Teuluoedd yn dal i ddisgwyl am gwest i drychineb Gleision

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Trychineb Gleision: Cwestiynau yn dal 'heb eu hateb'

Mae teuluoedd glowyr fu farw yn nhrychineb Gleision yng Nghwm Tawe 10 mlynedd yn ôl yn dweud eu bod nhw'n siomedig gyda'r oedi wrth benderfynu a fydd yna gwest i'w marwolaethau.

Bu farw Charles Breslin, 62, David Powell, 50, Phillip Hill, 44, a Garry Jenkins, 39, pan lifodd dŵr i'r pwll glo ym mis Medi 2011.

Mewn achos llys yn 2014 dyfarnodd rheithgor fod rheolwr a pherchnogion y gwaith yn ddieuog o ddynladdiad.

Ffynhonnell y llun, Lluniau teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Charles Breslin, David Powell, Philip Hill a Garry Jenkins yn y trychineb dros ddegawd yn ôl

Mae'r teuluoedd yn dweud eu bod nhw wedi cyflwyno adroddiad i'r crwner sy'n honni fod yna gloddio anghyfreithlon wedi digwydd yn y lofa ar hyd y blynyddoedd, allai fod wedi amharu ar ddiogelwch y gwaith.

Maen nhw'n dweud fod y crwner wedi addo ateb naill ffordd neu'r llall ynglŷn â chwest erbyn y Nadolig, ac yna erbyn diwedd Ionawr, ond maen nhw'n dal i ddisgwyl.

Ffynhonnell y llun, Gwasanaeth Erlyn y Goron
Disgrifiad o’r llun,

Mae honiadau fod yna gloddio anghyfreithlon wedi digwydd yn y lofa ar hyd y blynyddoedd

Yn ôl Mavis Breslin, gweddw Charles Breslin: "Mae'n lot o stress achos bod ni wedi bod yn aros mor hir. Ydyn ni'n mynd i gael un neu beidio?"

"Mae'r teuluoedd i gyd yn gobeithio ein bod ni. Fi ishe gwybod beth oedd wedi digwydd cyn y ddamwain - sut gyflwr oedd ar y gwaith? Roedd yr amodau gwaith yn ddifrifol.

"Does dim byd ar y death certificate, dyna beth licen i gael."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mavis Breslin fod "yr amodau gwaith yn ddifrifol" yn y lofa

Fe lifodd dŵr i'r pwll ar ôl i'r glowyr ddefnyddio ffrwydron i dorri trwyddo i hen ran o'r gwaith i geisio gwella'r amodau yno.

Yn ystod yr achos llys fe ddywedodd y rheolwr Malcolm Fyfield ei fod wedi archwilio'r hen waith cyn y ddamwain, ac nad oedd dŵr yno.

Dyfarnodd rheithgor yn Llys y Goron Abertawe ei fod ef a pherchnogion y gwaith yn ddieuog o ddynladdiad drwy esgeulustod difrifol a dynladdiad corfforaethol.

Yn dilyn yr achos penderfynodd crwner ardal Abertawe na fyddai'n cynnal cwest.

Disgrifiad o’r llun,

Mae cofeb yn parhau ger y fynedfa i'r hen bwll glo

Daw'r alwad ddiweddaraf am gwest ar ôl i ddau o'r glowyr a oroesodd ddweud wrth BBC Cymru llynedd eu bod yn poeni nad oedd yr awdurdodau wedi llwyddo i fynd at wraidd y trychineb.

Mae un fu'n gweithio fel syrfëwr yno hefyd wedi codi cwestiynau am rôl y Gweithgor Iechyd a Diogelwch wrth arolygu'r gwaith.

Yn dilyn y ddamwain fe ddywedon nhw wrth BBC Cymru na allen nhw wneud sylw gan mai'r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron oedd yn arwain yr ymchwiliad.

Does gan yr un o'r teuluoedd dystysgrif marwolaeth gyflawn.

Disgrifiad o’r llun,

"Mae lot o bethau dal dan y mat," meddai mab Garry Jenkins, Alex

Yn ôl Alex, mab Garry Jenkins, chafon nhw ddim o'r darlun llawn yn yr achos llys.

"Roedd yna lot o bethau doedden nhw ddim yn gallu siarad amdanyn nhw yn ystod yr achos," meddai.

"Mae lot o bethau dal dan y mat.

"Mae'r teuluoedd, y gymuned, pawb sydd â diddordeb, maen nhw i gyd eisiau i rywbeth ddod mas o'r inquest iddyn nhw gael gwybod beth oedd wedi digwydd."

Mae perchennog y gwaith hefyd yn cefnogi'r alwad am gwest.

'Cael y darlun llawn'

Mae'r Aelod o'r Senedd dros Orllewin De Cymru, Sioned Williams yn byw gerllaw. Mae hi wedi ysgrifennu at y crwner yn alw am gynnal cwest.

"Mae 'di bod yn 10 mlynedd o sïon, o gwestiynau ac yn amlwg o ofid a phryder ofnadwy i'r teuluoedd, sy'n teimlo'u bod nhw ddim wedi cael yr atebion maen nhw eu hangen am amgylchiadau llawn colli eu hanwyliaid," meddai.

"Mae 'na rai cwestiynau wedi eu codi gan ymchwiliadau annibynnol, ac felly dwi'n meddwl ei bod hi'n deg bod cwest yn edrych ar y cwestiynau rheiny i fedru gweld a ydyn ni'n gallu cael y darlun llawn ynglŷn â'r hyn achosodd y ddamwain y diwrnod hwnnw"

Mae'r Aelod Seneddol lleol, Christina Rees hefyd yn cefnogi cynnal cwest ac wedi cysylltu â'r gweinidog yn Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am y Gweithgor Iechyd a Diogelwch.