'Ofnadwy' rhannu honiadau ffug am ymosodiad Manceinion
- Cyhoeddwyd
Mae dynes a gafodd ei hanafu'n ddifrifol yn ymosodiad Arena Manceinion yn gobeithio y bydd gweithredu cyfreithiol yn erbyn dyn wnaeth rannu honiadau ffug am y digwyddiad yn atal rhagor o gelwyddau yn y dyfodol.
Fe gollodd Lisa Bridgett, sy'n byw ger Pwllheli, Gwynedd, ei bys wedi i fom ffrwydro yng nghyngerdd Ariana Grande yn 2017.
Mae Richard D Hall yn honni fod yr ymosodiad wedi ei ffugio ac mae dau ddioddefwr arall yn cymryd camau cyfreithiol yn ei erbyn.
Mae Mr Hall wedi gwrthod ymateb i gais y BBC am sylw.
"'Dw i eisiau iddo atal pobl rhag dweud pethau sydd ddim yn wir pan maen nhw'n ffeithiau cywir," dywedodd Ms Bridgett.
Fe gafodd ei tharo'n ei wyneb gan ddarnau o haearn (shrapnel) yn ystod y cyngerdd. Roedd hi yno gyda'i merch a ffrind ei merch.
Mae Martin ac Eve Hibbert, sydd bellach yn byw ag anableddau difrifol ers y cyngerdd, yn erlyn Mr Hall am achosi niwed i'w henw da ac am aflonyddu.
'Pam fyddai unrhyw un yn ffugio anafiadau?'
Fe aeth Mr Hall i weithle Ms Bridgett yn 2019 gyda'r nod, meddai, o'i recordio'n gyfrinachol i weld a oedd hi'n dweud celwydd am ei hanafiadau.
"Pam fyddai unrhyw un yn ffugio'n hanafiadau a digwyddiadau eraill?" meddai.
"Ges i sioc fawr o weld y byddai rhywun yn mynd allan o'u ffordd i gynhyrchu'r fath straeon a'n cyhuddo ni gyd o ddweud celwydd ac actio."
Fe gysylltodd rhaglen BBC Panorama â Ms Bridgett a dweud wrthi am fideos ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol Richard Hall.
"Roedd o gyda dynes mewn un fideo ac fe eisteddodd a phigo ar bethau yn ein cyfweliadau gan ddweud ein bod yn gwneud y cyfan i fyny, gan chwerthin gyda'i gilydd.
"Roedd o'n ofnadwy... roedden ni'n ddig eu bod nhw'n gallu gwneud hwyl am ein pennau," meddai.
"Dywedodd ein bod ni i gyd yn hyn gyda'n gilydd a'i fod yn un jôc fawr. Roedd yn ddigwyddiad 'da ni i gyd yn gorfod byw gydag am weddill ein bywydau."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd23 Mai 2017
- Cyhoeddwyd22 Mai 2018