Gleision: Gwrandawiad cyn cwest i farwolaethau pedwar mewn glofa
- Cyhoeddwyd
Mae gwrandawiad wedi ei gynnal cyn cwest i farwolaethau pedwar dyn mewn glofa yng Nghastell-nedd Port Talbot ym mis Medi 2011.
Bu farw Charles Breslin, 62, David Powell, 50, Phillip Hill, 44, a Garry Jenkins, 39, pan ddaeth dŵr i mewn i lofa'r Gleision yng Nghilybebyll.
Bu teuluoedd y pedwar yn galw ers blynyddoedd am gwest llawn i ddarganfod beth yn union oedd achos y trychineb.
Fe ddaeth penderfyniad hirddisgwyliedig gan Uwch Grwner Abertawe fis Rhagfyr y llynedd i gynnal cwest, gan ddweud bod "gwir siawns" y gallai'r marwolaethau fod wedi'u hosgoi.
Ddydd Gwener, fe ddywedodd Colin Phillips wrth y gwrandawiad ei bod yn "anodd nodi dyddiad" ar gyfer y cwest ar hyn o bryd, gan fod tystiolaeth sydd angen cael ei chyflwyno.
Ond fe ddywedodd y byddai'n digwydd cyn gynted ag sy'n bosib.
Fe glywodd y gwrandawiad pa fath o dystiolaeth fyddai angen ei chynnwys yn y cwest a gan bwy, sef Christian Howells sy'n cynrychioli'r teuluoedd, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, yr Awdurdod Glo, perchnogion MNS Mining LTD, a Heddlu De Cymru.
Ychwanegodd Mr Phillips y byddai'n gofyn i Gyngor Castell-nedd Port Talbot, a ymchwiliodd y lofa'n fuan wedi'r digwyddiad, i gael eu cynnwys hefyd.
Fe wnaeth y crwner gais am sawl dogfen, gan gynnwys trawsgrifiad o'r achos troseddol yn 2014, dogfennau'r ymchwiliad gan Heddlu De Cymru a gwybodaeth gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a'r Awdurdod Glo.
Clywodd y gwrandawiad y byddai pum prif bwynt yn cael eu hystyried yn y cwest.
Maen nhw'n cynnwys hanes, perchnogaeth, cofnod rheoli ac arolygu'r pwll, y camau a gymerwyd i sicrhau asesiadau risg digonol, y fframwaith rheoleiddio ar gyfer glofeydd ar y pryd a sut oedd y fframwaith yn cael ei weithredu, a'r digwyddiadau ar ddiwrnod y trychineb.
Fe glywodd y gwrandawiad y byddai cyngor arbenigol yn cael ei roi gan beiriannydd mwyngloddio a daearegwr siartredig.
Argymhelliad arall gan Mr Howells oedd y dylai syrfëwr arbenigol roi tystiolaeth hefyd.
Bydd penderfyniad yn cael ei wneud yn ddiweddarach ynghylch a ddylai rheithgor fod yn rhan o'r cwest.
Ym mis Hydref, dywedodd Christian Howells, sy'n cynrychioli'r teuluoedd, fod yr Awdurdod Glo a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi methu â sicrhau bod cynlluniau ar gyfer gwaith y pwll yn gyfredol, bod rhagofalon yn cael eu cymryd a bod ail allanfa ar gael ar gyfer y glowyr.
Dadleuodd hefyd nad oedd y ffaith bod mwy nag 11 mlynedd wedi mynd heibio yn rheswm dros beidio ag ailddechrau cwest.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd4 Chwefror 2022