Bil Addysg Gymraeg: 'Cyfle i bob disgybl siarad yn hyderus'

  • Cyhoeddwyd
Plant mewn cordior ysgolFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Rhan o'r bwriad yw cynyddu'r ddarpariaeth Gymraeg o fewn ysgolion Saesneg

Mae yna addewid y bydd cyfle i bob disgybl yng Nghymru ddod yn siaradwr Cymraeg hyderus erbyn 2050 o dan gynlluniau deddfu newydd.

Mae cynigion ar gyfer Bil Addysg Gymraeg wedi'u cyhoeddi ar y cyd gan weinidogion Llafur a Phlaid Cymru.

Dywedodd Plaid Cymru ei fod yn gosod sylfaen i bob disgybl gael addysg Gymraeg.

Ond rhybuddiodd ymgyrchwyr bod "peryg bod y targedau sydd ynddo yn rhy isel, y nod yn rhy amwys, a'r camau gweithredu yn annigonol".

Mae'r cynigion yn cynnwys rhoi'r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn y gyfraith, yn ogystal â rhoi statws cyfreithiol i'r drefn ar gyfer categoreiddio ysgolion yn ôl iaith.

Y bwriad yw cynyddu'r ddarpariaeth Gymraeg o fewn ysgolion Saesneg, ond hefyd cynyddu nifer yr ysgolion sy'n rhai cyfrwng Cymraeg.

Mae yna gynnig hefyd i sefydlu system glir i ddisgrifio lefelau iaith fel bod pawb â dealltwriaeth gyffredin o sgiliau Cymraeg, gan gynnwys cyflogwyr.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y bwriad yw cyflwyno'r mesur cyn diwedd tymor y Senedd

Fe fyddai galluogi pob disgybl i adael yr ysgol yn "siaradwr hyderus" yn golygu eu bod â'r gallu i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg.

Ymhlith y cynigion eraill mae:

  • Gofynion ar awdurdodau lleol i hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg;

  • Newid sut mae awdurdodau lleol yn cynllunio darpariaeth Gymraeg fel bod gweinidogion yn gosod targedau i gynghorau;

  • Gweinidogion i lunio Cynllun Cenedlaethol i'w adolygu bob tymor seneddol - cynllun fyddai'n cynnwys targedau ar gyfer recriwtio athrawon cyfrwng Cymraeg;

  • Ymrwymiad i gynnal astudiaeth yn edrych ar ehangu addysg cyfrwng Cymraeg yn gynt.

Fe fydd ymgynghoriad ar y papur gwyn tan 16 Mehefin, a'r addewid yw cyflwyno Bil Addysg Gymraeg cyn diwedd y tymor seneddol.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddaeth Cytundeb Cydweithio rhwng Gweinidogion Llafur a Phlaid Cymru i rym yn 2021

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, fod y llywodraeth "wedi ymrwymo i ddyfodol lle mae gan bawb y gallu a'r cyfle i ddefnyddio'r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd".

Yn ôl Cefin Campbell AS o Blaid Cymru, mae'r papur gwyn yn mynd "ymhellach tuag at sicrhau bod ein system addysg yn cyflwyno'r Gymraeg i bob disgybl mewn modd sy'n creu siaradwyr hyderus".

Dywedodd hefyd ei fod yn "normaleiddio" darpariaeth cyfrwng Cymraeg.

"Mae'r cynigion yn cynnig sylfaen tuag at system addysg sy'n cyflwyno addysg cyfrwng Cymraeg i bob disgybl," meddai.

Er bod y mesur yn rhan o'r Cytundeb Cydweithio rhwng y llywodraeth a Phlaid Cymru, roedd gwrthdaro rhwng y Prif Weinidog Mark Drakeford ac arweinydd Plaid Cymru Adam Price dros addysg Gymraeg fis Rhagfyr.

Yn siambr y Senedd dywedodd Mr Drakeford mai "nid addysg orfodol i bawb trwy gyfrwng y Gymraeg" oedd yr ateb i dyfu'r iaith.

Disgrifiad o’r llun,

Yn dilyn cyhoeddi ffigyrau cyfrifiad 2021 fe wnaeth Cymdeithas yr Iaith Gymraeg gynnal rali, a neges Dafydd Iwan oedd y dylid cael mwy o ysgolion Cymraeg

Disgrifiodd Cymdeithas yr Iaith y papur gwyn fel "cam pwysig ymlaen", tra'n galw am ddeddf derfynol sy'n cynnwys "targedau statudol uchelgeisiol o ran datblygu'r gweithlu addysg Gymraeg a chynyddu nifer y plant sy'n cael addysg cyfrwng Cymraeg".

Wrth gyhoeddi eu deddf addysg Gymraeg eu hunain, dywedodd Mabli Siriol Jones, cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith, bod y Gymraeg "yn perthyn i bob plentyn yng Nghymru, o ba bynnag gefndir".

"Addysg Gymraeg i bawb yw'r unig ateb," meddai.

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymraeg ar yr iaith Gymraeg, Samuel Kurtz, ei bod yn "bwysig fod dewis i rieni yn cael ei gynnwys" yn y cynlluniau, "a bod gennym ddigon o athrawon i allu dysgu'r pynciau yn dda trwy gyfrwng y Gymraeg".