Beiciau dŵr: Cyfraith newydd 'ddim yn mynd yn ddigon pell'
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchwyr wedi galw am system drwyddedu i yrwyr beiciau dŵr wrth gyflwyno rheolau newydd i atal defnydd anghyfrifol.
Daeth deddf newydd i rym ddydd Gwener ac mae Llywodraeth y DU wedi rhybuddio y gall pobl sy'n "defnyddio beic dŵr yn ddi-hid neu'n achosi niwed" wynebu dirwy ddiderfyn neu hyd at ddwy flynedd yn y carchar.
Mae un AS yn dweud nad yw'r rheolau newydd yn mynd yn ddigon pell ac eisiau cyflwyno hyfforddiant gorfodol a thrwyddedu.
Ond dywedodd Llywodraeth y DU y bydd y gyfraith newydd yn "mynd i'r afael â'r lleiafrif anghyfrifol sy'n defnyddio beiciau dŵr a cherbydau tebyg yn beryglus".
'Wedi gwrando ar y pryderon'
Dywed ymgyrchwyr tra fod plentyn mor ifanc â 12 oed yn gallu gyrru beic dŵr yn y DU, mae'n rhaid i ddefnyddwyr mewn gwledydd fel Ffrainc, yr Eidal, Sbaen, Croatia a Denmarc fod yn hŷn ac wedi'u trwyddedu.
O ddydd Gwener ymlaen bydd defnyddwyr beiciau dŵr yn y DU yn rhwym i'r un deddfau sy'n berthnasol i longau, gan roi mwy o bwerau i Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau i erlyn defnyddwyr anghyfrifol.
Mae AS Arfon, Hywel Williams, sydd wedi gweld marwolaethau mewn digwyddiadau beiciau dŵr ar y Fenai, yn "falch" bod Llywodraeth y DU wedi gwrando ar bryderon am "y perygl y mae jet skis yn ei achosi i nofwyr a bywyd gwyllt".
Ym mis Awst 2020 cafodd Jane Walker, 52, ei lladd ar ôl cael ei tharo gan feic dŵr tra ar wyliau yng ngogledd Cymru gyda'i theulu.
Dywedodd ymchwilwyr nad oedd gan y beiciwr a gyrrwr y cwch y wybodaeth na'r sgiliau angenrheidiol, a'u bod yn rhy agos at ei gilydd tra'n teithio ar gyflymder.
Arweiniodd y digwyddiad angheuol at alwadau gan y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Morol am newidiadau i'r ffordd y caiff y Fenai ei blismona, a gofynnwyd i berchnogion beiciau dŵr a chychod pŵer fabwysiadu cod ymddygiad newydd.
Ond dywedodd gŵr Mrs Walker nad oedd am i farwolaeth ei wraig gael ei ddefnyddio fel rheswm am fwy o gyrbau ar feiciau dŵr, gan ei alw'n "ddamwain fawr iawn".
'Cynnydd sylweddol yn lefel y cwynion'
Ond mae Aelod Seneddol Arfon eisiau i'r DU ddilyn esiampl rhai o wledydd yr UE a chyflwyno rhaglen hyfforddi a system drwyddedu i ddefnyddwyr.
Mae Mr Williams yn ofni nad yw'r bygythiad o gosb yn ddigon i atal y defnydd anghyfrifol o feiciau dŵr.
"Ar hyn o bryd mae'n bosib i unrhyw un, hyd yn oed plentyn mor ifanc â 12 oed, yrru jet sgïo," meddai AS Plaid Cymru.
"Nid oes angen trwydded ar yrrwr beic dŵr - yn wahanol i'r rhan fwyaf o wledydd eraill yr UE a thu hwnt, sydd eisoes â system drwyddedu ar waith."
Mae'n dweud tra bod y deddfau newydd yn "gam i'r cyfeiriad cywir", fod y rheoliadau'n "methu â mynd i'r afael â chraidd y mater y gall unrhyw un ddal i yrru sgïo jet heb fod angen unrhyw hyfforddiant na thrwydded".
"Felly yn hytrach na dod â mesurau ataliol i mewn, mae'r ddeddfwriaeth yn trin y symptomau ac nid yr achos," meddai.
Dywedodd Ben Porter, ecolegydd a ffotograffydd bywyd gwyllt, fod beiciau dŵr yn "bryder".
"Mae ein bywyd gwyllt mor bwysig ac mae adar y môr yn agored iawn i aflonyddwch," meddai.
"Yn enwedig yn y mannau poblogaidd i dwristiaid, mae angen ei reoli fwy.
"Rwy'n meddwl y byddai trwyddedu'n helpu a phe bai gennych hyfforddiant ochr yn ochr ag ennill y drwydded mewn cod morol, byddai'r elfen honno o addysg yn helpu."
Dywedodd llefarydd ar ran Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU: "Rydym yn cydymdeimlo'n ddwys â'r rhai yr effeithiwyd arnynt gan ddigwyddiadau'n ymwneud â beiciau dŵr - mae'n bwysig bod pobl yn gallu eu mwynhau'n ddiogel.
"Er bod damweiniau difrifol yn y DU yn brin, bydd ein deddf newydd yn mynd i'r afael â'r lleiafrif anghyfrifol sy'n defnyddio beiciau dŵr a cherbydau tebyg yn beryglus."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mai 2022
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd17 Chwefror 2022