Meddyg achos twyll i gael ailgydio yn ei waith

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Cyfweliad Dr Jones o 2021: 'Nes i golli dros £800,000 yn gamblo ar-lein'

Bydd meddyg o Gaerdydd oedd â phroblem gamblo difrifol, ac a dwyllodd y gwasanaeth iechyd yn ariannol, yn cael ailgydio yn ei waith.

Fe blediodd Dr Aled Meirion Jones, ym mis Ionawr 2021, yn euog i ddau gyhuddiad o dwyllo cyfanswm o £67,420.

Cafodd ddedfryd o 24 mis yn y carchar, wedi ei ohirio am ddwy flynedd, a gorchymyn i wneud 200 awr o waith di-dâl.

Cyfaddefodd ei fod wedi dwyn sieciau a hawlio arian am shifftiau locwm nad oedd wedi eu gweithio, ac fe gafodd ei dynnu oddi ar y gofrestr feddygol.

Mae tribiwnlys nawr wedi penderfynu y caiff ailddechrau gweithio fel meddyg o 11 Ebrill.

Clywodd y tribiwnlys ei fod yn feddyg da oedd wedi gweithio'n galed i fynd i'r afael â'r problemau ar ôl derbyn cefnogaeth a chwnsela helaeth.

Daeth y panel i'r casgliad ei fod yn annhebygol o droseddu eto a'i fod wedi datblygu dealltwriaeth o'i broblem gamblo.

Mae wedi cwblhau ei ddedfryd ac mae wedi ad-dalu'r holl arian a gafodd trwy dwyll.

Aled yn teithio gyda'i feic
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Aled Meirion Jones wedi cwblhau sawl her seiclo er mwyn codi arian dros elusen sy'n helpu pobl fynd i'r afael â bod yn gaeth i alcohol, cyffuriau a gamblo

Clywodd y gwrandawiad bod Dr Jones wedi cael cynnig dwy swydd, gan gynnwys dychwelyd i feddygaeth trawsblannu yn Ysbyty Athrofaol Cymru, yng Nghaerdydd.

Ar ôl ystyried datganiad y meddyg o Landaf dywedodd y panel ei fod "o ddifrif wrth fynegi edifeirwch".

Clywodd y tribiwnlys bod Dr Jones wedi gwirfoddoli i weithio ar wardiau Covid yn ystod y pandemig ac wedi gweithio mewn canolfan frechu Covid.

Roedd hefyd wedi gweithio dros 600 awr o shifftiau gwirfoddol trawsblaniadau arennol.

Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru yn 2021, dywedodd Dr Jones y bydd "wastad â chywilydd" oherwydd yr hyn a ddigwyddodd wedi iddo fynd yn gaeth i gamblo.

Dywedodd bryd hynny ei fod wedi colli £800,000 a bod gamblo wedi "difetha" ei fywyd a'i berthnasau.

Yn y 12 mis diwethaf, mae Dr Jones wedi gwirfoddoli i gludo adnoddau meddygol i Wcráin, ac ymhlith sawl geirda ar ei ran roedd un gan feddyg ysbyty yn ninas Chernihiv, i'r gogledd o Kyiv.

Pynciau cysylltiedig