Porthladdoedd rhydd yn 'help i gadw'r Gymraeg yn fyw'
- Cyhoeddwyd
Fe all y buddion economaidd o sefydlu un o ddau borthladd rhydd newydd yng Nghaergybi "helpu i gadw'r Gymraeg yn fyw" ar Ynys Môn.
Dyna farn arweinydd y cyngor sir yn sgil ceisiadau llwyddiannus gan y Porthladd Rhydd Celtaidd yn Aberdaugleddau a Phort Talbot, a Phorthladd Rhydd Ynys Môn yng Nghaergybi.
Gyda disgwyl i'r ddau safle fod yn weithredol yn ddiweddarach eleni, byddant yn derbyn hyd at £26m yr un gan Lywodraeth y DU.
Y nod, medd gweinidogion, fydd denu hyd at £5bn o fuddsoddiad cyhoeddus a phreifat, gyda photensial i greu tua 20,000 o swyddi erbyn 2030.
'Gormod o'n pobl ifanc wedi gorfod gadael'
Yn croesawu'r cadarnhad o lwyddiant cais yr awdurdod a chwmni Stena, dywedodd arweinydd Cyngor Môn bydd statws o'r fath yn "bwysig er mwyn sicrhau dyfodol mwy disglair" i'r gogledd.
Daw yn sgil colli sawl cyflogwr mawr dros y blynyddoedd diwethaf, a'r cyhoeddiad fod ffatri 2Sisters Llangefni i gau ar ddiwedd y mis.
"Yn y tymor hir, gobeithiwn y bydd yn creu datblygiadau economaidd a chyflogaeth gynaliadwy ar draws y rhanbarth," medd y Cynghorydd Llinos Medi.
"Mae gormod o'n pobl ifanc wedi gorfod gadael eu cymunedau er mwyn dod o hyd i swyddi da a sicrhau eu dyfodol. Rydym am i hynny newid a gall Porthladd Rhydd helpu.
"Byddwn rŵan yn cydweithio â Stena Line a phartneriaid allweddol eraill er mwyn paratoi achos busnes cynhwysfawr a chadarn a fydd yn cael ei gyflwyno yn ddiweddarach eleni.
"Bydd hyn yn cefnogi ein nod o greu cymunedau sy'n iach, yn llewyrchus ac yn ffynnu a bydd yn helpu i gadw'r Gymraeg yn fyw ar yr ynys."
Nod y cais llwyddiannus oedd i hybu Rhaglen Ynys Ynni Môn trwy ganolbwyntio ar brofion technoleg ynni ar wely'r môr (llanw a gwynt).
Ond pwysleisiodd yr arweinydd hefyd bod y buddion economaidd yn ehangu ymhellach na Chaergybi ac ardal y porthladd ei hun.
'Dechrau ar ddadeni Môn'
Yn siarad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru fore Iau, ychwanegodd: "Wnaethon ni ddylanwadu fod M-Sbarc yn rhan [o'r cais] ac hefyd Rhosgoch.
"Mae hwnnw'n bwysicach byth. Mae hwnnw'n dir sy'n segur ers nifer o flynyddoedd... ond rŵan mae 'na obaith i ran arall o'r ynys elwa hefyd o'r cais yma."
Dywedodd Aelod Seneddol yr ynys, Virginia Crosbie, fod y newydd yn "ddechrau ar ddadeni" Môn.
"Mae llawer o gwmnïau wedi dod i gwrdd â mi ac rwyf wedi eu tywys o amgylch yr ynys i weld y potensial enfawr sydd gennym," meddai.
"Mae statws porthladd rhydd yn golygu y byddant yn dod nawr. Maen nhw eisiau buddsoddi a dod â sgiliau a ffyniant.
"Rydym mewn lle gwych i wneud busnes."
Ychwanegodd yr Aelod o'r Senedd, Rhun ap Iorweth, ei fod yn "ben llanw siwrnai hir iawn".
"Mi oedd yn rhaid dadlau i ddechrau am degwch ariannol gyda £8m yn cael ei gynnig i borthladdoedd rhydd yng Nghymru a £26m i rai yn Lloegr," meddai.
"Felly wnes i, drwy Lywodraeth Cymru, ddadlau am degwch ariannol a sicrwydd hawliau gweithwyr a rheoliadau amgylcheddol.
"Mae'n cynnig cyfleon go iawn i greu bwrlwm economaidd yn Ynys Môn a thu hwnt ar draws y gogledd."
'Y genhedlaeth nesaf o swyddi a buddsoddiad'
Yr un mor gynnes yw'r croeso yn y de-orllewin yn sgil rhoi sêl bendith i gais y Porthladd Rhydd Celtaidd yn Aberdaugleddau a Phort Talbot.
Dywedodd y Cynghorydd Paul Miller, sy'n gyfrifol am ddatblygiad economaidd ar gabinet Gyngor Sir Penfro, ei fod yn ddatblygiad "positif iawn" gyda phwyslais cryf ar ynni adnewyddadwy.
Yn croesi ffiniau siroedd Castell-nedd Port Talbot a Sir Benfro, bydd yn canolbwyntio ar dechnoleg carbon isel fel ynni gwynt arnofiol ar y môr, hydrogen, dal, defnyddio a storio carbon a biodanwyddau i gefnogi ymdrechion i leihau allyriadau.
"Mae Sir Benfro yn lle gwych i ymweld ag ef - mae pawb yn gwybod hynny - ond mae hefyd yn le gwych i fyw a gweithio ynddo," meddai'r Cynghorydd Miller.
"Ond dydi hynny ddim i ddweud nad ydyn ni'n wynebu heriau... roedd gennym ni bedair purfa olew ar un adeg ond mae un ar ôl nawr.
"Mae angen i ni fod yn cynllunio ar gyfer y dyfodol. Beth yw'r genhedlaeth nesaf o swyddi a buddsoddiad?
"Rydyn ni'n meddwl fod hynny'n ymwneud ag ynni adnewyddadwy.
"Roedd ein cais am borthladd rhydd yn ymwneud i raddau helaeth ag ynni adnewyddadwy, ac felly'n ddarn arall yn y jig-so wrth ddod â swyddi a chyfleoedd yma."
Ychwanegodd prif weithredwr Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau, Tom Sawyer, fod y cynllun yn "gyfle unwaith mewn cenhedlaeth" i drawsnewid economi Sir Benfro.
"Mae o arwyddocâd enfawr i gymunedau'r arfordir a Chymru gyfan," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2023