Ymdrech i hybu a diogelu math prin o gregyn gleision
- Cyhoeddwyd
Mae cadwraethwyr yn paratoi i ryddhau math prin o gregyn gleision i afonydd Cymru er mwyn ceisio cynyddu eu niferoedd.
Roedd misglod perlog, neu gregyn gleision perlog, yn gyffredin yng Nghymru ar un adeg.
Ond erbyn hyn maen nhw'n un o'r rhywogaethau sy'n wynebu'r perygl mwyaf o ddiflannu.
Pobl ydy'r prif reswm tu ôl i'r lleihad yn y niferoedd, wrth iddyn nhw sathru arnyn nhw ar draethau a ger afonydd, a gwneud newidiadau i'w cynefin o dan y dŵr.
Nawr mae yna ymdrech o'r newydd i hybu'r niferoedd eto.
Dywedodd Euros Jones, rheolwr gweithrediadau Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC): "Maen nhw'n nodweddiadol o afonydd glan, da, sy'n rhywbeth 'da ni eisiau yma yng Nghymru.
"Maen nhw'n rhan o'n treftadaeth naturiol ni, rhan o'r tirlun yn ein hafonydd.
"Ac maen nhw'n brin ac yn warchodedig, felly o ran hynny, dwi'n meddwl bod gynnon ni gyfrifoldeb i neud y gorau drostyn nhw - gorau gallan ni."
Cam cyntaf y cynllun ydy ail-greu cynefin naturiol y misglod perlog, gan ddefnyddio cloddiwr i osod dros 800 tunnell o gerrig mawrion a dros 330 o dunelli o gerrig mân i arafu llif y dŵr.
Byddai hynny'n creu amodau lle all y cregyn gleision ffynnu.
Yr ail gam ydy rhyddhau misglod perlog ifanc yn ôl i'r afonydd yna.
Mae Dr John Taylor yn arbenigwr dyframaeth i CNC, ac mae'n gweithio yn eu deorfa yn Llanidloes ble maen nhw'n bridio'r misglod perlog.
Dywedodd: "Dwi 'di bod yn gweithio ar y prosiect hwn ers 17 mlynedd a byddwn yn dweud am y 10 mlynedd gyntaf cawsom ni ychydig iawn o lwyddiant.
"Mae cael y misglod perlog i oroesi yn ystod y chwe mis diwethaf wedi bod yn anodd iawn.
"Fodd bynnag, dros y chwe blynedd diwethaf rydym wedi cael mwy o lwyddiant, a nawr mae gennym ni filoedd o fisglod perlog ifanc hyd at chwech oed sy'n barod i'w rhyddhau yn y dyfodol agos."
'Ein cyfle olaf'
Mae Dr Taylor yn pwysleisio pwysigrwydd y prosiect.
Ychwanegodd: "Gall misglod perlog fyw i fod yn 120, 140 oed, felly efallai bod rhai o'r rhain yn ein tanc bridio wedi bod o gwmpas pan oedd y Frenhines Fictoria ar yr Orsedd.
"Ond mae hefyd yn golygu mai'r blynyddoedd nesaf yw ein cyfle olaf i gynyddu eu niferoedd.
"Mae'r benywod yn rhyddhau cregyn gleision bach ddiwedd mis Awst, ac yn y gwyllt, byddant yn glynu ar dagellau brithyllod ac eogiaid yn yr afon.
"Maen nhw'n aros yno am bron i flwyddyn, ac yna'n disgyn i wely'r afon.
"Hyd yn oed ar y cam hwnnw, mae'r cregyn gleision bach yn fach iawn - traean milimetr, neu hanner trwch cerdyn banc."
Er gwaethaf eu henw, anaml iawn y mae misglod perlog yn cynhyrchu perlau. Ond mae 'na berl a gafodd ei ddarganfod ger Conwy i'w weld yng nghoron Brenin Charles II.
Ychwanegodd Euros Jones o CNC: "Er eu bod yn cael eu galw'n fisglod perlog, mae'n dipyn o chwedl y gallwch chi eu hagor a dod o hyd i berl y tu mewn.
"Mae'n hynod o annhebygol - yn ymarferol bron yn amhosibl yng Nghymru oherwydd bod cyn lleied o'r cregyn gleision ar ôl."
Mae rhai o wyddonwyr CNC yn dweud bod poblogaeth iach o fisglod perlog yn arwydd o ansawdd dŵr da, gan gefnogi pysgod a gweddill anifeiliaid yr afon.
Pan fyddan nhw'n cyrraedd maint llawn, maen nhw tua'r un lled â chledr llaw - yn fwy na'r cregyn gleision dŵr halen rydyn ni'n eu bwyta.
Mae CNC yn bwriadu rhyddhau'r llwyth cyntaf o gywion i bum afon o amgylch Cymru yr haf hwn.
Mae'r union leoliadau'n cael eu cadw'n gyfrinach i ddiogelu'r cregyn gleision rhag pobl sy'n chwilio am berlau tu mewn iddyn nhw.
Maent bellach yn rhywogaeth warchodedig.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd11 Awst 2021
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2018