'Dwi ddim eisiau colli hyder yn fy Nghymraeg'
- Cyhoeddwyd
Mae Eli, 13, yn un o enillwyr cystadleuaeth Gohebydd Ifanc y BBC.
Symudodd i Lundain ddwy flynedd yn ôl er mwyn mynd i'r Royal Ballet School, gan adael ysgol Gymraeg yng Nghaerdydd.
Ers hynny mae'r dawnsiwr ifanc yn teimlo ei fod wedi colli hyder yn ei allu i ddefnyddio'i Gymraeg ac mae'n holi pa mor gyffredin yw'r profiad hwnnw.
Pan o'n i'n 11 oed, symudais o Gaerdydd i Lundain i astudio dawns yn yr ysgol bale yno.
Roedd fy ngwersi i gyd yn Saesneg a fy ffrindiau newydd i gyd yn ddi-Gymraeg.
Pan o'n i'n byw yn Lloegr yn ystod y tymor ysgol, aeth wythnosau heibio heb i fi glywed yr iaith.
Yn gyflym, collais hyder wrth siarad Cymraeg, gan anghofio geiriau.
Dwi bellach wedi bod oddi cartref am ddwy flynedd ac yn pryderu fy mod i'n colli fy hyder yn y Gymraeg, yn enwedig wrth siarad gyda fy ffrindiau sydd dal yn yr ysgol Gymraeg.
Dwi'n angerddol dros yr iaith Gymraeg ac yn ystyried dyfodol yn y celfyddydau yma yng Nghymru, ond a yw hynny'n bosib?
Fel un o enillwyr cystadleuaeth Gohebydd Ifanc y BBC, dwi'n awyddus i ystyried sut beth yw hi i golli hyder yn ieithyddol.
Gyda Llywodraeth Cymru yn gobeithio bwrw'r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, dwi hefyd eisiau ystyried sut mae platfformau modern fel TikTok yn gallu helpu'r Gymraeg i dyfu.
'Siarad y Gymraeg sy'n naturiol iddyn nhw'
Un sydd wedi bod mewn sefyllfa debyg i fi yn ieithyddol ydy'r gantores Bronwen Lewis. Symudodd hi hefyd i Lundain yn ifanc er mwyn astudio.
"Yn Llundain nes i gwrdd â phobl oedd naill ai heb glywed am Gymru neu heb glywed am yr iaith," meddai.
"Os nad oes pobl o gwmpas er mwyn gallu siarad Cymraeg, mae e'n gallu bod yn unig iawn."
Ers dychwelyd i Gymru, mae Bronwen wedi rhannu ei cherddoriaeth ddwyieithog ar blatfformau cymdeithasol fel TikTok ac Instagram, gyda phobl fel seren y BBC Greg James yn cynnig platfform iddi.
"Mae defnydd y cyfryngau cymdeithasol yn allweddol wrth ddangos twf a moderneiddiad yr iaith. Mae gwneud yn siŵr bod y Gymraeg ar gael i chi o adre', ar eich ffôn, yn allweddol."
Yn ôl Bronwen, mae gweld enwogion megis Ryan Reynolds a Rob McElhenney yn siarad Cymraeg yn ddatblygiad enfawr o safbwynt dealltwriaeth fyd-eang o'r iaith.
"Mae'r iaith Gymraeg ar blatfform nawr a mae pobl yn credu bod hi'n cŵl. Mae sêr Hollywood a phêl-droedwyr byd enwog yn siarad amdani, yn canu yn yr iaith."
Neges Bronwen, felly, yw y dylai'r Gymraeg fod i bawb.
"Mae pawb yn gwneud camgymeriadau. Does neb yn berffaith. Dwi wedi bod yn siarad Cymraeg am 25 o flynyddoedd a dwi dal yn gwneud camgymeriadau," meddai.
"Paid â phoeni yn ormodol am dreigladau. Dwi'n gwybod eu bod nhw'n bwysig wrth ysgrifennu llythyr neu wneud traethawd hir - dwi'n deall hynny.
"Ond os wyt ti yn y dafarn yn siarad gyda ffrindiau neu yn archebu brechdan yn y caffi, dyw treigladau ddim mor bwysig â hynny.
"Mi ddylai pawb siarad y Gymraeg sy'n naturiol iddyn nhw."
'Gweithio bach yn galetach yn y Gymraeg'
Mae gan yr actor Mark Lewis Jones yrfa lewyrchus yn perfformio'n ddwyieithog.
Er y cafodd fagwraeth ddwyieithog yng ngogledd-ddwyrain Cymru, mae'n cydnabod ei fod wedi wynebu heriau wrth weithio yn y Gymraeg.
"Dwi'n teimlo fy mod i'n gorfod gweithio bach yn galetach yn y Gymraeg," meddai'r actor.
"Mae fy Saesneg yn well na fy Nghymraeg. Dwi wedi ffeindio, dros y blynyddoedd, bod fy Nghymraeg wedi gwella'n fawr. Dwi lot yn fwy cyfforddus nawr nag o'n i 20 mlynedd yn ôl, er enghraifft."
Yn ddiweddar, roedd yn rhan o'r gyfres Dal y Mellt - y gyfres ddrama iaith Gymraeg gyntaf gan S4C i gael ei thrwyddedu i'w darlledu at Netflix.
"Dylen ni ddim diystyru gymaint o effaith fydd cael rhaglenni fel Dal y Mellt ar blatfformau fel Netflix yn ei gael yn rhyngwladol," dywedodd.
'Siawns o lewyrchu'
Gyda chyfresi fel Squid Game ar gael yn yr iaith Goreaidd a'r ffilm All Quiet on The Western Front yn Almaeneg, mae Mark Lewis Jones o'r farn bod yr agwedd tuag at gynnwys mewn ieithoedd gwahanol wedi newid.
"Mae'n wych ein bod ni'n gallu gwylio'r rhaglenni, ffilmiau, a chyfresi yma yn eu hiaith wreiddiol. Dwi'n credu bod e'n enfawr bod hwn yn digwydd."
Mae'r celfyddydau, meddai, yn chwarae rhan enfawr o safbwynt dyfodol yr iaith.
"Mi fyddai hi mor hawdd i'r Gymraeg fod yn rhyw fath o ddarn amgueddfa, hen ffasiwn, hanesyddol o ran ieithyddiaeth," meddai.
"Mae'n rhaid iddi fod yn fyw ac yn fodern a chael ei chlywed ar y llwyfannau hyn fel bod pobl yn gallu gweld ei bod hi'n iaith fyw go iawn. Mae pobl yn byw eu bywydau yn gyfan gwbl yn yr iaith Gymraeg.
"Os gallwn barhau i fod yn allblyg a modern a chadw'r ffresni hwnnw yn ei chylch, mae ganddi siawns o lewyrchu a goroesi."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2023