Gorymdaith yn Wrecsam i ddathlu dyrchafiad y clwb pêl-droed

  • Cyhoeddwyd
Chwaraewyr ar y cae yn codi'r tlwsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd y chwaraewyr yn teithio o amgylch y ddinas ar fws a disgwyl i filoedd o gefnogwyr ddod i ddathlu

Mae disgwyl i filoedd o gefnogwyr Wrecsam fynd i longyfarch chwaraewyr y clwb mewn gorymdaith bws awyr agored nos Fawrth.

Mae busnesau'n paratoi am noson brysur arall a hynny'n dilyn mis llwyddiannus.

Ar ôl pymtheg mlynedd, fe wnaeth tîm y dynion ennill dyrchafiad i'r Gynghrair Bêl-droed ychydig dros wythnos yn ôl, a'r menywod i Adran Premier fis diwethaf.

Yn y cyfamser mae'r perchnogion o Hollywood, Rob McElhenney a Ryan Reynolds, wedi dweud mai gwneud y clwb yn hunangynhaliol yn ariannol yw eu nod.

I ddisgyblion Ysgol Bryn Alyn yn Wrecsam, mae'n gyfnod cyffrous wrth weld eu tîm lleol yn llwyddo.

"Mae o'n huge," dywedodd Scarlett wrth edrych ymlaen i ymuno â'r dorf nos Fawrth.

"Ma pawb yn falch bo' ni 'di ennill penwythnos diwetha' a ma llawer o bobl online wedi congratulatio Wrecsam hefyd," ychwanegodd Lexi.

Disgrifiad o’r llun,

Mae wedi bod yn "bymtheg mlynedd o uffern" wrth aros am y dyrchafiad yn ôl Dei Charles Jones

Mae'r dyrchafiad yn golygu y bydd Wrecsam yn chwarae yn Adran Dau y tymor nesaf - sef pedwaredd haen cynghreiriau proffesiynol Lloegr.

Ers pymtheg mlynedd, mae'r clwb wedi bod yn chwarae yn y Gynghrair Genedlaethol.

Mae Dei Charles Jones yn un o gefnogwyr brwd y clwb a bu'n aros amser hir am y dyrchafiad, dywedodd.

"Oedd 'ne emosiwn mawr yne," ychwanegodd wrth gyfeirio at y gêm fuddugol yn erbyn Boreham Wood.

"'Dan ni wedi dod allan o bymtheg mlynedd o uffern, d'eud y gwir, yn y gynghrair oedden ni ynddo.

"'Den ni'n falch iawn o gael mynd i fyny i'r Ail Adran."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe redodd miloedd o gefnogwyr ar y cae ar ôl y chwiban olaf pan drechodd Wrecsam Boreham Wood

Fe fydd y daith fws yn dechrau ar y Cae Ras am 18:15 nos Fawrth cyn pasio murlun newydd y clwb ar Lôn Crispin.Mae disgwyl i'r chwaraewr basio canolfan Saith Seren a Tŷ Pawb ar hyd y daith cyn anelu am y Stryd Fawr.

Yn y Cae Ras y bydd y daith yn dod i ben ac mae perchnogion busnesau yn paratoi am noson brysur yn y ddinas.

Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd y bws yn mynd heibio canolfan Gymraeg Saith Seren nos Fawrth ac mae'r cadeirydd, Chris Evans, yn barod am noson brysur

Yng nghanolfan Gymraeg Saith Seren yn Wrecsam, fe ddywedodd y cadeirydd Chris Evans fod y misoedd diwethaf wedi bod yn hwb ariannol hefyd.

"Mae 'di bod yn wych ers cwpl o flynyddoedd ond yn ddiweddar, ma' hi 'di mynd i fyny lefel arall.

"'Dan ni 'di cael dau Sadwrn yn gwylio'r gemau 'ma ac o'dd hi'n llawn dop, oeddan ni'n gorfod troi pobl i ffwrdd.

"O'dd 'na awyrgylch arbennig, bythgofiadwy, yn enwedig pan gaethon ni guro Boreham Wood i ennill y dyrchafiad."

Fe fydd y bws yn teithio heibio canolfan Saith Seren, a dywedodd Chris: "Dw i'n siŵr y bydd hi'n brysur eto."

'Clwb hunangynhaliol yw ein nod'

Fe ddywedodd un o'r cyd-berchnogion, Ryan Reynolds, ei bod hi'n "araf [ei] daro" fod Wrecsam wedi ennill dyrchafiad.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe ymunodd Ryan a Rob yn y dathliadau wedi'r gêm fuddugol yn erbyn Boreham Wood

"Alla i ddim credu fy mod mewn lle yn fy mywyd lle mae'r un tîm chwaraeon, heb sôn am un dw i'n digwydd bod yn gyd-berchennog arno, wedi effeithio arna' i mor ddwfn â hyn.

"Dw i'n teimlo fel yr oedd 'na newid DNA pan wnaethon ni fyw drwy'r foment Boreham Wood 'na."

Fe ychwanegodd Reynolds mai sicrhau fod y clwb yn "gynaliadwy" yw eu nod, a'u bod ar y ffordd i wneud hynny.

Mewn cyfweliad â S4C, fe ychwanegodd ei gyd-berchennog Rob McElhenney: "Ry'ch chi eisiau iddo [y clwb] fod yn hunangynhaliol a pharhau i dyfu.

"Dy'ch chi ddim eisiau colli arian ond dw i ddim yn meddwl fod yr un ohonom yn hyn i greu arian chwaith.

"Mae hyn yn ymwneud â thyfu'r clwb gorau."

Pynciau cysylltiedig