Codi mwy o dâl i barcio yn Abertawe 'eisoes yn taro busnesau'

  • Cyhoeddwyd
Parcio Abertawe
Disgrifiad o’r llun,

Mae pris parcio am ddiwrnod cyfan wedi codi o £2 i £17 mewn rhai mannau

Mae busnesau yng nghanol Abertawe yn dweud eu bod wedi gweld "cwymp sylweddol" yn nifer eu cwsmeriaid ers i brisiau parcio godi'r wythnos ddiwethaf.

Fe gododd y cyngor y prisiau yn y meysydd parcio wedi i'r pris gael ei ostwng yn ystod y pandemig.

Ond mae busnesau wedi dweud wrth raglen Newyddion S4C eu bod yn poeni bydd y prisiau uchel yn atal cwsmeriaid rhag ymweld â chanol y ddinas.

Dywedodd Cyngor Abertawe eu bod yn cynnal trafodaethau gyda busnesau lleol i'w cefnogi, a bod y prisiau'n ystyried y pwysau ariannol enfawr mae cynghorau yn eu hwynebu wrth gytuno ar gyllidebau.

Janet Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Janet Jones ei bod eisoes wedi gweld newid yn nifer ei chwsmeriaid

Yn ôl Janet Jones o Siop Tŷ Tawe, mae'r sefyllfa yn ei phoeni.

"Ry'n ni wedi gweld newid ers i'r parcio newid o'n hamgylch ni," meddai.

"Ar un tro o' chi'n gallu parcio am awr ar draws yr heol am ddim, ac oedd hwnna'n berffaith i ni achos jest dod mewn i falle prynu cerdyn mae pobl.

"Ond nawr maen nhw'n gorfod talu £2 am awr, mae e wedi cael effaith ar y siop ac ar nifer y bobl sy'n dod mewn yn barod.

"Mae'n anodd parcio o gwmpas fan hyn fel mae hi.

"Mae rhai yn dweud yn barod bod nhw methu gweld rheswm i ddod os maen nhw'n gorfod talu lot i barcio.

"Dwi'n credu nawr, os mae pobl yn gorfod dal bysys i gadw prisiau lawr, dydw i ddim yn credu y bydd pobl yn gwneud y daith i lle rydyn ni."

Beth yw'r newidiadau?

Fe benderfynodd y cyngor ar y prisiau newydd ym mis Ionawr, gan ddweud eu bod yn adlewyrchu prisiau parcio sy'n debycach i rai dinasoedd eraill yng Nghymru.

Ychwanegon nhw fod y pris newydd yn ystyried y pwysau ariannol enfawr y mae cynghorau yn eu hwynebu wrth gytuno ar gyllidebau, a'u bod heb godi'r prisiau ers 2014.

Parcio Abertawe
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Cyngor Abertawe ei bod wedi gweithio'n galed er mwyn ceisio cael busnesau i gytuno ar y prisiau parcio newydd.

Ym maes parcio'r Cwadrant er enghraifft, roedd yn arfer costio £2 i barcio am y diwrnod cyfan.

Bellach mae hynny wedi codi i £17 i bobl sy'n byw tu allan i Abertawe, ac £16.50 i breswylwyr.

Ym maes parcio Bae Copr mae'r pris wedi codi o £1.40 yr awr i £3 i bobl sy'n byw tu allan i'r ddinas, a £2 i bobl leol.

Ym maes parcio'r Stryd Fawr, y pris oedd 50c yr awr, ond mae hynny bellach wedi codi i £1.50 yr awr i ymwelwyr o du allan i Abertawe, a £1 i breswylwyr.

Yn dilyn ymateb negyddol gan y cyhoedd am y newidiadau, mae'r cyngor yn bwriadu cyflwyno cynnig newydd a fydd yn gweld parcio am £1 yr awr hyd at dair awr.

Yna ar ôl tair awr fe fydd yn rhaid i bobl dalu'r prisiau newydd.

Della Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Yn ol Della Thomas mae pobl sy'n dod i ganol y ddinas yn treulio llai o amser yno bellach

Ond mae Della Thomas, sy'n berchen ar stondin Mair Harries ym marchnad Abertawe, yn dweud bydd pobl ond yn ymweld â'r siopau yn sydyn cyn gadael, oherwydd y prisiau uchel.

"Bydd pobl ddim yn dod mewn i'r dre', 'da ni 'di gweld hynny'n digwydd yn barod," meddai.

"Ond os mae pobl yn dod mewn, maen nhw'n dod mewn a rhedeg mas - dydyn nhw ddim yn aros yn y dref.

"Dyw e ddim ond yn effeithio arnom ni, ond i fusnesau fel caffis a llefydd fel 'na. Mae pobl ffaelu fforddio i sefyll yn hirach ac ymlacio rhagor."

'Gwarthus'

Dan gynlluniau'r cyngor bydd y pris i ddefnyddio'r gwasanaeth "parcio a theithio" yn parhau'n £1 am ddiwrnod cyfan.

Ond i rai sy'n gyrru i ganol y ddinas, mae'r prisiau newydd yn "warthus".

"Dwi jest wedi talu £2 am awr, a fi'n becso'n barod bod fi mynd i fynd drosto," meddai Heidi Prosser.

"Mae bendant mynd i stopio fi rhag dod i fewn i'r ddinas. Mae pobl yn mynd i ddechrau siopa tu allan i'r dre'.

"Mae'n rhaid iddyn nhw ystyried gostwng y prisiau tra bod ni ynghanol argyfwng costau byw. Mae'n ormod, mae wir yn ormod."

Heidi Prosser
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Heidi Prosser fod y gost "bendant mynd i stopio fi rhag dod i fewn i'r ddinas"

Dywedodd Cyngor Abertawe ei bod wedi gweithio'n galed er mwyn ceisio cael busnesau i gytuno ar y prisiau parcio newydd.

"Mae'r taliadau parcio a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer meysydd parcio canol dinas Abertawe yn ein gwneud yn rhatach na llawer o ddinasoedd eraill ledled y wlad," meddai.

"Pan gafodd y taliadau parcio presennol eu cymeradwyo ym mis Ionawr eleni, fe'u gwnaed gan ystyried yr hyn y mae dinasoedd eraill yn ei godi a hefyd gan ystyried y pwysau ariannol enfawr y mae cynghorau yn eu hwynebu wrth gytuno ar gyllidebau.

"Nid ydym wedi cynyddu taliadau parcio ers 2014 a chyn y pandemig Covid roedd trigolion ac ymwelwyr yn talu ffioedd dim ond ychydig yn is na'r hyn yr ydym wedi'i gyflwyno'n ddiweddar."

'Cost o £2.1m'

Ychwanegodd: "Pan gydiodd y pandemig, gwnaethom bopeth posibl i gefnogi busnesau canol y ddinas a hefyd teuluoedd sy'n dod i ganol y ddinas - roedd hyn yn cynnwys cyflwyno tâl diwrnod cyfan o £2 yn unig.

"Roedd hyn yn bosib oherwydd cymorth ariannol gan y llywodraeth mewn perthynas â Covid a ddaeth i ben beth amser yn ôl.

"Dewisodd y cyngor barhau â'r cynnig hwn am 12 mis arall, gan ei ariannu'n uniongyrchol, ond nid yw'n bosibl parhau ar gost o £2.1m.

"Felly mae'n rhaid i Abertawe, fel llawer o gynghorau eraill ystyried taliadau priodol am wasanaethau fel meysydd parcio, a rhoi cyfle inni sicrhau y gallwn eu cynnal ar gyfer y blynyddoedd i ddod."

Pynciau cysylltiedig