Cau Oriel Martin Tinney yn 'torri calon'

  • Cyhoeddwyd
Martin Tinney
Disgrifiad o’r llun,

Martin Tinney

Mae 'na oriel yng Nghymru sydd wedi goroesi dros 30 o flynyddoedd ac un dyn sydd wedi gwneud hynny yn bosib.

Mae Oriel Martin Tinney yng Nghaerdydd wedi torri tir newydd ac wedi llwyddo cadw ei enw da yn rhyngwladol ers degawdau.

Ond mae'r amser wedi dod i dynnu'r lluniau oddi ar y wal wedi 31 mlynedd.

Bu Ffion Dafis yn sgwrsio gyda'r awdur a beirniad creadigol Rian Evans, a'r artist Catrin Williams am yr oriel arbennig a'r gwaddol mae'n ei gadael ar ei hôl.

'Doedd dim digon o werthfawrogiad o gyfoeth artistiaid'

Agorwyd Oriel Martin Tinney yng Nghaerdydd yn 1992 ac mae hi wedi cael ei hystyried fel y brif galeri preifat yng Nghymru ers peth amser.

Roedd ei chyrhaeddiad yn chwa o awyr iach i'r sin gelfyddydol gweledol yng Nghymru oedd yn cael ei weld yn reit dlawd yn y 90au.

"Doedd dim digon o werthfawrogiad o gyfoeth artistiaid yng Nghymru," meddai Rhian Evans.

"Fi'n credu taw dyna oedd y tro arbennig wnaeth Martin Tinney oedd troi hynny a rhoi pwyslais mewn ffordd urddasol a teilwng i bobl oedd yn adnabyddus fel enwau ond oedd heb cael sioeau cyfan fel bod eu gwaith yn cael eu gwerthfawrogi."

Roedd y galeri yn arbenigo mewn artistiaid Cymraeg ac artistiaid oedd yn byw yn Nghymru - rhai presenol a rhai o'r gorffennol.

Ymhlith rhai o'r artisiaid cyfoes roedd o'n eu cynrychioli oedd enwau mawr fel Claudia Williams, Kevin Sinnott, Shani Rhys James, Sally Moore, Mary Lloyd Jones, Harry Holland, Clive Hicks-Jenkins a Charles Burton.

Ffynhonnell y llun, Martin Tinney
Disgrifiad o’r llun,

Gwaith yr artist Shani Rhys James ar waliau'r galeri

"Roedd Martin Tinney wedi sefydlu perthynas gyda nifer fawr o'r artistiaid sydd wedi para gyda fe yn y stabal dros 30 mlynedd," meddai Rhian.

Ar ben hynny mi fyddai'r galeri yn rhywle i bobl gael gweld gwaith rhai o gewri'r byd celf o'r 20fed ganrif fel Gwen John, Augustus John, Ceri Richards, Syr Kyffin Williams, Peter Prendergast, Evelyn Williams, John Knapp Fisher a Gwilym Prichard.

'Sylw teilwng i Gymru a'r artistiaid'

Beth felly wnaeth Martin Tinney yn wahanol?

"Fi'n credu o bopeth mae e wedi gwneud rhoi y math o bwyslais a wnaeth e i artistiaid sydd wedi gwneud gwahaniaeth mawr," eglura Rian.

"Ond gyda'r artistiaid yna mae e wedi eu cefnogi nhw mewn ffeiriau yn Llundain ac ar y cyfandir. Roedd hyn yn rhoi mwy a mwy o sylw teilwng i Gymru a'r artistiaid.

Ffynhonnell y llun, Martin Tinney
Disgrifiad o’r llun,

Tu fewn i Oriel Martin Tinney

"Fi'n credu bod yr ystod o artistiaid cyfredol sydd ganddo fe yn anhygoel mewn ffordd. O'n safbwynt i mae e wedi bod yn driw i bobl oedd ganddo fe ar y dechrau ond ar yr un pryd wedi llwyddo dod ag artistiaid newydd i mewn.

"Mae unrhyw artist - boed yn lenor, boed yn artist, boed yn gerddor - wastad yn teimlo eu bod yn cael pyliau o fecso a meddwl be' sy'n mynd i ddigwydd nesa a mae teimlo fod rhywun tu ôl i chi sy'n credu yn eich gwaith ac yn fodlon rhoi waliau i chi - mae'n gwneud byd o wahaniaeth.

'Rhoi safon i artistiaid'

Un o'r artistiaid hynny oedd yr artist Catrin Williams o Bwllheli oedd yn cael ei chefnogi a'i hyrwyddo gan Martin Tinney ac yn ei nabod yn iawn.

"Roedd o wedi rhoi safon i artistiaid," meddai Catrin. "Nes i ddod ar ei draws o yn Oriel Tegfryn [Porthaethwy]. O'n i wedi cadw draw gan feddwl fasa fo byth isio cael fi yn rhan o'r oriel!"

Ffynhonnell y llun, Kristina Banholzer
Disgrifiad o’r llun,

Yr artist Catrin Williams

"Wnaeth o gymryd drosodd Oriel Tegfryn rhyw 16 mlynedd yn ôl wedyn wnaeth o ddod â fi mewn i fyd Martin Tinney. Dwi'n cofio fo yn dod draw yma i Bwllheli i weld fy ngwaith a nes dwi di ddysgu mwy gan Martin am fy ngwaith i mewn hanner awr na gan unrhyw un.

"Oedd o'n deud 'paid â gorweithio nhw - tisio fframio nhw yn well, tisio bocs gwyn taclus'. Oedd o'n gwbod yn union be' oedd o'n gwneud.

"Odd gen i ofn bod efo fo achos roeddat ti wedi clywed y storis 'ma bod o yn caethiwo chdi mewn ffordd i mewn iddo fo. Oedd hynny yn digwydd... ond roedd o yn rhoi hyblgybrwydd i chdi hefyd."

Roedd Catrin yn gweld Martin yn cynrychioli cewri fel ei chyn diwtor Peter Prendergast, Siani Rhys James, Mary Lloyd Jones, "pobl dwi' wedi edmygu drwy fy oes."

"Dwi'n cofio Oriel Tegfryn yn cael sioe Shani Rhys James yn y gogledd a dwi jest yn cofio myfyrwyr Coleg Menai yn mynd yno i weld ei gwaith hi - faint o wych ydi hynna?"

'Colled'

Mae cau'r drysau ar Oriel Martin Tinney yn dro ar fyd yn ôl Rian Evans a Catrin Williams ac mi fydd yn golled enfawr i fyd celf Cymru.

"Mae'r oriel hon wedi bod yn hynod lwyddiannus, wedi bod yn rhan fawr o'n bywydau ni yng Nghaerdydd ond hefyd dros Gymru gyfan. Mae'n rhaid fi ddweud fydd e'n golled a fi'n torri 'nghalon i feddwl bydd y lle yn cau.

"Mae'n rhaid talu teyrnged olaf i Martin am yr hyn mae e wedi rhoi i ni dros y blynyddoedd."

Meddai Catrin: "Celf ydi fy mywyd i a ro'n i yn ffodus iawn oherwydd roedd Martin yn gwneud o yn hawdd i fi. Mi roedd o yn cadw tabs arna chdi. Mae'n waith caled hyrwyddo."

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig