Artist o Cameroon yn ymateb i lawysgrifau Thomas Pennant
- Cyhoeddwyd
Mae yna dipyn o gyferbyniad rhwng paentiadau lliwgar Mfikela Jean Samuel o'i famwlad yn Cameroon a'r llawysgrifau hynafol o'r 18fed ganrif gan y naturiaethwr a'r hynafiaethydd Thomas Pennant o Sir y Fflint sy'n rhannu arddangosfa yn Storiel, Bangor.
Gorllewin Affrica ydy testun Pennant a Samuel ond mae mwy na'r 200 mlynedd a mwy sydd rhyngddyn nhw yn gwahanu gweithiau'r ddau.
Daw lluniau Mfikela Samuel, sydd bellach yn byw ym Mangor, o'i adnabyddiaeth ddofn o'i wlad enedigol a'r cyfandir o'i chwmpas a daw gweithiau Thomas Pennant o un o gyfres o gyfrolau a ysgrifennodd cyn ei farwolaeth yn 1798 am gyfandiroedd doedd o erioed wedi bod iddyn nhw.
Cyn bodolaeth llyfrau Rough Guide na Wikipedia roedd Outlines of the Globe Thomas Pennant yn mynd ar 'daith ddychmygol' o amgylch y byd fel roedd yn cael ei weld o safbwynt ymerodraeth Prydain yn y 18fed ganrif.
Gyda darluniau, mapiau a thestun, roedd Pennant yn dibynnu ar wybodaeth gan ei gysylltiadau arbennig o dda o wahanol rannau o'r ymerodraeth i ysgrifennu'r cyfrolau.
Mae'r 22 cyfrol, sydd heb gael llawer o sylw hyd yma, yn mynd i lefydd fel gogledd Ewrop, India, Japan ac Indonesia.
Ond cyfrol rhif 11 am orllewin Affrica ydy diddordeb Dr Ffion Mair Jones o Ganolfan Geltaidd Prifysgol Cymru, curadur yr arddangsfa sydd wedi bod yn astudio'r gyfrol yn arbennig o ran ei agweddau at gaethwasiaeth.
Ysgrifennodd Thomas Pennant y gyfrol ar adeg pan oedd y fasnach gaethweision yn bwnc llosg. Roedd Pennant ei hun rhwng dau feddwl yn ei farn am y fasnach gaethweision, meddai Dr Ffion Mair Jones.
"Roedd o'n ymwybodol o'r ddadl dros gadw'r fasnach mewn caethweision i fynd ac ar yr un pryd roedd ganddo fo gysylltiadau ar yr ochr arall [y rhai oedd eisiau diddymu caethwasiaeth]." meddai Dr Jones. .
Mae'r llawysgrif yn cynnwys lluniau hardd o fywyd gwyllt cyfoethog y cyfandir, sef diddordeb mawr Pennant, yn ogystal â golygfeydd o bobl yn cael eu caethiwo er mwyn eu cludo i weithio mewn planhigfeydd.
"Mae'r darluniau yma i gyd yn dod o'r ochr Ewropeaidd, does na 'run darlun yn cynrychioli artist o Affrica o gwbl - felly roedd hynny yn rhywbeth oedd yn pigo ac yn poeni - dyma ni yn edrych ar Affrica o'r byd gogleddol, breintiedig - be mae pobl Affrica y cyfnod yn ei feddwl?"
Gofynnodd felly i Mfikela Samuel ymateb a chyfrannu i'r arddangosfa.
Ond doedd yr artist ddim eisiau cyfyngu ei hun i gaethwasiaeth fel pwnc.
"Er ein bod ni yn rhoi sylw i gaethwasiaeth, ei weledigaeth o oedd bod Affrica yn llawer mwy na chaethwasiaeth," meddai Dr Ffion Mair Jones.
Gwareiddiad Affrica
"Rhan fach iawn o hanes Affrica ydi'r fasnach gaethwasiaeth," esbonia Mfikela a ddaeth i Fangor yn 2014 i wneud gradd Meistr mewn bancio a chyllid; daeth o hyd i gymuned artistig a roddodd gyfle iddo ganolbwyntio ar ei gelf.
"I mi dydi'r fasnach gaethwasiaeth ddim hyd yn oed yn rhan o hanes Affrica - fe wnaeth lurgunio hanes Affrica. Roedd Affrica yn gyfandir waraidd ers amser hir iawn. Roedd yna wareiddiad wedi dechrau ar hyd yr afon Nîl amser maith cyn i bobl yn y dwyrain a'r gorllewin ddechrau meddwl am eu deffroad nhw," meddai.
"Penderfynais wneud y lluniau yn lliwgar, ddim yn dywyll neu'n llwyd fel mae rhai pobl yn tybio mae Affrica.
"Ro'n i'n ei weld fel cyfle i geisio cynnwys y stori Affricanaidd, beth dwi'n ei wybod am sut le yw Affrica, oherwydd dwi wedi clywed llawer o straeon am Affrica sydd ddim yn cynrychioli'r Affrica dwi'n ei hadnabod.
"Maen nhw wedi eu seilio ar dybiaethau a rhagfarnau pobl sydd yn gweld pethau o'r tu allan."
Y darlun arferol yn y cyfnod meddai oedd bod y diolch i'r Ewropeaidd am wareiddio Affrica.
"Roedden nhw'n dod o'r safbwynt nad oes gan Affrica hanes, bod Affrica yn gyfandir tywyll cyn caethwasiaeth neu goloneiddio.
"Efallai fod hynny'n ffordd o lanhau cydwybod pobl oedd yn ecsploitio Affrica... tydi'r ysbryd dynol ddim yn gallu parhau i wneud drygioni heblaw pan mae ganddyn nhw gyfiawnhad drosto, felly ro'n i'n gweld naratif Pennant yn trio yn ofalus iawn i wneud hynny."
Mewn gwirionedd meddai Mfikela, cael ei dinistrio gan bwerau imperialaidd wnaeth y cyfandir ond dydi hynny ddim i'w weld yn y llawysgrifau meddai.
'Amlwg hiliol'
Un sydd wedi astudio cyfrolau rhyfeddol Pennant yn fanylach na neb yw Dr Rhys Kaminski-Jones, a gafodd gyfnod fel cymrawd ymchwil i ailgatalogio'r cyfrolau swmpus sydd yn cael eu cadw yn Amgueddfa Forwrol Greenwich.
Cyn i Rhys gael cyfle i weithio ar y cyfrolau doedd fawr o neb wedi edrych arnyn nhw o'r blaen.
"Cyfrolau anferth ydyn nhw, llyfrau mawr trwm, 400 o dudalennau bron ym mhob un ohonyn nhw," meddai.
"Roedden nhw'n arfer bod yn llyfrgell Pennant a doedden nhw ddim i gyd i fod i ddod allan yn y wasg. Roedd wedi sgwennu rhyw fath o Wikipedia preifat iddo'i hun i raddau, yn cyfuno'r holl wybodaeth roedd yn medru ei darllen a'i chasglu o'i gysylltiadau yn y Llynges, yng nghwmni India'r Dwyrain, o'i gysylltiadau imperialaidd a chysylltiadau gwyddonol. A mae jyst yn cyfuno popeth mae'n medru ei roi yn y cyfrolau yma i ryw raddau er mwyn diddori ei hun.
Mae'r gwaith meddai "ar ffin od rhwng uchelgais anhygoel a llyfr lloffion preifat."
"Beth ydyn ni'n cael ydi argraff o beth oedd rhywun oedd o'i ddosbarth o a'i enwogrwydd o yng Nghymru yn medru ei ddeall o'r byd, efo'r problemau sydd ynghlwm â hynny.
"Mae o'n sicr yn ceisio barnu agweddau o'r farchnad mewn pobl gaethiwedig [yn y gyfrol am orllewin Affrica] ond mae o hefyd yn amlwg yn hiliol, mae'n dechrau ei gyfrol am orllewin Affrica efo rhan sydd yn gyfan gwbl yn fframio ac yn ffocysu'r gyfrol ar wahanrwydd hiliol.
"Mae yn cyflwyno tystiolaeth gan bobl sydd eisiau diddymu caethwasiaeth... ond mae hefyd yn dibynnu ar dystiolaeth gan bobl sy'n rhan o ormes ymerodraethol a masnachol Prydain ar weddill y byd yn y cyfnod."
Bangor 'fel adref'
Er y feirniadaeth o'r darlun arwynebol ac ymerodraethol mae Thomas Pennant yn ei roi o orllewin Affrica roedd ymateb cyntaf Mfikela Samuel i'r gwaith yn gadarnhaol.
Pan welodd rai o'r llawysgrifau a'r lluniau am y tro cyntaf, dywed ei fod yn hapus fod naturiaethwr oedd mor bell o Affrica wedi cymryd diddordeb yn straeon a bywyd gwyllt Affrica.
"Fe wnaeth beth oedd yn bosib o fewn y cyfyngiadau a'r adnoddau oedd ganddo, i'w rhoi yn y llawysgrifau hyn," meddai Mfikela.
Mae'r arddangosfa i'w gweld tan Ebrill 15 2023 yn Storiel, Bangor, y ddinas sydd wedi dod yn gartref i Mfiklea Jean Samuel.
Er iddo astudio bancio mae'n mwynhau gweithio fel artist ac wedi ymweld â nifer o wledydd, a byw yn Amsterdam am gyfnod, mae'n teimlo'n gartrefol ym Mangor.
"Un rheswm rydw i wedi setlo yma ym Mangor ydy achos ei fod yn fy atgoffa o adre a faint o le sydd yna," meddai.
"Nôl adre rydw i'n byw mewn pentref bach ac mae pawb yn adnabod ei gilydd; gallwch weld mynyddoedd, dyffrynnoedd a machlud, ac mae Bangor yn fy atgoffa i gymaint o'r math yna o le.
"Mae 'na ysbryd cymunedol yn dal i fod ym Mangor, fel sydd yna adre. Wnes i ddim ei ganfod lawer iawn yn yr Iseldiroedd - mae pobl yno yn fwy unigolyddol. Mae pobl yma yn eich gweld yn y stryd ac yn dweud helo."
Hefyd o ddiddordeb: