'Dryswch' am gais i godi fflatiau ar safle meddygfa
- Cyhoeddwyd
Mae cynllun i adeiladu fflatiau ar safle meddygfa yng Ngwynedd wedi creu "dryswch a phryder" am wasanaethau iechyd yn yr ardal.
Daw'r pryderon yn sgil cyflwyno cais cynllunio i ddymchwel adeilad presennol Meddygfa Madog ym Mhorthmadog.
Mewn ymateb mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn dweud fod gwasanaethau meddygol Porthmadog yn ddiogel, gyda chynlluniau i ddatblygu'r ddarpariaeth ymhellach dros y blynyddoedd nesaf.
Ond mae'r "diffyg gwybodaeth" wedi'i ddisgrifio gan ddirprwy arweinydd Cyngor Gwynedd fel "annerbyniol", gan adael "gwagle" yn lleol.
Mewn datganiad dywedodd y bwrdd iechyd - sy'n rheoli'r feddygfa yn uniongyrchol - fod gan yr adeilad brydles tan 2030, ond fod ymdrechion yn parhau i sicrhau safle newydd ar gyfer gwasanaethau meddygaeth y dref.
'Dim effaith negyddol'
Yn ôl y cynghorydd Nia Jeffreys, sy'n cynrychioli ward Dwyrain Porthmadog, sbardun y pryderon oedd hysbysu cais cynllunio i adeiladu wyth fflat byw'n annibynnol ar gyfer pobl dros 55 oed.
Bwriad y datblygwyr yw codi'r fflatiau drwy ddymchwel adeiladau sydd eisoes yn cael eu defnyddio fel unig feddygfa'r dref, sy'n gwasanaethu tua 4,000 o bobl ym mro Eifionydd.
Mae'r dogfennau cynllunio yn cynnwys cadarnhad ysgrifenedig gan berchnogion y safle, Meddyg Care Group Holdings Ltd, na fydd y brydles bresennol yn cael ei hadnewyddu ar derfyn y cytundeb presennol yn 2030, dolen allanol, ond fod ffenestr i'w ddirwyn i ben yn gynt na hynny yn Hydref 2024.
Ychwanegodd y cwmni eu bod yn "dymuno bod yn barod i ddatblygu'r safle ar ôl y cymal terfynu neu fel arall ar ddiwedd y brydles".
"Bydd y cais cynllunio hwn yn rhoi digon o amser i'r meddianwyr presennol i ddod o hyd i safle newydd sy'n 'addas i'r diben'."
Wedi ei gyflwyno ddechrau Chwefror, mae'r cais yn nodi bwriad i godi adeilad pedwar llawr, gyda dau o'r fflatiau yn cael eu hadeiladu fel rhai fforddiadwy.
"Mae gan y feddygfa safle ychwanegol ar draws y ffordd ar y brif Stryd Fawr," medd y datblygwyr.
"Felly ni fydd dymchwel yr adeilad hwn yn cael effaith negyddol ar ddarpariaethau Meddygfa Madog ar gyfer cymuned Porthmadog.
"Yn syml, bydd y gwasanaethau'n symud i adeilad sy'n bodoli eisoes."
'Pobl yn fy stopio ar y stryd'
Ond yn ôl y Cynghorydd Jeffreys, mae wedi bod yn sefyllfa "andros o ddryslyd a phryderus i bobl yr ardal".
"Mae pobl yn gofidio yn ofnadwy am beth sy'n mynd i ddigwydd," meddai.
"'Da ni'n dref fawr a fedran ni ddim bod heb feddygfa. Does 'na ddim gwybodaeth wedi dod ymlaen am be' sy'n digwydd.
"Lle mae 'na wagle fel hyn mae'r cymdeithasau cymdeithasol... mae pobl yn trio dyfalu atebion eu hunain.
"Yn enwedig yr henoed a phobl heb gerbyd. Mae hi 'di bod yn gyfnod o ofid."
Ychwanegodd: "Fedrai'm cerdded lawr stryd Port i ddweud y gwir heb fod rhywun yn stopio fi ac yn gofyn be' sy'n digwydd. Mae pawb yn poeni.
"Mae hyn wedi amlygu nad ydy'r feddygfa sydd ganddon ni yn ddigon da. Fedran ni ddim cael meddygfa ar les, lle fedrith y carped gael ei dynnu o dan hi ar unrhyw adeg.
"Mae angen adeilad pwrpasol a modern. Mae angen digon o ystafelloedd i gynnig gwasanaethau modern, a 'da ni byth eto isio bod mewn sefyllfa lle 'da ni'n teimlo fod ein meddygfa o dan fygythiad."
'Gwacter gwybodaeth'
O ganlyniad i'r "dryswch" mae cyfarfod cyhoeddus wedi ei drefnu ar gyfer nos Iau, 30 Mawrth, yng Nghanolfan Porthmadog i drafod sefyllfa gwasanaethau iechyd y dref.
Ychwanegodd Mabon ap Gwynfor, yr Aelod o'r Senedd ar gyfer Dwyfor Meirionnydd: "Ers i gwestiynau gael eu codi gyntaf am ddyfodol Meddygfa Madog, rwyf wedi bod mewn deialog cyson â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mewn ymgais i ddarganfod beth yn union sy'n mynd ymlaen.
"Yn anffodus, mae'r gwacter gwybodaeth a achoswyd gan ddiffyg brys cychwynnol ar ran y bwrdd iechyd wedi achosi pryder mawr yn y gymuned leol wrth i bobl geisio sicrwydd bod dyfodol eu meddygfa leol yn ddiogel.
"Fel y mae, nid oes safle addas arall ar gyfer y feddygfa yn y dref, ac mae cleifion y feddygfa yn pryderu y bydd yn rhaid iddynt fynd i Gricieth er mwyn gweld meddyg.
"Mae'r sefyllfa'n achosi pryder i lawer o'm hetholwyr, yn enwedig yr henoed a'r mwyaf bregus, a'r rhai sydd heb fynediad i drafnidiaeth breifat ac yn ddibynnol ar gysylltiad â'r feddygfa ym Mhorthmadog."
Mewn datganiad dywedodd cyfarwyddwr ardal y bwrdd iechyd, Ffion Johnstone: "Mae Hwb Iechyd Eifionydd, sydd hefyd yn ymgorffori practis Cricieth, wedi'i leoli mewn adeilad ar brydles ym Mhorthmadog.
"Mae gennym ni les ar y feddygfa sy'n rhedeg tan 2030, ac er ei bod wedi bod yn fwriad gennym erioed i adleoli'r feddygfa i safle newydd, nid yw hyn ar fin digwydd.
"Ar hyn o bryd rydym yn archwilio safleoedd posibl yn y dref cyn datblygu achos busnes."
Ychwanegodd: "Rydym wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn parhau i ddatblygu ein gwasanaethau gofal yn ardal Porthmadog.
"Mae Canolfan Sgiliau, Addysg a Hyfforddiant newydd wedi'i sefydlu yn Hwb Iechyd Eifionydd, a fydd yn ceisio hyfforddi a datblygu gweithwyr iechyd proffesiynol newydd gymhwyso, megis Therapyddion Galwedigaethol a Fferyllwyr, i'w paratoi ar gyfer gyrfa o fewn gofal cychwynnol yn ardal Dwyfor."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd30 Awst 2021
- Cyhoeddwyd7 Medi 2022