Gobaith dychwelyd adref wedi ffrwydrad Blaendulais

  • Cyhoeddwyd
Y tŷ wedi'r ffrwydradFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y cartref teuluol ei ddinistrio'n llwyr gan y ffrwydrad

Mae mam a oedd yn gaeth yn ei chartref gyda'i phlant ifanc wedi ffrwydrad nwy yn dweud bod y gwaith o ailadeiladu'r tŷ'n mynd yn ei flaen yn dda.

Dywedodd Jess Williams bod y dinistr i'w cartref ym Mlaendulais, Castell-nedd Port Talbot wedi chwalu "pob rhan" o fywydau ei theulu a'u bod wedi colli popeth roedden nhw'n berchen arno.

Fe ddioddefodd ei meibion, oedd yn ddau a phump oed ar y pryd, losgiadau difrifol a bu'n rhaid rhoi Ms Williams mewn coma.

Mewn sgwrs ar BBC Radio 4 bron i dair blynedd wedi'r ffrwydrad, dywedodd: "Mae yna adegau wedi bod ble rwy' wedi mo'yn rhoi lan a meddwl 'Ni alla'i wneud hyn'."

Cafodd eu cartref ei ddinistrio'n llwyr yn dilyn y ffrwydrad ym Mehefin 2020.

"Roedd yna arogl nwy amlwg, ac yna fe chwythodd y tŷ lan," dywedodd Ms Williams.

"Syrthais yn ôl ar y llawr ac o'n i'n gallu gweld o edrych lan bod y nenfwd wedi cwympo ac roedd yna rwbel ym mhobman."

Syrthiodd rhewgell ar ei phen, gan ei chaethiwo yn erbyn wal. Dywed Ms Williams bod hynny wedi achub ei bywyd, gan ei hamddiffyn wrth i ragor o rwbel syrthio.

Ffrwydrad BlaendulaisFfynhonnell y llun, Kirsten Williams

Cafodd Ms Williams losgiadau i bron 70% o'i chorff ac fe dreuliodd 14 o wythnosau yn Ysbyty Treforys ble bu'n rhaid ei rhoi mewn coma am fis.

Cafodd ei meibion ifanc losgiadau i oddeutu 28% o'u cyrff.

Mae Ms Williams yn cofio eisiau gweld ei phlant ar ôl dod allan o'r coma, ond yn gyndyn iddyn nhw ei weld yn y fath gyflwr.

"Rwy'n credu 'mod i'n amddiffyn fy hun," meddai. "Roedd ofn arna'i. Doeddwn i ddim mo'yn iddyn nhw fethu â fy nabod."

Jess Williams
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Jess Williams bod anafiadau hi a'i meibion yn eu hatgoffa'n ddyddiol o'r hyn a ddigwyddodd

Dywedodd bod ymchwiliad wedi dod i'r casgliad mai nam gyda rheolydd potel nwy wnaeth achosi'r ffrwydrad.

"Doedd dim rhagrybudd," meddai. "Fydden ni ddim fod wedi gwybod nad oedd yn gweithio'n iawn.

"Ro'n wedi defnyddio'r popty i goginio y diwrnod cynt a doedd dim awgrym bod yna broblem."

Newidiodd ei bywyd mewn sawl ffordd wedi'r ffrwydrad, a bu'n rhaid iddi ddysgu cerdded eto.

'Dim dewis ond cael nerth o rywle'

Dywed Ms Williams ei bod wedi canfod nerth oddi mewn iddi na wyddai oedd yno.

"Mae llawer o bobl wedi dweud wrtha'i 'edrycha pa mor gryf wyt ti'. Doedd dim dewis ond cael nerth o rywle.

"Rwy'n credu bod pawb â'r nerth cudd yna tu mewn iddyn nhw a phan mae bywyd yn wirioneddol galed, mae'n rhaid chwilio amdano a chanfod y nerth oddi mewn."

Mae Ms Williams wedi diolch i'r gymuned am eu cymorth i'w teulu yn ystod ac ar ôl y ffrwydrad.

"Roedd yn aruthrol i ddod adref a gymaint o arian wedi ei godi i ni. Ges i negeseuon o gefnogaeth gan gymaint o bobl.

"Mae pobl o fewn ein cymuned wedi bod yn rhyfeddol a fyddwn ni ddim ble rydyn ni heddiw heb cefnogaeth y bobl. Rydym yn wir ddiolchgar am byth am hynny."

Jess a'i meibionFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jess Williams yn gobeithio y bydd y gwaith o ailgodi eu cartref wedi ei gwblhau cyn diwedd y flwyddyn

Mae'r gwaith adeiladu i'w cartref yn parhau ac mae Ms Williams yn dweud eu bod yn gobeithio gallu symud yn ôl yno erbyn diwedd y flwyddyn.

"Mae tua tri chwarter y gwaith allanol wedi ei wneud - unwaith mae hynny wedi darfod, gobeithio gallwn ni ddechrau ar y tu mewn," meddai.

Ychwanegodd eu bod yn "wirioneddol hapus ble roeddan ni'n byw" ond ei bod yn credu na fydd byth yn dod dros y ffrwydrad yn gyfan gwbl.

"Yr hyn sy'n rhoi'r gofid mwyaf yw [colli] pethau babi - eu dillad babi, llyfrau sgrap, teganau bach roedden nhw'n dwli arnyn nhw.

"Ond rwy'n meddwl pan fydd y tŷ wedi ei ailadeiladu, fydda i'n dawelach fy meddwl - bod e wedi ei wneud ac fe allwn ni ei roi tu cefn i ni gymaint â phosib a symud ymlaen."

Ychwanegodd ei bod wedi gallu mynd yn ôl i'w swydd cyn-ysgol - rhywbeth roedd hi'n amau y byddai'n amhosib ar un adeg.

"Rwy'n caru fy ngwaith... mae jest yn rhoi'r syniad i mi y gall bywyd cario ymlaen ac rwy' dal yn gallu gwneud popeth rwy' mo'yn ei wneud."

Pynciau cysylltiedig