Pryder y bydd polisi newydd yn cau busnesau gwyliau bach

  • Cyhoeddwyd
Stryd yn Ninbych-y-pysgod, Sir BenfroFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd rhaid i lety gwyliau cael eu llenwi am 182 diwrnod yn hytrach na 70 er mwyn cymhwyso i dalu treth busnes

Mae hanner y busnesau gwyliau bach sy'n gweithio gyda Chynghrair Twristiaeth Cymru yn dweud eu bod yn "ystyried cau" o ganlyniad i bolisi newydd sy'n effeithio ar lety gwyliau. 

Y llynedd, roedd modd i berchnogion llety gwyliau gymhwyso i dalu treth busnes yn hytrach na threth cyngor os oedden nhw'n gallu llenwi'r eiddo am o leiaf 70 diwrnod y flwyddyn.

Ond, wedi i bolisi newydd Llywodraeth Cymru dod i rym ddechrau Ebrill, mae'r trothwy wedi newid i 182 noson.

Nod y rheolau "ydy creu marchnad dai decach" meddai Llywodraeth Cymru.

'50% yn ystyried cau'

Mae Cadeirydd Cynghrair Twristiaeth Cymru, Suzy Davies, wedi clywed pryderon sawl busnes gwyliau ers i'r rheol ddod i rym.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Suzy Davies yn pryderu mai cwmnïau cenedlaethol fydd yn cymryd lle busnesau bach lleol

Dywedodd: "Mae rhai o'r busnesau bach yma ar hyn o bryd falle'n talu dim gan eu bod nhw'n cwympo fel eithriad dan y system treth busnes.

"Ond gyda'r rheol 182 diwrnod yma maen nhw'n disgwyl talu treth cyngor sy'n gyfartal i 25% o'u helw. Dydy hynny ddim yn gynaliadwy. 'Dan ni'n sôn am fusnesau bach yma. 

"Mae bron i hanner o'r busnesau bach y'n ni'n gweithio gyda nhw yn dweud bod nhw'n ystyried cau, ac os ydy'r busnesau yma'n diflannu o'n cymunedau ni, busnesau sydd wedi eu rheoli gan bobl leol, beth sy'n dod yn eu lle nhw? Cwmnïau mawr cenedlaethol."

'Nid yw'r polisi'n gwneud unrhyw synnwyr'

Mae Gwion Llwyd yn gofalu am gannoedd o lety gwyliau ar ran perchnogion ar draws Gogledd Cymru.

Mae'n deall yr angen i weithredu o ystyried yr argyfwng tai mewn ardaloedd fel Gwynedd, ond mae'n credu nad y polisi hwn yw'r ffordd i wneud hynny.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Gwion Llwyd ei fod yn deall bod argyfwng tai ond nad dyma'r ffordd i'w ddatrys

Dywedodd: "Dw i a'r perchnogion llety gwyliau dw i'n cynrychioli yn gweld y broblem tai sydd yn yr ardal yma.

"Mae'n rhaid i ni neud mwy yn does achos mae pobl ifanc yn ffeindio hi'n anodd iawn prynu'r tŷ cyntaf 'na, ac mae fy nheulu i yn eu plith nhw.

"Ond mae hwn yn declyn coblyn o drwsgl i drio datrys y broblem honno.

"Mae gen i berchnogion tai gwyliau yn Abersoch a Nefyn - lle mae'r broblem tai yma ar ei waetha' - maen nhw'n mynd i daro'r trothwy newydd yma'n hawdd iawn.

"Ond os ydy'r bobl sydd â llety gwyliau yn Y Bala, er enghraifft, yn disgyn o'r farchnad, mae'r bobl yn Abersoch yn mynd i godi eu prisiau. Bydd y galw dal yna ond y stoc yn is.

"Mond wythnos diwethaf, ges i e-bost gan hogan leol sydd wedi buddsoddi i newid tŷ ei mam hi i fod yn dŷ gwyliau, i ddweud ei bod hi wedi penderfynu peidio gosod y tŷ.

"Y rheswm? Y rheol newydd yma."

Yn ôl arolwg PASC Cymru i tua 500 o berchnogion llety gwyliau, roedd:

  • 64% wedi gosod eu llety am fwy na 182 diwrnod yn 2022-2023;

  • 31% yn disgwyl cyrraedd y trothwy o 182 diwrnod yn 2023-2024;

  • 67% wedi gorfod gostwng prisiau i gael mwy o archebion;

  • 32% wedi ychwanegu pethau at eu llety er mwyn denu cwsmeriaid;

  • 40% yn ystyried gwerthu oherwydd y rheol newydd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae pryder mai mannau sy'n llai poblogaidd fydd yn cael eu taro waethaf gan y rheol newydd

'Pryder cyson'

Mae Ian Carrington, 64 o Amwythig, yn un perchennog llety gwyliau sy'n poeni am y meini prawf newydd.

Mae ganddo ddau lety gwyliau yn Llangollen, ac mae'n dweud bod gorfod llenwi nhw am 182 diwrnod mewn cyfnod o 12 mis yn "straen" ac yn creu "pryder cyson".

Dywedodd, gyda'r argyfwng costau byw hefyd yn ffactor, y gallai'r rheolau newydd olygu efallai na fydd ei fusnes yn hyfyw.

"Mae'n mynd i fod yn bryder parhaol llwyr oherwydd mae ein costau wedi cynyddu," meddai.

"Felly mewn gwirionedd, pe baem yn mynd yn ôl at dreth cyngor, rwy'n meddwl y byddwn yn rhedeg i mewn i golled, ac mae'n dod yn wastraff amser. Mae'n dod yn ddibwrpas.

Dywedodd Mr Carrington, ei fod yn deall fod angen i Lywodraeth Cymru wneud rhywbeth i fynd i'r afael â phrinder tai, ond bod y penderfyniad yn "taro" y sector twristiaeth ac yn diystyru'r rhai sydd am osod eiddo gwyliau.

"O fy mhrofiad i, ydy mae wedi fy nigalonni, dwi'n caru fy swydd, dwi wrth fy modd, ond byddwn i ddim yn dechrau busnes fel hyn nawr gyda'r rheol yma," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Llywodraeth Cymru mai nod y newidiadau yw creu "marchnad dai decach"

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Nod y newidiadau i'r rheolau treth leol ar gyfer llety hunanarlwyo ac ail gartrefi yw helpu i ddatblygu marchnad dai tecach a sicrhau bod perchnogion eiddo yn gwneud cyfraniad teg i'r cymunedau lle maen nhw'n berchen ar gartrefi neu'n rhedeg busnesau. 

"Bydd y meini prawf gosod newydd ar gyfer llety hunanarlwyo yn dangos yn gliriach bod yr eiddo hyn yn cael eu gosod yn rheolaidd ac yn gweithredu fel busnesau gwyliau am o leiaf hanner y flwyddyn.

"Bydd eiddo nad ydynt yn cwrdd â'r meini prawf yn agored i dreth gyngor yn hytrach na chyfraddau annomestig.

"Rydym hefyd wedi diweddaru ein canllawiau i gadarnhau bod gan awdurdodau lleol bwerau dewisol i ostwng neu ddileu'r gofyniad i dalu premiwm neu gyfradd safonol treth y cyngor os na fydd y trothwyon newydd o 182 diwrnod yn cael eu cyrraedd."