Trychineb Gleision: Angen cwest i ateb 'cwestiynau newydd pwysig'

  • Cyhoeddwyd
Teuluoedd

Mae anwyliaid pedwar dyn a gollodd eu bywydau mewn pwll glo dros 10 mlynedd yn ôl, yn galw eto am gynnal cwest llawn i'w marwolaethau.

Bu farw Charles Breslin, 62, David Powell, 50, Phillip Hill, 44, a Garry Jenkins, 39, pan ddaeth dŵr i mewn i bwll glo'r Gleision yng Nghilybebyll, Castell-nedd Port Talbot ym mis Medi 2011.

Y tu allan i Neuadd y Ddinas Abertawe ddydd Iau, dywedodd teuluoedd y glowyr bod cwestiynau o hyd sydd heb eu hateb am sut y digwyddodd y drychineb.

Cafwyd rheolwr a pherchnogion y lofa yn ddieuog o ddynladdiad yn 2014.

Doedd swyddfa'r crwner dros Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot ddim yn gallu gwneud sylw ar yr achos.

Ffynhonnell y llun, Lluniau teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Charles Breslin, David Powell, Philip Hill a Garry Jenkins pan ddaeth dŵr i mewn i bwll glo Gleision yng Nghilybebyll, Castell-nedd Port Talbot ym mis Medi 2011

Dros ddegawd ers eu marwolaethau, mae teuluoedd y pedwar yn dal i chwilio am atebion ac yn teimlo y gallai cwest llawn gynnig hynny.

"Mae'r amser wedi mynd yn gloi iawn," medd Mavis Breslin, gweddw Charles Breslin.

"Ond 'sdim ots faint o amser ma' fe'n cymryd - fi moyn atebion."

I Ms Breslin, mae cwestiwn hollbwysig yn parhau: "Beth oedd wedi digwydd ar y diwrnod 'na?"

'Cwestiynau newydd'

Mae 'na honiadau newydd wedi codi o gloddio anghyfreithlon yn y lofa cyn y drychineb.

Yn ôl Aelod o'r Senedd y teuluoedd, Sioned Williams, mae angen cwest i ystyried yr holl "gwestiynau newydd".

"Mae'n glir bod y teuluoedd a gollodd anwyliaid, y rhai sydd wedi bod yn ymchwilio i amgylchiadau trychineb Glofa'r Gleision, a chynrychiolwyr y gymuned yn teimlo'n gryf bod angen cynnal cwest llawn i farwolaethau y pedwar dyn a gollodd eu bywydau," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y crwner benderfynu peidio parhau gyda chwest yn dilyn yr achos

"Rwy'n credu bod angen i'r Crwner barchu a chydnabod hynny drwy wireddu eu dymuniad.

"Mae cwestiynau newydd dilys a phwysig wedi cael eu codi am yr hyn arweiniodd at yr hyn a ddigwyddodd yn y lofa, cwestiynau y gallai cwest eu hystyried er mwyn deall a oedd hon yn drasiedi yr oedd modd ei hatal.

"Mae'r teuluoedd yn enwedig, a'r gymuned yn ehangach, yn haeddu atebion i'r cwestiynau yma, wedi iddynt ddioddef y fath golled."

Yn ôl y teuluoedd, maen nhw am barhau i bwyso am atebion, er mwyn sicrhau bod pob gwers wedi'u dysgu o'r diwrnod ofnadwy hwnnw ar 15 Medi 2011.