Artistiaid Penllyn yn cofio Glyn Baines, yr athro celf wnaeth eu hysbrydoli
- Cyhoeddwyd
Beth sy'n gwneud athro da? Mae tri artist blaenllaw o ardal y Bala - Iwan Bala, Catrin Williams ac Angharad Pearce Jones - wedi rhannu eu hatgofion o'r athro celf wnaeth eu hysbrydoli nhw a chenhedlaeth o ddisgyblion yn Ysgol y Berwyn, y Bala rhwng 1969 a 1989.
Bu farw Glyn Baines ddiwedd mis Ionawr 2023 yn 92 mlwydd oed. Yn 2015 fo oedd yr artist hynaf erioed i ennill Medal Gelf yr Eisteddfod Genedlaethol pan oedd yn 84 mlwydd oed.
Mae'r tri cyn ddisgybl wedi rhannu detholiad o'r teyrngedau wnaethon nhw eu cyfrannu i'w wasanaeth angladd; mae'r tri yn cofio athro addfwyn oedd yn eu hannog i arbrofi, yn parchu eu barn ac yn rhoi'r hyder iddyn nhw greu yn eu harddull eu hunain.
Iwan Bala
Fydde' hi ddim yn bell o'r gwir i ddweud mae Glyn sydd yn gyfrifol am y llwybr wyf wedi bod arno ers bron i hanner canrif rŵan. Ysbrydolwyd fi gan ei ddosbarthiadau celf yn Ysgol y Berwyn yn Y Bala ar ddechrau y saithdegau.
'Roedd y 'stafell gelf yn hafan i mi, ac mae gweithio fel arlunydd wedi bod yn hafan fyth ers hynny. 'Roedd Mam braidd yn flin am hyn dwi'n amau - nid bywyd artist tlawd oedd ganddi mewn golwg i'w mab.
Mae gennyf ryw gof iddi ddweud hyn wrtho, ond llwyddodd yn ei ddull ddihafal i ennill hi drosodd, a bu hi yn gefnogol i'r carn wedyn.
'Abrofi i ffeindio ffordd'
Roedd Glyn yn athro amyneddgar ac addfwyn, yn hoffi trafod syniadau yn hytrach na thechneg efallai ac yn dueddol o ddiystyru y cwricwlwm penodedig. Ond, roedd yr addysg a gefais yn llawer mwy agored i'r posibiliadau o arbrawf fel dull o ffeindio ffordd.
Ni wnaf byth anghofio sut y byddai yn ffeindio rhywbeth diddorol mewn pob darlun, "Ie Iwan, dwi yn licio'r darn yna," fydde' ei sylw yn aml; fel arfer darn tua dwy fodfedd sgwâr yng nghefndir y gwaith oedd hwn, a fydde' wrth gwrs, yn haniaethol ei natur.
'Roeddwn yn derbyn hyn fel canmoliaeth, er nad oedd y darn dan sylw yn rhywbeth a roddais lawer o bwysigrwydd iddo pan yn ei wneud. Dwi yn siŵr mae dyma sut y bu i mi ddod i fedru defnyddio y 'damweiniol' mewn darlun i weddnewid yr holl waith, ac i wneud rhywbeth gwell o lawer na beth oedd fy mwriad cychwynnol.
Cefais sawl trafodaeth hir gyda Glyn am rinweddau yr haniaethol dros y ffigyrol; lliw a ffurf iddo fo lawer mwy ysbrydol ac elfennol na 'neges lythrennol' y gwaith oeddwn i yn gynhyrchu.
'Roedd yn bleser i mi weld gwaith Glyn yn esblygu hefyd wedi iddo ymddeol, ac fe fum sawl gwaith yn ymweld â Dona a fo yn Y Bala, ac yn gwario amser yn trafod yn ei stiwdio. Byddai yn rhwygo papur lliwgar a oedd wedi ei wasgaru dros llawr y stiwdio, ac yn eu gosod yn strategol ar y darlun o'i flaen. "Beth ti yn feddwl?" meddai "'chydig bach i'r dde?".
Catrin Williams
Dwi ddim yn siŵr yn union pryd ddechreuodd Mr Baines fod yn gymaint o ddylanwad arnaf.
Yn y chweched dosbarth treuliais nifer fawr o fy ngwersi rhydd yn ei ddosbarth yn creu celf ac yntau'n canmol gyda'r geiriau "ma 'na rwbeth yn hwnna Catrin", cyn gwneud i mi newid y gwaith yn llwyr - heb yn wybod i mi roedd yn dysgu'r broses anodd honno o bron â difetha'r gwaith i wneud darlun da.
Ar drip ysgol i Llundain ar y trên i ymweld ag orielau celf byddai Mr Baines yn gwirioni ar gelf haniaethol - byddai hynny wedyn yn troi'n drafodaethau difyr, dwys a hir ar y ffordd adre.
Gwnaeth y berthynas â Mr Baines gario 'mlaen, bu'n fy annog i gael arddangosfa yn Cantref wedi i mi orffen y cwrs sylfaen celf, gan barchu a gosod y gwaith er mwyn i bopeth fod ar ei orau.
Cafodd y ddau ohonom nifer o arddangosfeydd ar y cyd - un arbennig iawn yn Y Tabernacl, Machynlleth.
Ond y peth mwya' pwysig i mi oedd y croeso gan Mr Baines a Dona (fedrwn i byth ei alw'n Glyn, yn enwedig i'w wyneb) a chael fy ngwadd i'w stiwdio i weld y gwaith diweddaraf fyddai'n cychwyn trafodaethau am oriau o hyd.
Mi fydda' i'n trysori ei ddarnau celf sydd yn fy nghartref, maen nhw'n fy atgoffa o'r stiwdio fyddai'n llawn darnau celf ar eu hanner a'r papurau wedi eu peintio a'u rhwygo fel conffeti hyd y llawr.
Angharad Pearce Jones
Pan ddechreuais i yn Ysgol y Berwyn, daeth Yncl Glyn drws nesaf yn athro celf i fi, a hwn oedd fy hoff bwnc yn yr holl fyd.
'Dydi hi ddim yn gyfrinach nad oedd Glyn yn mwynhau dysgu grwpiau o blant swnllyd gyda dim affliw o ddiddordeb mewn celf, ond os oedd gennych chi gnewyllyn o ddiddordeb yn y pwnc, bydde Glyn yn gwneud i chi deimlo fel 'the chosen one'; byth yn nawddoglyd, byth yn dwrdio, ond yn eich trin chi fel aelod cyfartal o rhyw glwb arbennig ble mae mynegi eich hunain mewn celf gweledol mor bwysig, os nad yn bwysicach, nag unrhyw bwnc arall yn yr ysgol.
Dwi'n cofio un diwrnod yn glir, ro'n i'n cael hi'n anodd tynnu llun o rhyw fywyd llonydd ar y ddesg o 'mlaen, pan ddechreuodd Glyn gasglu holl gadeiriau'r dosbarth ynghyd a'u pentyrru nhw mewn coelcerth pendramwnwgl ar ben y byrddau, nes bron â chyffwrdd y to. Rhoddodd bapur mawr glân i mi gan ddweud, "tynna lun o hwnne". Mae'r llun yn dal gen i a dwi'n ffyddiog fod y profiad yn un o'r pethau sydd wedi ysbrydoli fy nghariad at adeiladu strwythurau mawr mewn dur hyd heddiw.
Beth oedd yn arbennig am Glyn fel athro, yw ei fod o'n dy gymryd di o ddifri yn syth, yn dy drin fel rhywun cyfartal o fewn y byd celf gweledol, er ein bod ni 'mond ar ddechrau ein siwrne greadigol ar y pryd. Oeddet ti'n credu felly bod unrhyw beth yn bosibl.
'Be ti'n meddwl?'
Wrth i'r blynyddoedd fynd heibio, a finne'n gwneud gyrfa yn y celfyddydau fy hun, fe drodd y byrddau rywfaint, a byddai Glyn yn fy ngwahodd i mewn i'r stiwdio i weld ei waith, fel petawn i'n diwtor ac yntau'n ddisgybl. Ac roedd y gwaith yn mynd yn fwy a mwy haniaethol, mwy cyfoes, mwy ifanc wrth iddo heneiddio. Rhesi o weithiau ar eu hanner dros y waliau ac ar yr easel, a'r llawr wedi ei orchuddio'n gyfan gwbl gan dafelli o bapur bob lliw.
Dwi'n siŵr bod nifer yn gyfarwydd â phroses Glyn o lygadu tamaid bach diddorol ar y llawr a'i osod gyda phin bawd ar ben un o'r lluniau a throi atoch chi gyda'r cwestiwn "be ti'n meddwl?". Rhywbeth arall roedd o'n ei wneud oedd cymryd llun a'i droi ar ben i lawr, i weld os oeddet ti'n meddwl bod o'n well.
Ond y cwestiwn anodda' i'w ateb oedd "Ti'n meddwl fod hwn wedi ei orffen?" A dwywaith neu dair byddwn i'n ddigon dewr i fynd, "Yndw". Ac mae'r lluniau hynny yn fy nhŷ i lawr ym Mrynaman, oherwydd atebodd Glyn, "os ti'n meddwl fod o wedi ei orffen, gei di o".
Pan enillodd y fedal aur am gelf gain, yr artist hynaf erioed i ennill, ro'n i'n un o'r detholwyr y flwyddyn honno. Wel, roedd gen i gymaint o ofn peidio â bod yn ddiduedd pan ddaeth ei waith o flaen y panel dethol, mod i bron iawn wedi mynd y ffordd arall.
Roedd na lot fawr o enwau mawr cyfarwydd wedi ymgeisio y flwyddyn honno a sawl un yn haeddianol o'r fedal aur, felly dywedais i ddim byd am hydoedd, jyst gadael i'r lleill drafod, pwyso a mesur. Ond roedden nhw'n dod nôl at waith Glyn trwy'r amser... a wedyn ges i ddweud fy marn.
Roedd fel bod popeth roedd wedi bod yn gweithio tuag ato ar hyd ei oes wedi dod at ei gilydd yn y set o luniau hollol haniaethol yma.
Misoedd yn ddiweddarach, ro'n i adre yn y Bala ac es i mewn i weld Glyn yn ei stiwdio. Roedd rhai o'r gweithiau buddugol o'r eisteddfod o'i flaen a dyma fo'n pwyntio at un ohonyn nhw a dweud, "Ti'n gwybod y llun yma gafodd ei arddangos yn y Lle Celf yn Maldwyn? Do'n i ddim eisiau dweud dim ar y pryd …ond 'nathoch chi osod o ar ben i lawr!"
Bydde Glyn wedi gallu bod yn llawer mwy adnabyddus fel artist petai o wedi gwerthu ei hun mwy, wedi mynd ar ôl yr orielau mwy dinesig am arddangosfa, ond er mor hyderus oedd o yn ei waith ei hun, roedd o'n deall, mai nid faint o luniau ti'n gwerthu, nid faint o sylw ti'n gael, yw mesur yr artist.
Hefyd o ddiddordeb: