Dod o hyd i gorff wrth chwilio am Ausra Plungiene yn Eryri

  • Cyhoeddwyd
Ausra PlungieneFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Fe aeth Ausra Plungiene i gerdded yn y mynyddoedd yn ardal Dyffryn Conwy ddydd Mawrth

Mae'r heddlu wedi dod o hyd i gorff wrth chwilio am ddynes fu ar goll am ddeuddydd yn Eryri.

Fe ddiflannodd Ausra Plungiene, 56, ar ôl mynd â'i chi am dro ger Rowen yn Nyffryn Conwy tua 10:30 ar 11 Ebrill.

Daeth aelodau'r tîm achub mynydd o hyd i'r corff ger mynydd Yr Aryg yn y Carneddau yn gynharach brynhawn Iau, meddai'r heddlu.

Cafwyd hyd i'r ci - Swedish lapphund du o'r enw Eyora - yn fyw.

Er nad yw adnabyddiaeth ffurfiol wedi digwydd eto, mae teulu Ms Plungiene wedi cael gwybod.

Gofyn am breifatrwydd

Dywedodd yr Uwcharolygydd Owain Llewellyn: "Mae ein meddyliau gyda theulu Ausra ar yr adeg anoddaf yma.

"Gallaf gadarnhau bod ci wedi'i ddarganfod yn fyw yn y lleoliad.

"Hoffwn ddiolch i bawb a fu'n rhan o'r gwaith o chwilio am Ausra, mewn tywydd sydd wedi bod yn hynod o anodd.

"Yn olaf, byddwn yn apelio ar i deulu Ausra gael rhywfaint o breifatrwydd yn ystod y dyddiau nesaf."

Roedd holl dimoedd chwilio ac achub gogledd Cymru yn rhan o'r chwilio, gyda'r tywydd garw yn profi'n heriol.