Doreen Morris wedi ei lladd yn anghyfreithlon, medd crwner

  • Cyhoeddwyd
Doreen MorrisFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Doreen Morris ei lladd yn ei chartref yng Nghaergybi yn 1994

Mae cwest i farwolaeth dynes o Fôn ym 1994 wedi dod i gasgliad iddi gael ei lladd yn anghyfreithlon.

Bu farw Doreen Morris, 64, bron i 30 mlynedd yn ôl yn ei chartref yng Nghaergybi ar ôl i rywun dorri mewn i'w byngalo, ei lladd a'i rhoi ar dân.

Yn dilyn y gwrandawiad ddydd Mawrth, fe alwodd merch Ms Morris, Audrey Fraser, ar Heddlu'r Gogledd i ailagor yr achos cyfreithiol.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru y byddan nhw'n "adolygu ac yn ystyried canfyddiadau'r cwest".

Tarfu ar ladron

Yn ystod y cwest ym mis Rhagfyr 2022 fe glywodd y gwrandawiad fod Ms Morris wedi bod yn ei byngalo gyda'i chŵn ar y noson cyn iddi gael ei llofruddio.

Clywodd y cwest iddi gael ei thrywanu gyda fforc ar ôl iddi darfu ar ladron oedd yn ei thŷ, ac fe gafodd ei chorff a'r tŷ wedyn ei losgi.

Fe safodd dyn o'r enw Joseph Carl Westbury brawf am ei llofruddio ym 1995 ond fe'i cafwyd yn ddieuog.

Bu farw Mr Westbury drwy hunanladdiad yn 2016.

Yn ystod y cwest fe ddywedodd ei wraig, Emma Westbury fod ei gŵr wedi cyfaddef i fod yng nghartref Ms Morris ar y noson y cafodd ei llofruddio.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd gwraig Joseph Carl Westbury ei fod wedi cyfaddef iddo fod yn nhŷ Mrs Morris ar y noson y cafodd ei lladd

Yn ôl Emma Westbury, roedd ei gŵr ar ddeall gan fab Doreen Morris, Andrew y byddai'r tŷ yn wag y noson honno a bod arian yno.

Ychwanegodd Ms Westbury bod ei gŵr wedi gwadu llofruddio Doreen Morris gan honni mai dyn arall, Stuart Queen, oedd yn gyfrifol.

Fe wadodd Mr Queen unrhyw ran yn y digwyddiad yn ystod y cwest gan fynnu nad oedd yn y byngalo ar y noson honno.

Dywedodd ei fod wedi bod allan yn yfed gyda Mr Westbury ar y noson, ond ei fod wedi dychwelyd adref ar ben ei hun.

Ar ddechrau'r cwest fe gyfaddefodd merch Doreen Morris, Audrey Fraser bod ei brawd, Andrew wedi bod yn "cadw cwmni drwg" ar y pryd ac y gallai rhai oedd ynghlwm ag ef wedi targedu'r cartref er mwyn ceisio dwyn.

Ychwanegodd nad oedd hi'n credu mai Andrew wnaeth ei llofruddio ond y gallai wedi "denu unigolion fel yna".

'Brathu ei chlust'

Wrth ddod i gasgliad, fe ddywedodd y crwner, ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth, ei bod hi'n credu fod Carl Westbury a Stuart Queen wedi mynd i fyngalo Doreen Morris gyda'r bwriad o ddwyn.

Daeth y crwner, Katie Sutherland i'r casgliad fod Mr Queen wedi bod ar do cartref Ms Morris tra roedd Mr Westbury wedi torri mewn i'r tŷ.

"Unwaith roedd Mr Westbury yn y tŷ, fe gafodd ffrwgwd gyda Ms Morris lle wnaeth o frathu ei chlust, a'i thrywanu gyda fforc cyn i'r ddau symud nwyddau o'r tŷ ac yna ei roi ar dân," meddai'r crwner.

Clywodd y gwrandawiad ddydd Mawrth fod Mr Westbury a Mr Queen wedi dwyn eitemau trydanol o'r tŷ ac yna eu taflu mewn gwrychoedd cyfagos, lle cawson nhw eu darganfod yn ddiweddarach wedi eu gorchuddio gyda gwaed Ms Morris.

Daw'r cwest yn dilyn blynyddoedd o ymgyrchu gan deulu Ms Morris, sy'n dweud na fu erioed cyfle i sefydlu'r ffeithiau am sut y bu iddi farw.

Disgrifiad o’r llun,

Bu Audrey Fraser yn ymgyrchu i ailagor y cwest i farwolaeth ei mam

Yn y casgliad dywedodd y crwner Kate Sutherland fod Mr Morris wedi marw "wedi iddi dderbyn anafiadau trawmatig ar ôl cael ei thrywanu gyda fforc".

"Mae'r dystiolaeth yn arwydd o lofruddiaeth a dwi'n hyderus mai'r casgliad addas ar gyfer cwest Doreen Morris yw llofruddiaeth anghyfreithlon."

Mewn datganiad wedi'r cwest, dywedodd merch Ms Morris, Audrey Fraser y byddai'r "ffocws rŵan yn troi at yr ochr droseddol".

"O ganlyniad i unigolion yn rhoi tystiolaeth newydd, mae yna bellach gamau ymchwiliadol eraill ar gael i Heddlu Gogledd Cymru," meddai.

Pynciau cysylltiedig