Eisteddfod: 'Canolfannau cystadlu' i ddisodli'r pafiliwn
- Cyhoeddwyd
Bydd sawl newid i'r drefn gystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, gan gynnwys dwy ganolfan newydd i gymryd lle'r pafiliwn traddodiadol.
Mae trefnwyr y Brifwyl wedi cyhoeddi mai uchafswm o dri chystadleuydd fydd yn rownd derfynol pob cystadleuaeth bellach, sy'n golygu y bydd cystadlaethau torfol - fel corau, grwpiau llefaru a phartïon dawns - yn cymryd rhan mewn rowndiau cynderfynol.
Bydd dwy ganolfan gystadlu newydd ar y Maes, fydd yn llai na'r pafiliwn traddodiadol.
1,800 o seddi oedd yn y pafiliwn yn Nhregaron y llynedd, ond eleni bydd un ganolfan yn dal hyd at 1,200 o bobl, a'r llall yn dal 500.
Bydd prif seremonïau'r orsedd yn cael eu cynnal yn y ganolfan fwyaf.
Yn ôl y trefnwyr, yr unig dro roedd y pafiliwn yn llawn yn ystod Eisteddfod Ceredigion y llynedd oedd ar gyfer seremoni'r cadeirio ar y prynhawn Gwener.
Bydd y newidiadau'n dod i rym yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd eleni, yn dilyn adolygiad annibynnol o'r cystadlaethau.
Yn ôl y trefnwyr, fe fydd y newidiadau yn "cadarnhau statws a phwysigrwydd cystadlu fel elfen greiddiol a chanolog i'r Brifwyl am flynyddoedd i ddod".
Bydd rhagbrofion ar gyfer unigolion a deuawdau yn cael eu cynnal yn yr is-bafiliynau ar y Maes, gyda chystadlaethau gwerin a cherdd dant yn y Tŷ Gwerin, llefaru a monologau yn y Babell Len, a rhagbrofion cerdd ym mhabell Encore.
Mae'r trefnwyr yn dweud mai'r nod yw cryfhau'r berthynas rhwng yr is-bafiliynau a'r rhaglen gystadlaethau.
Bydd y cystadlaethau torfol yn parhau i gael eu gwasgaru ar draws yr wythnos, ond mae'r Eisteddfod yn dweud ei bod hi'n bosib y bydd ambell gystadleuaeth yn cael ei chynnal ar ddiwrnod gwahanol i'r blynyddoedd diwethaf.
Fe fydd y cystadlu yn dechrau'n hwyrach yn y dydd hefyd o dan y drefn newydd.
"Yn yr ymgynghoriad roedd 'na gwestiwn sylfaenol - beth ydy pwrpas cystadlu?" meddai Trystan Lewis, cadeirydd Pwyllgor Diwylliannol yr Eisteddfod, ar Dros Frecwast fore Mawrth.
"Ydy o er mwyn codi safon neu ydy o er mwyn bod pobl yn cymryd rhan yn gymunedol?
"Ma'r pafiliwn yn dod yn llai a gobeithio y bydd yn fwy hygyrch, achos yn y blynyddoedd a fu ma'r pafiliwn... wedi bod yn le hwyrach nad ydy bobl yn teimlo eu bod nhw'n gallu mynd iddo fo.
"Maen nhw'n crwydro'r maes ond ddim yn mynd i mewn i'r pafiliwn.
"Rydan ni'n edrych ar gynnal a chodi safon yn ogystal â phrofiad yr ymwelydd a phrofiad y cystadleuydd.
"Be da ni'n neud bellach ydy bod bob un adran o ddawns i gerddoriaeth a cherdd dant ac ati i gyd yn cael yr un tegwch ar y llwyfan."
Ond mae'r cyhoeddiadau wedi denu gwrthwynebiad hefyd ac un arweinydd côr, Wil Morus Jones, yn dweud ei fod yn newyddion "trist iawn".
"Bellach yr hyn sydd ganddom yw llwyfan eilradd i'r rhain gan wybod ymlaen llaw pa dri chôr gaiff fynd ar y llwyfan.
"Cofiaf gystadlu â 12 côr a'r bwrlwm a'r cyffro yn y pafiliwn yn drydanol.
"Mae'r trefniant hwn i mi yn wrthyn a dw i wedi mynegi fy marn i rai o'r swyddogion yn barod."
Fe ddywedodd Menai Williams, cyn-arweinydd Côr Meibion Caernarfon, wrth raglen Post Prynhawn fod "ambell beth yn ei phoeni" ond, dywedodd nad yw'n gwrthwynebu ystyried newidiadau chwaith.
"Beth sy'n fy mhoeni i gynta' ydy bod y peth 'di cael ei wneud yn fyr rybudd o ran y corau.
"Mae 'na bethau fedar rhywun wneud, oes, a does i gen i ddim gwrthwynebiad mewn ffordd, ond dw i ddim yn siŵr os dw i'n cytuno, yn y pethau torfol, mai dim ond tri chystadleuydd sy'n dod i'r brig sy'n mynd i'r 'pafiliwn'.
"Ydy o'n mynd i greu rhyw fath o ddau ddosbarth? Dosbarth cyntaf ac ail ddosbarth? Mae hwnna'n boen dw i'n meddwl de.
"Dw i'n gw'bod am un côr sydd wedi trefnu pwyllgor brys wythnos yma i drafod beth sydd wedi digwydd."
'Yr un mor wefreiddiol'
Fe ddywedodd Trystan Lewis, wrth sôn am y penderfyniad i gael dwy ganolfan gystadlu, y bydd "yr un statws yn cael ei rhoi i'r ddwy ganolfan".
"'Da ni'n mynd i 'neud yn siŵr fel steddfod fod y profiad yr un mor wefreiddiol wrth gystadlu mewn corau ac fel unigolion.
"Fel dwi'n deud, dim diraddio ydy hyn o gwbl, ond 'da chi'n sylweddoli hefyd yn wyneb yr her ariannol, 'da ni 'di bod yn edrych ar yr holl ffactorau hyn.
"Mae ymgynghoriad trylwyr wedi bod, a dwi'n gobeithio mai codi safon fyddwn ni'n 'neud, denu corau, denu unigolion, fel bod y profiad iddyn nhw yn llawer fwy gwefreiddiol."
'Rhy gynnar i feirniadu'
Gan groesawu'r ffaith "y bydd yr elfen cystadlu yn parhau'n ganolog i gynlluniau'r Brifwyl", dywedodd Cymdeithas Eisteddfodau Cymru eu bod "yn cydnabod bod y cyhoeddiad wedi hollti barn, ac yn cydymdeimlo â rhai o'r pryderon, y corau yn arbennig".
Dywedodd mewn datganiad bod y cynllun yn ganlyniad "adolygiad annibynnol sydd wedi ei drafod yn fanwl gan bobl cymwys yn eu meysydd arbenigol".
"Mae unrhyw newidiadau yn siŵr o godi ansicrwydd, ond hyd nes y gwelwn y rhaglen lawn, ac y byddwn fel cymuned o eisteddfodwyr wedi cael cyfle i brofi'r arlwy newydd yn Llŷn ac Eifionydd, yna mae'n rhy gynnar i feirniadu.
"Ychwanegodd: "Wrth barchu penderfyniad yr Eisteddfod Genedlaethol i wynebu heriau'r oes, rydym hefyd yn hyderus y bydd yna barodrwydd i addasu'r cynlluniau petai elfennau o arbrawf mis Awst yn profi i fod yn amhoblogaidd.
"Edrychwn ymlaen at graffu'r rhaglen newydd sydd i'w gyhoeddi cyn diwedd y mis.
Dywedodd y trefnwyr bydd y rhaglen gystadlu yn cael ei chyhoeddi bron i dri mis ynghynt na'r arfer - cyn diwedd mis Mawrth.
Mae'r dyddiad cau ar gyfer y cystadlaethau cyfansoddi ar 1 Ebrill, a'r cystadlaethau llwyfan ar 1 Mai.
Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yn cael ei chynnal ym Moduan, Llŷn, rhwng 5 a 12 Awst.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd29 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2023