Bwcis 'heb ymyrryd i helpu' dyn â phroblem gamblo
- Cyhoeddwyd
Mae dyn sy'n gaeth i gamblo yn dweud y dylai cwmni William Hill fod wedi gwneud mwy i'w atal pan roedd yn mentro miloedd o bunnoedd ar fetiau unigol.
Fe aeth Matthew (nid ei enw go iawn) o dde Cymru i mewn i ddyled o dros £70,000 gyda'r cwmni rhwng 2012 a 2019.
Mae galwadau'n dangos ei fod yn grac ac yn ofidus - mae rheolau gamblo'n dweud y dylai cwmnïau betio ymyrryd os oes arwyddion o ofid.
Dywedodd William Hill nad oedden nhw wedi dod o hyd i unrhyw ddiffygion yn eu dulliau gweithredu.
Roedd Matthew, sy'n athro a thad i dri o blant, yn ennill tua £35,000 y flwyddyn pan ddechreuodd fentro symiau bychan ar ddigwyddiadau mawr fel y Grand National.
Cyn hir roedd yn agor cyfrifon ar-lein ac yn manteisio ar gynigion i fetio am ddim.
Fe waethygodd pethau wrth iddo geisio adennill pres wedi mân golledion, ac yn hytrach na mentro ychydig bunnoedd fe fetiodd cymaint â £10,000.
Daeth yn gwsmer 'aur' dan gynllun VIP William Hill, ac yn fuan wedi hynny roedd Matthew yn mentro'i gyflog misol - £2,300 - y diwrnod yr oedd yn ei dderbyn.
'Newidiodd y dynameg yn gyflym'
Ar gyfer rhaglen ddogfen ar BBC Radio 4, Desperate Calls, mae Matthew wedi gwrando'n ôl ar 89 o sgyrsiau ffôn rhyngddo ef a William Hill.
Nod y mwyafrif oedd defnyddio gwasanaeth quick cash, oedd yn caniatáu iddo dynnu arian yn uniongyrchol i'r cwmni heb orfod aros iddo glirio yn ei gyfrif banc. CashDirect yw enw newydd y gwasanaeth.
Weithiau fe fyddai'n gadael y siop gyda £5,000 mewn arian parod.
Cafodd dwsinau o'r galwadau eu gwneud o hen flwch ffôn tu allan i'r siop. Roedd yn gwario cymaint ar gamblo fel na allai fforddio ei fil ffôn symudol.
Dywedodd William Hill bod Matthew wedi ennill betiau llawer o weithiau a thynnu miloedd o bunnau o'i gyfrif, ond yn ôl Matthew fe fyddai'n ail-fentro'r arian bron yn syth.
"Newidiodd y dynameg yn gyflym," meddai. "Roedd bywyd yn troi o gwmpas gamblo.
"O edrych yn ôl, roedd bywyd yn niwlog. Rwy'n stryglo i gofio llawer o'r ddegawd ddiwetha', oni bai am feddyliau tywyll iawn, isafbwyntiau difrifol ac ambell uchafbwynt.
"Dim canolbwyntio ar y teulu a'r bobl sydd agosaf ata'i."
Mae gan Matthew £70,000 o ddyledion hyd heddiw i berthnasau a ffrindiau.
Roedd Matthew yn flin ac yn ofidus mewn llawer o'r galwadau i William Hill.
Yn ôl rheolau'r Comisiwn Gamblo, dylai cwmnïau betio gadw golwg am bobl sy'n mynd yn gaeth ac ymyrryd os ydyn nhw'n arddangos arwyddion o ofid.
Dywed Matthew na ddigwyddodd hyn a bod William Hill wedi caniatáu iddo barhau i fetio.
Cyrraedd y pen
Ffoniodd aelod o dîm diwydrwydd dyladwy (due diligence) William Hill wedi i Matthew anfon ebost yn mynegi awydd i "eithrio ei hun" am ei fod yn flin ynghylch diffyg betiau di-dâl.
Roedd hynny'n golygu cau ei gyfrif am byth ac atal mynediad i wefannau betio eraill.
Yn ystod y sgwrs, trafododd yr aelod staff hunan-eithrio a phrosesau eraill i ffrwyno arferion gamblo.
Ond yn y pen draw, fe ganiataodd i Matthew barhau, gan ystyried yr alwad yn gŵyn ynghylch y gwasanaeth a'r diffyg betiau am ddim, yn hytrach nag yn fater o gyfrifoldeb cymdeithasol.
Yn ôl Matthew, ni ddywedodd bod ganddo broblem, gan nad oedd stopio gamblo "yn ganlyniad dymunol ar y pryd".
"Yn sail i bopeth yw'r awydd i ennill yr holl bres yn ôl," meddai.
Fe gyrhaeddodd bwynt pan wyddai Matthew bod yn rhaid iddo stopio gamblo. Aeth gyda'i deulu i'r meddyg teulu ac mae wedi cael cymorth cwnsela ers hynny i fynd i'r afael â'i broblem gamblo.
Ond roedd Matthew eisiau deall beth oedd wedi digwydd.
"Unwaith y cafodd y cylch o gamblo ei thorri, wnes i asesu mynydd o ddata ges i dan gais mynediad i wybodaeth," meddai.
"Ysgrifennais lythyr yn cwyno i William Hill."
'Sicrhau safonau uchel yn ganolog'
Dywedodd William Hill eu bod "wedi cynnal ymchwiliad manwl i'n rheolaeth o gyfrif Matthew", a chanfod "dim diffygion yn ein dulliau gweithredu gamblo diogelach mewn cysylltiad ag anghenion cyfrif Matthew yn y cyfnod dan sylw".
Ychwanegodd y cwmni bod "sicrhau safonau uchel o ran gamblo diogelach ac atal niwed mewn cysylltiad â gamblo yn ganolog i'r ffordd y mae William Hill yn gweithredu".
Pwysleisiodd eu bod "yn cymryd unrhyw gŵyn gan gwsmeriaid yn hyn o beth yn eithriadol o ddifri, ac yn ymroddi i sicrhau gwelliant parhaus yn y maes yma".
Cafodd William Hill ddirwy o £6.2m yn 2018 am fethu ag amddiffyn cwsmeriaid.
Roedd llawer o'r achosion a gafodd eu hamlygu gan y rheoleiddiwr yn debyg i un Matthew ac wedi digwydd tua'r un pryd.
Mae disgwyl i Lywodraeth y DU gyhoeddi papur gwyn yn fuan, gan argymell gwiriadau llym bod unigolion yn gallu fforddio betio, ac mae disgwyl ombwdsmon newydd i ddelio gyda chwynion.
Ar hyn o bryd, gall pobl â chwynion cyfrifoldeb cymdeithasol ond ysgrifennu at y Comisiwn Gamblo. Gan na allai'r Comisiwn wneud sylw ar y camau y mae'n eu cymryd, mae'n gadael llawer o bobl yn dal yn y niwl.
Dywedodd Matthew: "Heb newis sylweddol, bydd llawer mwy o bobl yn syrthio i'r un fagl ag y gwnes i. Bydd mwy o fywydau'n cael eu dinistrio, mwy o deuluoedd a chyfeillgarwch yn chwalu a mwy o fywydau'n cael eu colli."
Desperate Calls, 13:30 BBC Radio 4 ddydd Sul 19 Mawrth, ac yna ar BBC Sounds
Os ydych chi neu rywun rydych chi'n eu hadnabod wedi'ch effeithio gan y materion a godwyd yn y stori yma, mae cefnogaeth ar gael arwefan BBC Action Line.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2021