Drakeford: 'Fe allai rhai o reolwyr Betsi adael'

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty BangorFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dim ond dwy flynedd yn ôl y daeth y bwrdd iechyd y gogledd o fesurau arbennig

Fe allai rhai o'r swyddogion sy'n rhedeg bwrdd iechyd mwyaf Cymru adael yn y dyfodol, yn ôl y Prif Weinidog, Mark Drakeford.

Fe gafodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sy'n gwasanaethu'r gogledd, ei roi dan fesurau arbennig fis diwethaf a hynny am yr eildro.

Dywedodd Mr Drakeford y byddai 'na "broses briodol" ac nad ei le yntau yw dweud y bydden nhw'n cael eu diswyddo.

Fe gafodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan feirniadaeth wedi iddi orfodi aelodau annibynnol y bwrdd iechyd i ymddiswyddo.

Mae cyn-aelodau o'r bwrdd wedi cwestiynu pam y cafodd yr aelodau annibynnol eu targedu wedi i adroddiad damniol ddweud bod arweinyddiaeth y bwrdd yn gamweithredol.

Wrth siarad â rhaglen Politics Wales o gynhadledd Llafur Cymru yn Llandudno, dywedodd Mr Drakeford nad ei le yntau oedd dweud y dylid diswyddo swyddogion gweithredol.

"O ran y gyfraith, dyw'r bobl yma ddim yn cael eu cyflogi gan Lywodraeth Cymru, ond gan y bwrdd."

Pan ofynnwyd a oes ganddo hyder yn y swyddogion, atebodd: "Fe allai fod na fydd pawb sydd yna heddiw, yn rhan o ddyfodol y bwrdd.

"Ond mae yna broses briodol. Mae gyda'r bobl yma hawliau. Dylid gweithio'r peth mas yn unol ag y mae pobl yn cael eu trin â pharch yng Nghymru."

Disgrifiad o’r llun,

Rhaid dilyn proses briodol, medd y Prif Weinidog

Daeth sylwadau Mr Drakeford ddyddiau wedi i'w lywodraeth gefnogi cynnig yn y Senedd oedd yn gresynu'r diffyg ymgynghori cyhoeddus o ran ei hadolygiad ffyrdd, a benderfynodd i ddileu mwyafrif projectau ffyrdd mawr Cymru.

Er iddo bleidleisio drosto, dywedodd y prif weinidog nad yw'r llywodraeth yn cytuno â phopeth yn y cynnig.

Roedd byrdwn y cynnig, yr oedd Plaid Cymru wedi ei addasu, yn rhywbeth "roedden ni'n teimlo y gallen ni gytuno iddo," meddai arweinydd Llafur Cymru.

"Dydi hynny ddim yn golygu bod y llywodraeth yn derbyn bob coma a phob cymal."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mark Drakeford bod mwy o ymgynghori wedi bod fel rhan o'r adolygiad ffyrdd nad sydd wedi ei dybio

Ychwanegodd: "Mae yna fwy o ymgysylltu ag y mae llawer o bobl, rwy'n meddwl, wedi ei gydnabod."

Dywedodd Mr Drakeford y bydd panel yr adolygiad ffyrdd yn ysgrifennu at yr holl Aelodau o'r Senedd gan amlinellu'r ymgynghori oedd wrth wraidd yr adroddiad y gwnaethon nhw ei gyhoeddi.

"Pan ddaw i'r rhaglenni ffyrdd penodol a fydd yn deillio o'r adolygiad, dyna pryd y bydd y rhan fwyaf o'r ymgynghori cyhoeddus yn digwydd."

Ddydd Sadwrn fe ddywedodd Mr Drakeford na fyddai ei alar wedi marwolaeth ei wraig yn ei atal rhag gweithio dros y Blaid Lafur.

Fe ddiolchodd bawb oedd wedi mynegi "caredigrwydd a chydymdeimlad" yn dilyn marwolaeth Clare Drakeford ym mis Ionawr.

Politics Wales BBC One Wales, ddydd Sul am 10:00, ac yna ar iPlayer.