar y dechrau ac yn gweld bod 'na anghysondebau mawr o fewn y gwasanaeth iechyd.
"Gynnon ni deulu agos arall sy'n mynd drwy, nid yr un math o ganser, math gwahanol o ganser," meddai. "Ond mae o 'di cael ei weld yn yr amseroedd.
"Pam bod 'na wahanol amseroedd o fewn yr un bwrdd i'r mathau gwahanol o ganser? Tydy o ddim yn gwneud synnwyr."
'Methu ymdopi'
Yn ôl Richard Pugh, Pennaeth Partneriaethau Macmillan yng Nghymru, mae angen gweithredu ar frys i wella'r sefyllfa.
"Er ymdrechion dewr staff rheng flaen, mae'r system ofal canser yn methu ymdopi," meddai.

Rhaid gweithredu ar frys i wella'r sefyllfa, medd Richard Pugh, pennaeth elusen Macmillan yng Nghymru
"Gyda chleifion, pan maen nhw'n aros i gael y driniaeth mae problemau eraill yn dod - problemau ariannol a seicolegol hefyd. Pan chi'n aros chi ddim yn gallu meddwl am unrhyw beth heblaw'r canser.
"Beth y'n ni wedi gweld ydy mwy o bobl yn dod aton ni i gael ateb i'w cwestiynau, ac edrych am fwy o gymorth achos bod nhw'n aros am ddechrau eu triniaeth.
"Dyw hynny ddim yn beth da - fe ddylen nhw gael y driniaeth ar amser i ddelio gyda'r canser yn gynnar."
'Gweithio'n galed a buddsoddi'n helaeth'
Mae'r elusen yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar frys i daclo'r rhestrau aros a gwella gofal canser, gan gynnwys cyflwyno'r cynllun gweithlu cenedlaethol i ddatrys problemau staffio o fewn y sector.
Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth fod y Gwasanaeth Iechyd yn "gweithio'n galed i leihau amseroedd aros", a bod y llywodraeth yn "buddsoddi'n helaeth mewn gwasanaethau canser i wella lefelau canfod cynnar a darparu mynediad cyflym at archwiliad, triniaeth a gofal ansawdd uchel".
Ychwanegodd: "Yn ddiweddar, gwnaethom gyhoeddi £86m ar gyfer cyfleusterau diagnostig a chyfleusterau triniaeth newydd ar gyfer canser. Rydym hefyd yn cynyddu nifer y llefydd hyfforddi ar gyfer arbenigwyr mewn diagnosis canser, triniaeth a gofal lliniarol."
Yn gynharach eleni fe lansiodd Rhwydwaith Canser Cymru gynllun tair blynedd i geisio gwella'r profiad i gleifion. Fel rhan o hynny mae yna gynlluniau i sefydlu canolfannau diagnostig cyflym a hybiau rhanbarthol.

Ystadegau Rhagfyr 2022
Roedd yna 76 achos o ganser gynecolegol , gydag ond 25% yn cael eu trin o fewn y targed.
Roedd y ganran yn debyg o ran y 56 achos o ganser y pen a'r gwddf.
Dim ond 34.9% o 189 claf canser y coluddyn gafodd driniaeth o fewn 62 diwrnod.
Roedd ychydig yn fwy, 39.6%, o gleifion canser wrolegol wedi cwrdd â'r targed.
O ran mathau eraill o ganser, mae'r ffigyrau yn well. Roedd yna 286 achos o ganser y croen ym mis Rhagfyr, gyda 74.8% yn cael eu gweld ar amser, sy'n dal ychydig yn is na'r targed.

Mae'n ymddangos bod cleifion yn hapus gydag ansawdd y gwasanaethau unwaith eu bod yn cael eu gweld.
Mewn arolwg diweddar, dolen allanol roedd 92% o gleifion canser gafodd driniaeth yn ystod y pandemig yn dweud bod eu gofal wedi bod o safon uchel.
Ond pam bod yna gymaint o wahaniaethau rhwng gwahanol fathau o ganser?
Yn ôl yr Athro Tom Crosby OBE, Cyfarwyddwr Clinigol Canser Cenedlaethol Cymru, mae'n rhannol oherwydd anghysonderau o ran darpariaeth ac offer, ond y ffactor mwyaf ydy bylchau yn y gweithlu.

Dyw'r trafferthion "ddim yn hawdd i'w ddatrys yn y tymor byr" medd yr Athro Tom Crosby
Dywedodd hefyd bod rhai mathau o ganser yn fwy cymhleth ac angen llawer mwy o brofion, a bod hynny hefyd yn effeithio ar amseroedd diagnosis a thriniaeth.
"Mae ein staff yn rhoi diagnosis ac yn trin mwy o gleifion nag erioed, ond mae'r galw yn fwy na'r capasiti," meddai.
"Er bod y rhesymau am y diffyg capasiti yn amrywio rhwng pobl, peiriannau, rhwng cyfleusterau ac ysbytai, y brif broblem ydy'r gweithlu canser a dydy hynny ddim yn hawdd i'w ddatrys yn y tymor byr."
Rhaid 'trio meddwl yn wahanol'
Staff fel radiolegwyr a radiograffwyr sy'n gwneud ac asesu delweddau pelydr-X a sganiau i ddarganfod ac adnabod canser, ac roedd adroddiad gan Goleg Brenhinol y Radiolegwyr, dolen allanol wedi canfod fod yna fwlch o 33% yn y gweithlu'r llynedd.
Tra'n dweud bod yna ymdrechion mawr i wella pethau, mae'r Radiolegydd Ymgynghorol Dr Rwth Ellis Owen yn dweud bod y sector dan bwysau oherwydd y prinder cenedlaethol o staff.

Mae'r sefyllfa bresennol yn golygu bod staff yn gorfod gwneud defnydd "doeth" o adnoddau, medd Dr Rwth Ellis Owen
"Be' ydan ni wedi bod yn gorfod gwneud ydy trio meddwl yn wahanol," meddai.
"Trio defnyddio'r adnoddau sydd ganddon ni'n fwy call a doeth fel bod ni'n gwneud ein gorau glas i gael cleifion drwy'r system mor gyflym â fedran ni.
"Dwi'n gwybod faint o bryder mae o'n ei roi i'r cleifion pan maen nhw'n poeni falla bod ganddyn nhw gancr - ac mae cael sgan sy'n dweud bod o'n glir yr un mor werthfawr â chael sgan sy'n rhoi diagnosis cyflym.
"Mae'r cleifion sydd yn y system i gyd mor bwysig â'i gilydd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2023