Carchar am oes i ddyn 36 oed am lofruddio'i wraig
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Mae cynnwys isod all beri gofid.
Mae dyn 36 oed o Abertawe wedi cael dedfryd o garchar am oes am lofruddio ei wraig y llynedd.
Fe alwodd Daniel White yr heddlu ar 22 Hydref gan ddweud ei fod wedi tagu a thrywanu Angie White, 45, i farwolaeth yn eu cartref yn ardal Plasmarl y ddinas.
Clywodd Llys y Goron Abertawe bod gwybodaeth seinydd clyfar Alexa wedi helpu'r heddlu i greu amserlen o'r hyn ddigwyddodd yn y tŷ cyn i White ffoi yng nghar ei wraig.
Wrth orchymyn y bydd yn rhaid iddo dreulio o leiaf 20 mlynedd a 10 mis dan glo, dywedodd y barnwr fod White yn "llwfr" ar ôl methu â dod i'r llys ar gyfer y gwrandawiad dedfrydu.
Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi cadarnhau bod adolygiad yn cael ei gynnal i'r achos.
Gosod clo gan ofni ei gŵr
Clywodd y rheithgor bod White, oedd yn gweithio fel labrwr, â hanes hir o drais yn y cartref, gan gynnwys yn erbyn ei wraig.
Adeg y llofruddiaeth, roedd wedi ei ryddhau ar drwydded o'r carchar ar ôl cael dedfryd 10 mlynedd am dreisio ac ymosod.
Roedd Ms White newydd osod clo ar ddrws ei hystafell wely am ei bod yn ofni ei gŵr cymaint.
Ond fe giciodd y drws yn agored yn dilyn ffrae a gododd ar WhatsApp. Fe'i tagodd cyn torri ei gwddf gyda chyllell Stanley.
Ffoniodd yr heddlu oriau ar ôl gadael y tŷ yn cyfaddef iddo'i llofruddio, ac fe ddaeth swyddogion o hyd i gorff Ms White yn ei hystafell wely.
Roedd cymdogion wedi clywed sŵn curo, gweiddi a sgrechian tua 03:00 y bore cyn clywed car yn gadael y tŷ.
"Y cyfan o'n i eisiau oedd mynd â fy mhethau a mynd," roedd White wedi dweud yn ei alwad ffôn i'r heddlu ychydig cyn 06:00.
"Nes i jyst cau ei cheg. Nes i ei thagu, nes i redeg lawr grisiau a thorri ei gwddf i wneud yn siŵr ei bod wedi marw."
Roedd seinydd clyfar Alexa y cartref wedi cofnodi a chadw gorchmynion llafar y cwpl i reoli nwyddau trydanol adeg y llofruddiaeth.
Mae'n cofnodi llais y diffynnydd yn yr ystafell wely ac yna yn yr ystafell fyw.
Wrth orchymyn Alexa i roi rhywbeth ymlaen, dywedodd yr erlyniad ei fod "allan o wynt a dyma'r eiliadau, mae'n ymddangos, y mae'r Goron yn dweud y mae wedi mynd i nôl y gyllell".
'Hanes cywilyddus o ymosod ar fenywod'
Gan ddedfrydu White yn ei absenoldeb, dywedodd y Barnwr Paul Thomas KC ei fod yn llwfrgi, gyda "hanes cywilyddus o ymosod ar fenywod oedd â'r anffawd fawr o fod mewn perthynas â chi".
"Roeddech chi, yn syml, yn berygl difrifol i fenywod cyn i chi lofruddio Angie White," meddai.
"Am resymau nad ydych erioed wedi esbonio'n ddigonol, na cheisio esbonio, fe wnaethoch chi golli eich tymer ffyrnig unwaith yn rhagor ganol y nos.
"Pan roedd hi wyneb yn wyneb â chi, gyda'ch dwylo am ei gwddf, rhaid ei bod wedi brawychu'n llwyr.
"Pan aeth yn anymwybodol, nid chwilio am gymorth wnaethoch chi - aethoch chi lawr grisiau a nôl cyllell."'
Dywedodd teulu Ms White mewn teyrnged bod ganddi "awch am hwyl" ac y bydden nhw'n "colli clywed ei chwerthiniad bach doniol am byth".
"Adeg ei marwolaeth roedd Angie'n tynnu at ddiwedd gradd yn y Dyniaethau, a fyddai wedi ei galluogi i barhau i helpu eraill.
"Ni all ddim byd ddod ag ein hannwyl Angie'n ôl."
'Rydym angen atebion'
Ychwanegodd y teulu bod White "wedi cyfaddef ei fod yn euog ond wedi parhau i ddefnyddio'i ymddygiad ystrywgar i ohirio'r canlyniad".
Roedd hynny, medden nhw, yn cynnwys "honiadau o amgylchiadau i leihau ei fai [a] methu ymddangosiadau llys a fideo".
"Hyd yn oed heddiw... mae'n absenoli ei hun yn fwriadol yn yr hyn yr ydym ni'n ei weld yn ymdrechion parhaus i reoli'r sefyllfa a'i lwfrdra o ran ein wynebu ni a chyfiawnder am yr hyn a wnaeth i Angie.
"Rydym yn ddiolchgar am achos cynhwysfawr ditectifs Heddlu De Cymru sydd wedi arwain iddo orfod wynebu ei gosb yn llawn."
Fe alwodd y teulu am "adolygiad o'r hyn a wnaeth yr awdurdodau perthnasol i fonitro Daniel White i ddeall a ellir fod wedi atal y llofruddiaeth yma, fel bod modd gwarchod eraill".
"Rydym angen atebion sut fu'n bosib i ddyn mor ddrygionus gael ei ryddhau o'r carchar i ymweld ag Angie a'i harteithio a chyflawni'r drosedd ffiaidd yma a gymrodd Angie o'i theulu a'i ffrindiau."
Cynnal adolygiad
Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder: "Roedd hwn yn drosedd arswydus ac mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau Angie White.
"Fel yn achos pob trosedd bellach, difrifol, mae adolygiad nawr ar droed, ac fe fyddai'n amhriodol i ni wneud sylw pellach ar hyn o bryd.
"Mae troseddau pellach difrifol yn brin, ond rydym yn buddsoddi £155m yn fwy bob blwyddyn i'r Gwasanaeth Prawf i wella goruchwyliaeth troseddwyr a phenodi miloedd yn fwy o staff i gadw'r cyhoedd yn ddiogel."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2022