Newid hinsawdd 'yn dechrau cael effaith' ar afonydd Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae lefelau uwch yn ein hafonydd a stormydd yn digwydd yn fwy aml yn dangos fod newid hinsawdd yn dechrau cael effaith ar draws Cymru, yn ôl y rhai sy'n darogan llifogydd.
Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) fod mwy o stormydd "wedi'u henwi", fel Storm Dennis, yn dod â llifogydd difrifol i rannau o'r wlad.
O ganlyniad, maen nhw'n dweud ei fod yn hanfodol monitro glawiad a lefelau afonydd er mwyn amddiffyn cymunedau ac achub bywydau.
Ym mis Chwefror 2020 fe dorrwyd sawl record am gofnodion glawiad, yn ôl Samantha Mitchell sy'n gynghorydd arbenigol ar ragweld llifogydd.
"Fe gafon ni Storm Ciara, a dorrodd y record am lefelau'r afonydd yng ngogledd Cymru," meddai.
"Yna'r penwythnos wedyn roedd gennym ni Storm Dennis, a dorrodd recordiau yn ne-ddwyrain Cymru ac yna ar ddiwedd y mis roedd gennym Storm Jorge, a dorrodd recordiau yng nghanolbarth Cymru."
Mae Ms Mitchell yn rhan o dîm sy'n monitro lefelau afonydd, ac yn edrych i weld a fydd trothwyon llifogydd yn cael eu cyrraedd.
Ond mae eu gwaith i fonitro gweithgaredd afonydd ac arfordir Cymru yn parhau trwy gydol y flwyddyn, ac nid yn unig pan ragwelir storm.
Maen nhw'n defnyddio ystod eang o dechnoleg, gan gynnwys cychod wedi'u rheoli o bell a dronau.
'Wedi cael rhai stormydd gweddol fawr'
Mae Paul Griffiths, uwch gynghorydd yn nhîm hydrometreg a thelemetreg CNC, yn treulio ei amser yn teithio o amgylch rhai o'r 350 o orsafoedd monitro afonydd yng Nghymru, gan gynnwys un ar lannau Afon Taf ym Merthyr Tudful.
Yn ystod Storm Dennis roedd lefelau uchel yr afon yn golygu y gwelwyd llifogydd mewn llawer o dai yn y dref, ac mae tystiolaeth o ddifrod stormydd o fewn yr afon o hyd.
Yn ystod yr oriau brig ar 15 a 16 Chwefror 2020 roedd dau rybudd o lifogydd difrifol mewn lle, yn ogystal â dros 140 o rybuddion llai difrifol.
Roedd hynny'n fwy o rybuddion nag erioed yng Nghymru, yn ôl CNC.
Mae'r orsaf ym Merthyr yn cynnwys cwt bach o frics, a nifer o ddyfeisiadau mesur sydd wedi'u gosod yn y dŵr ac ar lannau'r afon.
Y canolbwynt yw mesurydd lefel yr afon, sy'n edrych fel pren mesur enfawr.
"Rydym wedi cael rhai stormydd gweddol fawr dros y blynyddoedd diwethaf," meddai Mr Griffiths.
"Yr un mawr diwethaf oedd Storm Dennis ac fe gyrhaeddodd y mesurydd yma tua 2.7m, heb fod ymhell o'r brig, sy'n golygu byddai lle'r ydym ni nawr wedi bod o dan ddŵr."
Mae darlleniadau'n cael eu cymryd o lefel yr afon o'r mesurydd, a'r rheiny yn cael eu cymharu â darlleniadau o synhwyrydd - blwch bach llwyd yn y dŵr - i sicrhau eu bod yn cyfateb i ddarparu darlleniadau cywir.
Mae'r darlleniadau yn cael eu gyrru i brif swyddfa CNC drwy signal ffôn bob 15 munud.
Pan fydd yr afon yn rhy uchel neu'n rhy gyflym, rhaid monitro'r llif â llaw.
'Amddiffyn pobl a diogelu eiddo'
Un ffordd o ganfod y llif yw defnyddio cwch o'r enw ADCP, sy'n cael ei reoli o bell ac sy'n anfon darlleniadau i liniadur.
Ychwanegodd Mr Griffiths: "Beth mae hyn yn ei wneud yw monitro cyflymder y gronynnau sy'n teithio oddi tano o'r afon ac ar yr un pryd bydd yn olrhain dyfnder ac ardal drawstoriadol o'r gwely hefyd ac mae hynny'n rhoi'r llif i ni.
"Mae'n gyfrifiad weddol syml.
"Mae'r orsaf hon yn bwysig iawn ar gyfer astudiaethau newid hinsawdd. Mae'n wirioneddol bwysig ar gyfer ein modelau llifogydd ac yn y pendraw ar gyfer amddiffyn pobl a diogelu eiddo."
Mae gorsaf fonitro ar lan yr afon yn gartref i'r holl ddata sy'n cael ei gasglu, ac mae'n cael ei anfon at dîm rhagweld llifogydd CNC i'w ddadansoddi.
Yn y swyddfa yng Nghaerdydd mae mapiau o afonydd Cymru yn gorchuddio'r waliau ac mae'r sgriniau cyfrifiadurol yn galluogi'r tîm i ddelweddu'r data a chanfod tueddiadau.
Dywedodd Samantha Mitchell: "Pan fydd hi'n dechrau bwrw glaw, rydyn ni'n cymryd data glawiad a ragwelir gan y Swyddfa Dywydd ac rydyn ni hefyd yn cymryd lefelau afonydd.
"Maen nhw'n mynd i mewn i'n modelau ac mae'r modelau yn gweithio allan beth allai fod yn digwydd... ac a allai hynny fod yn croesi unrhyw drothwyon llifogydd.
"Rydyn ni'n trosglwyddo'r wybodaeth honno i'r swyddogion rhybuddion llifogydd a byddan nhw'n penderfynu a ddylid rhoi unrhyw rybuddion i'r cyhoedd."
Mae'r rhagfynegiadau llifogydd ar gael i bawb ar wefan CNC, trwy fapiau a graffiau rhyngweithiol.
'Rhai afonydd yn ymateb yn arafach'
Fel rheol mae faint o rybudd a gewch yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw.
Gall nodweddion, gan gynnwys maint a siâp, ddylanwadu ar ymddygiad afon, sydd yn ei dro yn effeithio ar ba mor bell ymlaen llaw y gellir cyhoeddi rhybuddion llifogydd.
Dywed Ms Mitchell fod yr afonydd sy'n ymateb gyflymaf i lawiad yn ne Cymru, sy'n draenio oddi ar yr hen feysydd glo neu Fannau Brycheiniog - fel yng Nghastell-nedd Port Talbot neu Rhondda Cynon Taf.
"Mae afonydd mwy fel Gwy, Hafren a Thawe yn tueddu i ymateb yn arafach i law," meddai.
"Mae'n bendant yn dod yn duedd ar gyfer lefelau afonydd uwch a digwyddiadau mwy dwys.
"Felly mae hynny'n dangos i ni fod newid hinsawdd yn bendant yn dechrau cael effaith."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2023