Priodas Pum Mil Metr: Cwpl yn priodi ar ôl Parkrun

  • Cyhoeddwyd
Ceridwen a RichardFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Priodferch a phriodfab ar wib - Ceridwen a Richard yn mwynhau Parkrun cyn eu priodas

Mae rhedeg yn rhan mor annatod i gwpl o'r de, doedd ond un ffordd o baratoi ar gyfer eu priodas - trwy redeg pum cilomedr cyn y seremoni.

Fe wnaeth Ceridwen Boon, 42, a Richard Appleford, 44, gymryd rhan mewn Parkrun ym Mharc Coffa Ynysangharad ym Mhontypridd oriau cyn priodi mewn gwesty yng Nghaerdydd.

Roedd Richard, dadansoddwr technoleg gwybodaeth, wedi gofyn i Ceridwen ei briodi fis Ionawr y llynedd ar ôl rhedeg marathon yn Llundain.

Dywedodd Ceridwen: "Roedden ni'n gwybod bod rhaid i ni redeg ar ddiwrnod ein priodas oherwydd daethon ni i nabod ein gilydd trwy redeg.

"Fe ofynnodd imi ei briodi ar ôl rhedeg a ry'n ni'n treulio'r rhan fwyaf o'n amser hamdden yn rhedeg neu'n chwilio am rasys i redeg.

"Dyna wir oedd y ffordd orau i ddechre'r diwrnod. Roedd yn hwyl ac yn sbesial ac yn un o uchafbwyntiau'r diwrnod."

'Un o rannau mwyaf ymlaciol y dydd'

Roedd yna "ruthr gwyllt" i ymolchi a chael gwneud ei gwallt a'i cholur cyn y briodas yng ngwesty Manor Parc am 15:00.

Roedd ei thad, Richard Boon wedi rhedeg gyda'r pâr cyn hebrwng ei ferch yn y seremoni.

"Mae pawb yn dweud bod eich diwrnod priodas yn mynd yn gyflym," meddai Ceridwen.

"Felly er ein bod yn rhedeg pum cilomedr, y Parkrun oedd un o rannau mwya' ymlaciol y dydd ac fe roddodd gyfle da i ni weld pobl a dala lan â nhw.

"Ro'n i mor emosiynol pan laniodd fy nhad i redeg hefyd. Mae fy nhad yn rhedwr anhygoel ac fe wnaeth ei weld e'n rhedeg wneud i mi fod eisiau rhoi cynnig arno hefyd.

"Faint o bobl sy'n ddigon ffodus i allu rhedeg gyda'u tad ac yna iddyn nhw eu hebrwng i'r allor?"

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae miloedd o bobl yn rhedeg mewn rasys Parkrun ar draws y wlad bob bore Sadwrn

Fe wnaeth y cwpl gwrdd fel aelod o grŵp Caerphilly Runners a dechrau perthynas ym Mawrth 2020.

Gofynnodd Richard iddi ei briodi fis Ionawr 2022, "ar bwys Afon Tafwys ar fore oer iawn wedi i minnau redeg hanner marathon ac roedd e wedi rhedeg marathon".

"Fe lwyddodd hyd yn oed i fynd lawr ar un glin, a bydd hynny'n fy rhyfeddu am byth!"

Mis mêl bach... yn rhedeg

Mae'r pâr wedi diolch i drefnwyr Parkrun Pontypridd am eu cymorth ar y diwrnod, ac fe gafodd rhoddion o'r achlysur eu rhoi i Fanc Bwyd Capel Salem.

"Rhedeg y Parkrun ar ein diwrnod priodas oedd yn ffordd orau o bell o ddechrau'r diwrnod a 'naeth e neud e'n sbesial iawn. Mae pobl yn wirioneddol glên atoch chi pan y'ch chi wedi gwisgo fel priodferch!

"Dydyn ni ddim yn ofergoelus felly roedd e'n wych i weld Richard yn y bore a gallu ymlacio a chael hwyl yn gwneud rhywbeth ry'n ni'n ei garu."

Mae'r ddau'n bwriadu mynd ar fordaith i Sgandinafia cyn diwedd y flwyddyn.

Yn y cyfamser, maen nhw'n cael "mis mêl bach" y penwythnos yma yn Dorset "ble byddan ni'n rhedeg tua 28 milltir ddydd Gwener ac yna'n rhedeg Parkrun Weymouth ddydd Sadwrn!"

Pynciau cysylltiedig