Undeb Unite yn gohirio streic ambiwlans ar 20 Mawrth

  • Cyhoeddwyd
Streic Unite
Disgrifiad o’r llun,

Mae streic ddiweddara gweithwyr ambiwlans o undeb Unite wedi cael ei gohirio wrth i drafodaethau barhau

Mae undeb Unite wedi gohirio streic gan weithwyr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru oedd i fod i gael ei chynnal ddydd llun.

Mae'n dilyn datblygiadau pellach yn y trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ynglŷn â chyflogau.

Yn ôl yr undeb, bydd y saib yn y gweithredu diwydiannol yn galluogi'r ddwy ochr i barhau i drafod.

Roedd undebau Unite a'r GMB eisoes wedi gohirio streic oedd i fod i gael ei chynnal ar 5 Mawrth, gan ddweud bod yna "ddatblygiadau sylweddol".

Bryd hynny dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "croesawu'r oedi cyn streicio gan Unite a GMB tra bod trafodaethau gyda'n partneriaid cymdeithasol yn yr undebau llafur yn parhau".

Ym mis Chwefror fe wnaeth gweithwyr ambiwlans o'r ddau undeb weithredu ar y cyd gan olygu bod tua hanner y gweithlu ar streic ar yr un diwrnod.