Y Bermo: Carchar am oes i ddyn am lofruddio Margaret Barnes, 71
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Wynedd wedi cael ei ddedfrydu i oes o garchar ar ôl cael ei ganfod yn euog o lofruddio dynes oedrannus a oedd wedi camgymryd ei dŷ am westy.
Yn gynharach yr wythnos hon fe ddaeth rheithgor i benderfyniad fod David Redfern, 46, yn euog o lofruddio Margaret Barnes yn Y Bermo.
Bydd yn rhaid iddo dreulio isafswm o 14 mlynedd dan glo cyn y bydd modd ystyried ei ryddhau.
Fis Gorffennaf y llynedd fe wnaeth Ms Barnes, 71, gamgymryd tŷ Redfern am westy a gadawodd ei hun i mewn, gan nad oedd y drws wedi cloi.
Fe wnaeth Redfern a'i bartner Nikki Learoyd-Lewis, oedd wedi bod allan yn yfed yn y dref, ei chanfod hi'n eistedd yn eu gwely yn ysmygu ac yfed jin a thonic.
Clywodd y llys fod yr awyrgylch wedi newid pan ffoniodd David Redfern yr heddlu, ac i'w bartner sylwi fod Margaret Barnes i bob golwg wedi rhoi lludw eu ci marw, Jake, yn ei bag.
Wrth iddo orfodi Ms Barnes i adael honnodd Redfern fod y ddau wedi syrthio i'r llawr ar dop y grisiau, a'i fod wedi ei llusgo i lawr wrth ei thraed.
Yn ôl Redfern, ar ôl gadael y tŷ fe arhosodd Ms Barnes ar y stryd tu allan am beth amser.
Honnodd wedyn fod Ms Barnes wedi symud tuag at Ms Learoyd-Lewis a'i fod ef wedi ceisio ei hatal, ac o bosib fod ei ben-glin wedi taro Ms Barnes.
'Doedd dim angen i Mam farw'
Fe ddywedodd Redfern ei fod yn derbyn ei fod wedi bod yn ymosodol yn eiriol yn ystod y digwyddiad ond mynnodd nad oedd yn gyfrifol am ei marwolaeth.
Dywedodd nad oedd wedi sylwi fod gan Ms Barnes unrhyw anafiadau difrifol ond roedd Margaret Barnes wedi torri sawl un o'i hasennau a dioddefodd anafiadau difrifol i'w hiau.
Clywodd y rheithgor fod yr anafiadau'n debyg i rai fyddai'n deillio o wrthdrawiad ffordd.
Bu farw ar y stryd y tu allan i dŷ David Redfern yn ystod oriau mân 11 Gorffennaf.
Yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Gwener, cafodd Ms Barnes ei disgrifio fel "gwraig, y fam orau, nain a chwaer ffyddlon".
Fe wnaeth ei merch, Natalie Barnes, ddarllen datganiad a ddywedodd bod y llofruddiaeth "wedi dinistrio bywyd ein teulu".
"Bob bore 'dyn ni'n deffro, methu ymdopi gyda'r ffaith na fyddwn ni'n ei gweld hi eto," meddai.
"Dyw fy nhad a fy mrawd methu dod i delerau gyda'r ffaith bod Mam wedi galw amdanyn nhw wrth iddi farw, ac nad oedden nhw wedi gallu helpu.
"Mae wedi dinistrio ein teulu ni. Dydyn ni ddim yn siarad am unrhyw beth arall bellach oni bai am farwolaeth Mam.
"Dydy o ddim yn neis gweld ein gilydd bellach. Mae Dad wedi tynnu yn ôl yn llwyr o fywyd y teulu.
"Doedd dim angen i Mam farw. Dydyn ni ddim yn deall pam y bu'n rhaid iddi."
'Bwli llwfr a chas'
Ychwanegodd wyres Margaret Barnes, Robyn Barnes, fod y teulu'n ei chael hi'n anodd ymdopi gyda "sut y cafodd ei chymryd i ffwrdd oddi wrthyn ni".
"Fydd hi byth yna ar gyfer y digwyddiadau pwysig yn fy mywyd," meddai.
"Fydd hi byth yn fy ngweld i'n priodi. Fydd hi byth yn cael cyfarfod fy mhlant.
"Rydyn ni'n ei cholli hi bob dydd. Byddwn ni'n ei cholli hi am byth."
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Mark Pierce o Heddlu Gogledd Cymru fod Redfern "wedi dangos dim edifeirwch ac wedi ceisio rhoi'r bai ar Margaret am ei weithredoedd".
"Does yr un person rhesymol yn gallu deall sut y byddai dyn 21 stôn yn achosi anafiadau mor gatastroffig i ddynes fregus, 71 oed.
"Mae David Redfern yn fwli llwfr a chas, a bydd nawr yn treulio o leiaf 14 mlynedd mewn carchar i feddwl am yr hyn mae wedi'i wneud."
'Dynes oedrannus ddi-amddiffyn'
Dywedodd y barnwr, Mr Ustus Bourne wrth ddedfrydu bod ymddygiad Redfern tuag ar Mrs Barnes yn "ymosodol a sarhaus".
"Rwy'n derbyn eich bod chi wedi cael sioc o ddarganfod dieithryn yn eich cartref, yn eich gwely," meddai.
"Rwyf hefyd yn cymryd iddi ymddwyn yn fygythiol tuag at eich partner, gan ei chyhuddo o ddwyn a rhuthro tuag ati.
"Ond roedd eich ymateb y tu hwnt i unrhyw beth y gallai person rhesymol ei ddychmygu.
"Rydych chi'n ddyn mawr a chryf oedd yn 45 oed ar y pryd, ac roedd hi yn ddynes fechan ac ysgafn oedd o leiaf 25 mlynedd yn hŷn na chi ac yn amlwg wedi ei heffeithio gan alcohol ac yn sigledig ar ei thraed.
"Roedd yr ymosodiad, cic neu sathriad oedd â digon o rym i achosi anaf angheuol yn beth difrifol i'w wneud i ddynes oedrannus ddi-amddiffyn."
Wedi'r ddedfryd, dywedodd Rhian Jones o Wasanaeth Erlyn y Goron (CPS) fod "ymateb David Redfern i'r camgymeriad yn un na ellid ei gyfiawnhau ac yn hollol anghymesur â'r sefyllfa".
"Arweiniodd y dystiolaeth gref a gyflwynwyd gan y CPS at yr euogfarn hon, a chyfiawnder i Margaret Barnes," meddai.
"Bydd ei theulu a'i ffrindiau yn dal i deimlo'r golled ar ei hôl, ac rydym yn cydymdeimlo'n ddwys â nhw, ond rydym yn gobeithio y bydd canlyniad yr achos yn eu helpu yn eu galar."
Gallwch dderbyn hysbysiadau am straeon mawr sy'n torri yng Nghymru drwy lawrlwytho ap BBC Cymru Fyw arGoogle Play, dolen allanol neu App Store, dolen allanol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2022