Dim croeso i feicwyr mynydd ar ôl 'achosi difrod' i Blas Tan-y-Bwlch

  • Cyhoeddwyd
Plas Tan-y-BwlchFfynhonnell y llun, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Disgrifiad o’r llun,

Mae Plas Tan-y-Bwlch yn adeilad rhestredig Gradd II, gyda lle ar gyfer 60 o bobl

"Digon yw digon" - dyna'r neges i feicwyr mynydd sydd wedi achosi difrod sawl tro yn un o blastai hanesyddol y gogledd, yn ôl Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Am y chwe blynedd diwethaf, mae'r seiclwyr wedi aros ym Mhlas Tan-y-Bwlch, ger Maentwrog, yn ystod ras flynyddol Red Bull Hardline yn Nyffryn Dyfi, sy'n cael ei disgrifio fel ras lawr rhiw anoddaf y byd.

Ond mae'r Awdurdod, sy'n berchen ar y ganolfan astudiaeth amgylcheddol breswyl, wedi rhoi gwybod y bydd yn rhaid iddyn nhw aros rywle arall eleni.

Dywed yr awdurdod bod difrod i'r eiddo yn ystod y ddau ymweliad diwethaf yn golygu bod y risg o fwy o ddifrod yn rhy uchel.

Dydy'r awdurdod heb fanylu ar natur y difrod ond roedd awgrym o fewn ateb ar eu rhan gan lefarydd, a ddywedodd: "Roedd y prif gostau'n cynnwys ail-lenwi diffoddwyr tân a gwaith glanhau ategol a difrod cosmetig."

Staff yn 'anghyffyrddus'

Mae'r plasty, adeilad rhestredig Gradd II, â lle ar gyfer 60 o bobl.

Dywedodd y llefarydd bod Red Bull yn archebu holl ystafelloedd yr eiddo ar gyfer penwythnosau'r ras Hardline, ac yn gyfrifol am yr holl drefniadau.

Y llynedd fe ildiodd Red Bull y rhag-daliad o £5,000 a thalu am holl waith atgyweirio difrod.

Yn ystod cyfarfod diweddar o'r pwyllgor rheoli, gofynnodd un aelod a oedd staff y Plas yn bresennol yn ystod y penwythnos.

Yn ôl cofnodion y cyfarfod, fe atebodd y Pennaeth Gwasanaethau Corfforaethol, Iwan Jones bod "staff yn bresennol yn ystod y dydd ond doedden nhw ddim yn gyffyrddus o ran aros dros nos".

Ffynhonnell y llun, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Disgrifiad o’r llun,

Mae modd gweld Afon Dwyryd o'r plasty a'r gerddi

Cafodd Plas Tan-y-Bwlch ei adeiladu yn y 19eg Ganrif gan y teulu Oakley - perchnogion chwareli llechi lleol - ar safle plastai blaenorol yn dyddio o'r 16eg Ganrif, sy'n edrych dros Afon Dwyryd.

Mae'r chwe acer o erddi o'i gwmpas hefyd wedi eu rhestru'n rhai Gradd II.

Plas Tan-y-Bwlch oedd y tŷ cyntaf yn y gogledd i gael goleuadau trydan, o ganlyniad comisiynu ei gynllun trydan dŵr ei hun yn y 1890au.

Ergyd ariannol

Dywedodd Mr Jones wrth y pwyllgor fod y penderfyniad i dynnu'n ôl o'r cytundeb gyda Red Bull yn ergyd ariannol i'w awdurdod rheoli.

Byddai'n anodd sicrhau ffynhonnell incwm cyfatebol, meddai.

Ond mae'r cofnodion yn nodi: "Roedd aelodau mor bryderus petawn nhw'n dychwelyd i'r Plas y gallai'r niwed a achosir fod yn llawer mwy sylweddol ac roedd yn ormod o risg."

Mae ras Hardline eleni, yn Nyffryn Dyfi ger Machynlleth, yn cael ei gynnal ar 15 a 16 Gorffennaf.

Mae Red Bull wedi cael cais am ymateb.