Cau un lôn Pont y Borth i asesu gwaith adfer dros dro

  • Cyhoeddwyd
Pont y Borth
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd yn bosib i yrru i'r ddau gyfeiriad dros y bont yn y cyfnodau pan fydd un lôn ar gau

Fe fydd Pont y Borth ar gau yn rhannol i draffig eto am gyfnod yr wythnos hon er mwyn asesu'r gwaith adfer dros dro i'r strwythur.

Bydd goleuadau traffig mewn grym i reoli traffig dros y bont rhwng dydd Mercher 26 Ebrill a dydd Gwener 28 Ebrill.

Mae angen cau un o lonydd y bont am gyfnodau byr, medd Llywodraeth Cymru, fel bod peirianwyr yn gallu cynnal archwiliadau rheolaidd o'r gwaith atgyweirio yn ddiogel.

Bydd archwiliadau'n cael eu cynnal o hyn ymlaen bob chwech wythnos "i wneud yn siŵr bod y gwaith dros dro yn iawn".

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd angen gwaith atgyweirio brys i rodenni fertigol, neu hangeri, Pont y Borth

Bu'n rhaid cau'r bont yn ddirybudd fis Hydref y llynedd ar gyfer gwaith atgyweirio brys, gan achosi trafferthion i fusnesau a theithwyr yr ardal.

Cafodd rhodenni fertigol, neu hangeri, dros dro eu gosod cyn ailagor y bont i gerbydau sy'n pwyso llai na 7.5 tunnell ddechrau Chwefror.

Mae'r peirianwyr nawr "wedi cwblhau'r ymchwiliad cychwynnol lle buont yn cynnal profion ar newid y rhodenni fertigol er mwyn llywio cam nesaf y gwaith".

Ychwanegodd y llywodraeth yn eu datganiad diweddaraf: "Mae'r gwaith i newid y rhodenni'n barhaol yn cael ei gynllunio a'i baratoi ar hyn o bryd ar sail canfyddiadau'r profion diweddar."