''Da ni'n teimlo fel bod ni ddim ar ben ein hunain'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Aled Hughes sy'n sgwrsio â rhai o blant, rhieni a gwirfoddolwyr Amser Da

"Diolch am Derwen... mae o'n massive help i ni."

Mae Amser Ni yn rhan o Derwen, sef Tîm Integredig Plant Anabl; partneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Gwynedd.

Maen nhw'n darparu 'diwrnodau hwyl' a gweithgareddau ar gyfer plant gydag anghenion arbennig.

Tîm o wirfoddolwyr sydd wrthi, yn darparu lle addas i'r plant allu chwarae a ffynnu, gyda'i gilydd. Yn ogystal â hyn, mae'r gwasanaeth yn rhoi seibiant i'r rhieni, a chyfle i gael rhannu profiadau â rhieni sydd mewn sefyllfa debyg.

"[Da ni'n] teimlo fel bo' ni ddim ar ben ein hunain - mae pawb yn mynd drwy'r un peth efo'r plant."

Aeth Aled Hughes i ymweld ag un o Ddiwrnodau Teulu y sefydliad yng Nghaernarfon, gan ddod i adnabod rhai o'r gwirfoddolwyr a'r teuluoedd sy'n cael budd o'r gwasanaeth.

Gwrandewch ar y sgwrs yn llawn ar raglen Aled Hughes ar BBC Sounds.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig