Bwcle: Dedfrydu dyn i isafswm o 22 mlynedd am lofruddio

  • Cyhoeddwyd
StevenFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Steven Wilkinson ar ôl ymosodiad ym Mwcle y llynedd

Mae dyn 25 oed o Sir y Fflint wedi ei ddedfrydu i isafswm o 22 mlynedd o garchar am lofruddio cyn-ffrind iddo yn nhref Bwcle y llynedd.

Cafodd Steven Wilkinson, 23, ei gornelu gan Jamie Mitchell, a aeth ati i'w drywanu gyda chyllell ac achosi anafiadau catastroffig i'w ysgyfaint a'i galon.

Fe glywodd Llys y Goron yr Wyddgrug bod ffenestr tŷ Mitchell wedi cael ei thorri a'i fod o'n ysu i "ddial" - er nad y dioddefwr oedd yn gyfrifol am y difrod i'w gartref.

Wrth ei ddedfrydu, dywedodd y Barnwr Rhys Rowlands wrtho ei fod o "yn amlwg yn unigolyn peryglus iawn sy'n gallu ymddwyn yn eithriadol o dreisgar".

'Rhedeg ar ei ôl gyda chyllell'

Tua 22:00 ar 4 Hydref 2022, gadawodd Jamie Mitchell ei gartref ar Lexham Green Close ym Mwcle, gyda'r bwriad o ddarganfod pwy wnaeth dorri ffenestr ei dŷ yn gynharach y noson honno.

Gyda chyllell yn ei law, dechreuodd redeg ar ôl dau ddyn, sef Steven Wilkinson a'i ffrind Jordan Spencer.

Clywodd y llys mai nid nhw oedd yn gyfrifol am y difrod i'r tŷ - roedden nhw wedi bod allan mewn tafarndai gyda'r nos, ac roedden nhw'n dychwelyd adref wedi prynu rhywbeth i'w fwyta.

Wrth i Mitchell eu herlid, cafodd Mr Wilkinson ei gornelu ar lôn gul yn ardal Jubilee Court, oddi ar Precinct Way yng nghanol y dref.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Jamie Mitchell yn treulio o leiaf 22 mlynedd dan glo

Fe ymosododd Mitchell arno gyda'r gyllell a'i drywanu, ac fe aeth yr arf rhwng asennau Mr Wilkinson, gan achosi niwed i'w organau.

Wedi'r digwyddiad, rhedodd Mitchell i ffwrdd a dychwelyd i'w gartref, ac er gwaethaf ymdrechion i'w achub, bu farw Steven Wilkinson yn ddiweddarach y noson honno yn Ysbyty Maelor, Wrecsam.

Mewn datganiad i'r llys, dywedodd Lisa Wilkinson, mam y dioddefwr, ei bod wedi colli ei mab a'i ffrind gorau.

"Fe welais i fy mab yn marw mewn ffordd boenus ac erchyll gyda'm llygaid fy hun - rhywbeth na ddylai mam orfod gwneud," meddai, mewn dagrau.

Darllenodd bargyfreithwyr yr erlyniad gweddill y datganiad ar ei rhan.

"Dwi methu cael gwared o'r atgof 'na o weld fy mab yn marw o'm blaen, dwi'n dal i gael ôl-fflachiadau i'r noson erchyll honno."

Dywedodd ei bod wedi dioddef o iselder, gorbryder, PTSD ac wedi ceisio lladd ei hun yn y misoedd ers marwolaeth Mr Wilkinson.

Ychwanegodd bod y profiad wedi achosi dibyniaeth ar alcohol ac wedi chwalu ei pherthynas gyda'i chymar ac aelodau o'i theulu.

Dywedodd nain Mr Wilkinson, Jeanette, bod ei "bywyd wedi ei ddinistrio" y noson bu'r dyn ifanc farw.

"Mae'r boen dwi'n ei deimlo… yn echrydus. Dwi'n ei fethu gymaint. Ddylai'r un nain orfod claddu ei hŵyr - ond dyna'n union dwi wedi gorfod gwneud."

'Ymosodiad llwfr'

Roedd Steven Wilkinson a Jamie Mitchell yn arfer bod yn ffrindiau, ond newidiodd eu perthynas wedi i Mitchell ddechrau canlyn chwaer Mr Wilkinson, Jessica, yn 2020.

Er i'r garwriaeth honno ddod i ben yn 2021, cymododd y ddau ar ddiwrnod y llofruddiaeth, a threuliodd Jessica y diwrnod cyfan yn nhŷ Mitchell.

Clywodd y llys hefyd bod Mitchell wedi ymddwyn yn fygythiol tuag at Mr Wilkinson pan oedd y ddau mewn siop y diwrnod blaenorol.

Ffynhonnell y llun, Google Streetview
Disgrifiad o’r llun,

Jubilee Court, Bwcle

Wrth ddedfrydu Mitchell, dywedodd y barnwr bod hwn yn "ymosodiad llwfr gan ddyn ifanc annigonol".

"Mae'n debyg bod munudau olaf Steven Wilkinson yn erchyll," meddai wrth Mitchell, gan ychwanegu bod hwn yn enghraifft o'r hyn sy'n digwydd "pan fo pobl yn cario cyllyll ar ein strydoedd".

Dywedodd Ceri Ellis-Jones o Wasanaeth Erlyn y Goron (CPS) bod y llofrudd wedi gadael ei dŷ "wedi'i gynddeiriogi ac yn cario cyllell gyda'r bwriad o ddial".

Ychwanegodd: "Cyflwynodd y CPS dystiolaeth gref yn dangos ei fwriadau a arweiniodd at ei ddedfrydu.

"Mae'r achos hwn yn ein hatgoffa pa mor beryglus yw cyllyll mewn mannau cyhoeddus, a chanlyniad hynny yn aml yw trychineb.

"Collodd Steven ei fywyd mewn ffordd dreisgar, ac mae ei deulu a'i ffrindiau'n galaru'n ddwys amdano ac rydym yn parhau i feddwl amdanynt ar yr adeg hon."

Pynciau cysylltiedig