Pont Tywysog Cymru: Y Brenin yn anhapus ynghylch yr ailenwi

  • Cyhoeddwyd
dadorchuddio
Disgrifiad o’r llun,

Roedd penderfyniad Charles i ddadorchddio'r enw newydd 25 milltir o'r bont yn "dweud y cyfan", medd gwas sifil

Roedd Brenin Charles III yn anhapus ynghylch ailenwi Ail Bont Hafren yn Bont Tywysog Cymru, yn ôl cyn-weinidog diwylliant Llywodraeth Cymru.

Fe wnaeth y newid dadleuol yn 2018 ysgogi cwynion am na chafwyd ymgynghoriad cyhoeddus.

Dywed yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas bod y Tywysog, fel yr oedd ar y pryd, wedi ei sicrhau nad oedd yn gwybod dim am y penderfyniad ac nad ymgynghorwyd ag ef ei hun.

"Doedd o wir ddim yn hapus o gwbl," meddai cyn-arweinydd Plaid Cymru, sydd wedi'i ddyfynnu mewn llyfr newydd am y Brenin.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y penderfyniad i ailenwi'r bont ennyn ymateb cryf

Yn y gyfrol 'Charles the King and Wales', mae'r awdur - newyddiadurwr BBC Cymru, Huw Thomas - yn disgrifio cyfnod ailenwi'r bont fel y "foment fwyaf peryglus" yn amser Charles fel Tywysog Cymru.

Yr un wythnos â'r seremoni i nodi'r ailenwi, ym mis Gorffennaf 2018, aeth y Tywysog Charles ar daith i Lys a Chastell Tretŵr, ger Crucywel, Powys a chwrdd â staff cyn cael sgwrs â'r Arglwydd Elis-Thomas.

"Yn ystod yr ymweliad hwnnw y trodd ataf a dweud: 'Rwyf am ddweud un peth wrthych, yr Arglwydd Elis-Thomas. Mae'n ymwneud â'r bont hon.'

"'Rwyf am roi gwybod i chi fy mod yn gwybod dim byd am y peth. Ni ymgynghorwyd â mi'.

"Wel, roedden nhw'n cymryd eich enw chi yn ofer, syr,' meddwn i, neu rywbeth felly. A dyma ni'n chwerthin.

"Ond doedd o ddim yn hapus o gwbl mewn gwirionedd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y newid dadleuol, yn 2018, ysgogi cwynion am na chafwyd ymgynghoriad

Ac eto, fe ddywedodd Ysgrifennydd Cymru ar y pryd, Alun Cairns, wrth awdur y llyfr ei fod wedi dechrau trafod y posibilrwydd o ailenwi Ail Bont Hafren er anrhydedd i Dywysog Cymru yn ystod haf 2016, ar faes yr Eisteddfod yn Y Fenni.

Eglurodd Mr Cairns ei fod wedi cael sgwrs anffurfiol gyda Grahame Davies, dirprwy ysgrifennydd preifat Tywysog Cymru, oedd yn gweld "gwerth archwilio hyn".

Roedd y Prif Weinidog Theresa May a'i hysgrifennydd trafnidiaeth yn "gefnogol", yn ôl yr AS Ceidwadol.

Ar ôl tri llythyr a dwy sgwrs gyda Carwyn Jones, meddai, fe ddaeth Prif Weinidog Cymru hefyd yn gefnogol.

Dechreuodd y trefniadau ffurfiol wedyn, gan gynnwys gofyn am ganiatâd y Frenhines, a dywedodd ei hysgrifennydd preifat fod Ei Mawrhydi yn fodlon â'r syniad.

Mae'r llyfr yn adrodd bod ffynhonnell o'r llywodraeth yn dweud bod Clarence House "wir yn barod" i Dywysog Cymru yrru ei gar Aston Martin dros y bont i gadarnhau'r newid enw, yn ystod trafodaethau cynnar.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Aston Martin wedi cyhoeddi yn 2016 y byddai'n agor canolfan weithgynhyrchu newydd yn Sain Tathan, Bro Morgannwg

Nododd y Tywysog yr ailenwi, ym mis Gorffennaf 2018, mewn seremoni 25 milltir i ffwrdd o'r bont, mewn pabell fawr yng Ngwesty'r Celtic Manor yng Nghasnewydd.

Yn ôl y llyfr, dywedodd uwch was sifil o'r DU, wrth siarad ar yr amod ei fod yn anhysbys, fod y lleoliad yn cyfleu teimladau'r Tywysog yn glir.

"Fe ddadorchuddiodd enw newydd ar bont bum milltir ar hugain o'r bont, ac mae hynny'n dweud y cyfan," meddai'r gwas sifil.

Mae Palas Buckingham wedi cael cais am ymateb.

Bydd Charles the King and Wales gan Huw Thomas yn cael ei gyhoeddi gan Parthian Books ar 1 Mai.