Diogelwch tân: Cytundeb rhwng y llywodraeth a datblygwyr
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi "rhaglen uchelgeisiol" i fynd i'r afael â diffygion diogelwch tân mewn adeiladau preswyl canolig ac uchel.
Mae'n dweud bod pob datblygwr mawr wedi arwyddo cytundeb i drwsio blociau o fflatiau anniogel ar draws Cymru.
Dywed gweinidogion y bydd y llywodraeth yn talu'r gost ar gyfer y 28 adeilad lle mae datblygwr yn anhysbys neu wedi rhoi'r gorau i fasnachu.
Bydd benthyciadau di-log ar gael i ddatblygwyr fel rhan o'r cytundeb y mae gweinidogion yn dweud fydd yn gwneud pobl yn "ddiogel a sicr yn eu cartrefi".
Cafodd y cyhoeddiad ei wneud yn y Senedd gan y gweinidog tai Julie James fel rhan o gytundeb cydweithio Llywodraeth Cymru gyda Phlaid Cymru.
Yn dilyn trasiedi Tŵr Grenfell yn Llundain yn 2017, canfuwyd bod nifer o flociau o fflatiau yng Nghymru â diffygion diogelwch tân.
Mae gwaith trwsio diffygion ar lawer o'r blociau hyn eto i'w wneud, ynghanol ffraeo ynghylch pwy ddylai dalu.
Ym mis Hydref y llynedd, fe wnaeth 10 cwmni gytuno i fynd i'r afael â diffygion diogelwch tân adeiladau uchel y buon nhw ynghlwm â nhw yng Nghymru.
Mae llawer o berchnogion tai wedi cael eu gadael yn methu â gwerthu eu fflatiau, a hefyd yn talu ffioedd yswiriant a thâl gwasanaeth uwch.
Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd Ms James ei bod yn "rhaglen uchelgeisiol" a fyddai'n gwneud i drigolion deimlo'n "ddiogel a sicr yn eu cartrefi".
Cadarnhaodd fod datblygwyr mawr wedi cytuno i lofnodi cytundeb sy'n eu hymrwymo yn gyfreithiol i wneud gwaith diogelwch tân ar adeiladau canolig ac uchel ledled Cymru.
Ymrwymodd Llywodraeth Cymru hefyd i gamu i mewn a gwneud gwaith adfer mewn carfan gychwynnol o 28 o "adeiladau amddifad" fel y'u gelwir, sef eiddo preifat lle nad yw datblygwr yn hysbys neu wedi rhoi'r gorau i fasnachu.
Dywedodd y gweinidog y byddai'r gwaith hwn yn lleihau risgiau diogelwch tân "cyn gynted â phosib".
Dywedodd y gallai'r datblygwyr sydd wedi ymuno â'r cynllun gael mynediad at fenthyciadau di-log i helpu gyda'r gwaith trwy Gynllun Benthyciadau Datblygwyr Diogelwch Adeiladau Cymru newydd gwerth £20m.
Byddai'r benthyciadau hyn yn ad-daladwy dros bum mlynedd ac mae angen i'r adeiladau fod yn 11 metr neu fwy o uchder.
'Bwriadu arwyddo'
Dywedodd Julie James fod Redrow, Lovell, Vistry, Countryside, Persimmon, McCarthy Stone wedi arwyddo'r cytundeb tra bod Taylor-Wimpey, Crest Nicholson a Barratt wedi cadarnhau eu bod yn bwriadu arwyddo.
Fe wnaeth llefarydd y Ceidwadwyr ar dai, Janet Finch-Saunders godi pryderon am y datblygwyr oedd wedi dweud eu bod yn bwriadu arwyddo ond nad oedd wedi gwneud hynny eto.
"Nid yw'r bwriad i arwyddo yn werth y papur nad yw wedi'i ysgrifennu arno," meddai wrth y gweinidog.
"Pa gamau ydych chi'n eu cymryd i sicrhau eu bod yn arwyddo, ac yn gyflym?"
Dywedodd Ms James fod angen caniatâd ar y cwmnïau dan sylw i arwyddo gan fyrddau eu cwmni daliannol.
'Cael eu henw da yn ôl'
Wrth groesawu datganiad y gweinidog "yn gynnes", dywedodd Mabon ap Gwynfor o Blaid Cymru "y gwir ydy, tan i'r gwaith atgyweirio gael ei wneud er mwyn gwneud yr adeiladau yma yn ddiogel, yna bydd y preswylwyr yn parhau i fyw mewn gofid".
"Pryd medrwn ni ddisgwyl cyrraedd pwynt ble y bydd pob adeilad yn ddiogel i'r preswylwyr heb iddyn nhw neu berchnogion orfod talu am y gwaith" gofynnodd i Ms James.
Pwysleisiodd y gweinidog ei fod o fudd i ddatblygwyr wneud y gwaith oherwydd eu bod yn "awyddus i gael eu henw da yn ôl".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd15 Mai 2022
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2021