'Y Brenin Charles, nid Siarl, yn swyddogol yn Gymraeg'

  • Cyhoeddwyd
Y Brenin Charles yn cwrdd â'r cyhoedd ar dir Castell Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Y Brenin Charles yn cwrdd â'r cyhoedd ar dir Castell Caerdydd ym mis Medi

Mae'r Brenin Charles yn dymuno cael ei adnabod yn swyddogol yn Gymraeg wrth yr enw hwnnw, yn hytrach na'r Brenin Siarl, meddai ffynhonnell o fewn gweision y brenin.

Ond ychwanegodd y ffynhonnell yn Nhŷ Clarence - aelwyd cyn Dywysog Cymru a Duges Cernyw - "y gall pobl Gymreigio'r enw fel y dymunent mewn sefyllfaoedd anffurfiol, wrth gwrs".

Penderfyniad cyntaf teyrnasiad y brenin newydd oedd ei fod yn cael ei adnabod yn Saesneg fel y Brenin Charles III.

Gallai fod wedi dewis o unrhyw un o'i bedwar enw - Charles Philip Arthur George.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y Brenin gyfarfod gyda'r Prif Weinidog Mark Drakeford yng Nghastell Caerdydd ym mis Medi

Wrth beidio â chymreigio'r enw, mae'n unol ag arfer y Proclamasiwn y darparwyd ei eiriau gan Lywodraeth Cymru.

FFURF AR BROCLAMASIWN AR GYFER DATGAN Y SOFRAN NEWYDD YN Y DEYRNAS UNEDIG

Gan ei bod wedi rhyngu bodd i Dduw Hollalluog i alw i'w Ofal ein diweddar Sofran, yr Arglwyddes Frenhines Elizabeth yr Ail, o Fendigaid a Gogoneddus Goffadwriaeth, y mae Coron Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, oblegid ei Hymadawiad, wedi dod yn gwbl ac yn gyfiawn i ran y Tywysog Charles Philip Arthur George: Yr ydym ninnau, felly, Arglwyddi Ysbrydol a Thymhorol y Deyrnas hon ac Aelodau o Dŷ'r Cyffredin, ynghyd ag aelodau eraill o Gyfrin Gyngor Ei diweddar Fawrhydi, cynrychiolwyr y Teyrnasoedd a'r Tiriogaethau, Henaduriaid a Dinasyddion Llundain, ac eraill, yn awr yn datgan ac yn cyhoeddi drwy hyn yn unllais ac o Galon a Thafod unfryd fod y Tywysog Charles Philip Arthur George, bellach, oblegid Marwolaeth ein diweddar Sofran o Serchus Goffadwriaeth, wedi dod inni yn unig gyfreithlon a chyfiawn Ddyledog Arglwydd Charles y Trydydd, drwy Ras Duw, ar Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon a'i Deyrnasoedd eraill, yn Frenin, yn Ben ar y Gymanwlad, yn Amddiffynnwr y Ffydd, i'r hwn yr ydym yn datgan, ag Anwylserch gostyngedig, ein holl Ffydd a'n Hufudd-dod; gan atolwg ar i Dduw, drwy'r hwn y mae Brenhinoedd a Breninesau yn teyrnasu, fendithio Ei Fawrhydi â hir Oes hapus i deyrnasu drosom.

Rhoddwyd ym Mhalas St. James y degfed dydd o fis Medi ym mlwyddyn Ein Harglwydd dwy fil a dwy ar hugain.

DUW A GADWO'R BRENIN

Yn y cyfryngau Sbaeneg, Isabel II oedd y Frenhines a'i mab yw Carlos III.

Yn Ffrangeg mae'r enw fel y Saesneg - Le roi Charles III.

Ar gyfer brenhiniaeth gyfoes, mae cyfryngau Saesneg yn tueddu i gyfieithu teitlau ond nid enwau brenhinol.

Felly pennaeth gwladwriaeth Sbaen yw'r Brenin Felipe VI, nid Philip, a phennaeth gwladwriaeth Denmarc yw'r Frenhines Margrethe II, nid Margaret II.

Yn hanesyddol, mae enwau llai cyfarwydd yn aml wedi eu Seisnigeiddio - fel y tsar Alexander yn hytrach nag Aleksandr.

'Carlo'

Cafodd Charles ei alw'n 'Carlo' gan Dafydd Iwan yn ei gân o'r un enw adeg ei arwisgo yn Dywysog Cymru yng Nghaernarfon yn 1969.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Fe gyfarfu Dafydd Iwan â Thywysog Charles yn 2019, union 50 mlynedd i ddiwrnod y seremoni Arwisgo

Bydd y Brenin Charles yn cael ei goroni'n swyddogol ar 6 Mai 2023 mewn seremoni yn Abaty Westminster.

Archesgob Caergaint fydd yn arwain y seremoni a bydd y Frenhines Gydweddog, Camilla, yn cael ei choroni hefyd.